Y Cymro – 15/11/13
Mae’n dymor cyffrous yma yn Llundain eto, wrth i’r Hydref
hudo sawl sioe newydd i’n denu a’n diddanu, wrth agosáu at wyliau’r Nadolig.
Falle mai’r llu pererinion presanta dolig, neu’r ysgolion o hanner tymor sy’n
tyrru yma yn yr Hydref, sy’n gyfrifol am ffresni’r wledd yn y West End?
Addasiad o ddwy nofel a drodd yn ffilmiau, ac sydd bellach
yn ddramâu cerdd, sy’n dod i’r llwyfan gyntaf, yr wythnos hon. Dwy ffilm a sioe
cwbl wahanol, dau gyfnod, dwy wlad, a dau ymgais drudfawr, i ddenu’r
gystadleuaeth eithriadol am arian prin, chwi brynwyr y tocynnau. ‘From Here to
Eternity – The Muscial’ i gychwyn, sef addasiad cignoeth ac amrwd, Bill Oakes o
nofel lled-hunangofianol James Jones,
gafodd ei throi’n ffilm lwyddiannus gan Fred Zinnermann, ym 1953. Llwyfan
theatr y Shaftesbury yw’r lleoliad (sydd ar gornel goll tu cefn i Covent
Garden) a chyn gartref i sawl sioe fyrhoedlog
fel ‘Flashdance’ a ‘Hairspray’,
gan fawr obeithio am dynged well, y tro hwn.
Trasiedi Pearl Harbour ym 1941 yw cefndir y stori, wrth i
gatrawd o filwyr aros yn eiddgar, am orchymyn i weithredu, yn harddwch Hawaii.
Mae’r criw yn cecru ac yn caru, yn cwffio a rhegi’u dyddiau segur, o dan adain
hen theatr ddadfeiliedig wych, y cynllunydd Soutra Gilmour.
Cyn camu dros y trothwy, hawdd iawn yw gweld faint o arian a
wariwyd ar lwyddiant y sioe, diolch i bosteri lliwgar a llachar, yn mawrygu’r
‘sêr’ fel yr Albanwr tu-hwnt-o-dal, Darius Campbell (cyn gystadleuydd Pop Idol)
ac un o sêr y sioe ‘Gone with the Wind’,
a’r wraig briod mae’n ei swyno, a’i charu, Rebecca Thornhill. Y gadwyn
gwana imi oedd ‘Prewitt’ (Robert Lonsdale) a roddodd ei orau glas, ond yn
anffodus na feddiannai lais mor gryf â’r gweddill. Er bod ei eiddilwch yn
gweddu’n dda i’r milwr a wrthododd ymladd, roedd gwendid amlwg yn amlygu’i hun,
dro ar ôl tro.
Er gwaetha gwaith rhagorol y cwmni cyfan, (gan gynnwys dau
Gymro Dale Evans a Marc Antolin) coreograffi celfydd Javier De Frutos sy’n aros
yn y cof – yn fedrus o felys, wrth droi pob miri militaraidd yn wledd gorfforol
i’r llygaid. Derbyniol iawn oedd cerddoriaeth wreiddiol Stuart Brayson, a
geiriau’r arch gyfansoddwr, a chynbartner creadigol Lloyd Webber, Tim Rice, a
phŵer ac emosiwn eu seiniau yn iasol o effeithiol wrth goffau ‘The Boys of
‘41’, sef y 2,335 milwr a laddwyd yn y gyflafan.
Ydi, mae hi’n werth ei gweld. Mi fwynheais i beth bynnag,
heb weld y ffilm wreiddiol chwaith. Ond, mi welais rhai yn mudo cyn yr ail-ran,
gan ail-enwi’r sioe (o dan eu gwynt) yn ‘From here to November!’. Chwaeth
bersonol fydd yn rhagori, unwaith yn rhagor, ond dwi’n eitha ffyddiog y bydd
hi’n dal ei thir, ond falle ddim hyd dragwyddoldeb!
A sôn am chwaeth, (neu ddiffyg chwaeth), os mai trowsus tu
hwnt o dynn un o’r prif actorion a’r set fwya' realistig a thal imi’i weld erioed,
yw’r ddau beth sy’n aros yn y co’, yna mae 'na wendid mawr yn rhywle! Ia, sôn
ydw’i am y siom yr ail sioe, addasiad hir disgwyliedig o ffilm enwog Alan
Parker, a nofel enwog Roddy Doyle, ‘The Commitments’.
Wedi’i osod ymysg fflatiau concrid, uchel a thlawd, Dulyn yn
yr wythdegau, dyma stori am griw o bobol ifanc ddiflas, sy’n penderfynu creu
band ‘soul’, er mwyn rhoi’r enaid yn eu bywydau llwm. Yn wahanol iawn i galedi
a brynti’r ffilm, sy’n llwyddo’n eithriadol o dda i ddal naws y craic
Gwyddelig, mae cynhyrchiad costus y cyfarwyddwr ifanc talentog Jamie Lloyd, yn
teimlo mwy fel dawns Disney lliwgar a glân, na budreddi’r bywyd brwnt.
Treuliais fwy o amser yn rhyfeddu at ba mor fyw oedd set
gymhleth ac enfawr Soutra Gilmour (unwaith eto!), wrth ail-greu’r fflatiau tal
sy’n diflannu i entrychion theatr y Palace, cyn gartref Les Miserables, ac yn
fwy diweddar, Singing in the Rain. Mae’r sioe yn slic, ac yn symud yn urddasol
iawn o olygfa i olygfa (prawf o allu llwyfannu a gweledigaeth Lloyd i lywio a
lliwio’r cyfan), ond imi, roedd y ffaith i’r cwmni orfod gorfodi a godro’r
gynulleidfa i godi ar ein traed ar y diwedd, er mwyn ymuno yn y craic, yn
arwydd o fethiant naturiol y sioe.
No comments:
Post a Comment