Y Cymro
Yr ystadegau trychinebus am dlodi yng Nghymru, a chyfraniad dienw'r fam ar raglen Taro’r Post, Radio Cymru, sydd wedi sbarduno’r dweud, yr wythnos hon. Sôn oedd y wraig ddewr am ei brwydr ddyddiol i ddal dau ben llinyn y teulu a’r cartref ynghyd, ar ôl dwy flynedd ddi-waith. Roedd gwrando ar ei chyffes onest, a’i brwydr yn wir deimladwy, ac roeddwn i mor falch o glywed fod pethe’n haws, erbyn hyn.
Un o’i phrif bryderon oedd ei balchder; yr ofn echrydus
hwnnw o orfod gofyn am help, neu yn ei hachos hi, nad oedd yr help ariannol ar
gael, am fod ei gŵr mewn gwaith, a bod gan y teulu forgais a char. Y balchder
hwnnw sy’n ein dal ni’n ôl, dro ar ôl tro, gan inni gredu mai ein bai ni
ein hunan, yw’r prif reswm dros fod yn y ‘llanast’. Ond wir ichi, fel y profais
innau, bron i ddwy flynedd yn ôl, weithia mae’n rhaid ildio i ddigwyddiadau
sydd y tu hwnt i’ch gallu meidrol.
Nôl ym mis Mawrth 2012, aeth pethe mor ddrwg imi, heb ddeall
pam na sut, bu imi geisio cyflawni hunanladdiad. Yr hyn sydd wedi’n nychryn yn fwy na dim, oedd
yr awydd pendant oddi mewn, i ymadael â’r byd hwn, yn ddi-boen a dibryder.
Bellach, dwi’n deall pam, a does gen i ddim cywilydd cyhoeddi mai brwydr fydd gweddill
fy mywyd bellach, yn erbyn y ci o salwch a elwir yn iselder.
Gyda holl heip S4C dros y Sul am ‘Ysbyty Meddwl Dimbach’,
roeddwn i’n croesawu’r cyhoeddusrwydd yn fawr, ond yn siomi o glywed Lisa
Gwilym, cyflwynydd y gyfres ‘Pethe’ yn mynnu deud y gair ‘Seilam’, dro ar ôl
tro. ‘Ysbyty’ oedd dewis gofalus, doeth, a pharchus y cyfranwyr eraill, ac
ysbyty i gleifion oedd yn cwffio gyda salwch anweledig, oedd yr adeilad yn
Ninbych.
Hysbyseb Asda |
Cefais innau, fel llawer arall, fy nghythruddo’n llwyr gan
yr archfarchnadoedd Asda a Tesco, ganol yr wythnos, wrth iddynt hysbysebu gwisg
calan gaeaf newydd sef ‘strait-jacket’ wen, waedlyd gyda holltwr, o dan yr
enw’r ‘Mental Patient Costume’! Buan iawn y llanwyd tonau trydar a wê’r weplyfr
gyda lluniau personol o’n hunain, yn ein gwisg gyffredin, bob dydd, gyda’r
geiriau – ‘dyma fy ngwisg ‘mental patient’ i heddiw, a’r Halloween hwn!’
Gobeithio bydd y ddirwy o euogrwydd a dalodd Asda tuag at elusen MIND, yn
ariannu’r gwella ac addysgu.
Yn ystod fy chwe wythnos yn ysbyty meddwl Roehampton, yma yn
Llundain – fedrai’ch sicrhau chi na welais yr un siaced wen na holltwr
gwaedlyd. Pobol, fel chi a fi, pob un yn boddi mewn gofidiau, yn falch o fod
mewn gofal er mwyn cael gwella, cwffio a dod i ddeall y salwch creulon sy’n
cuddio oddi mewn i un-o-bob-tri ohonom, bellach. Fel gydag unrhyw ysbyty arall,
mae meddygon, moddion a môr o wybodaeth ar gael i reoli ac wynebu’r salwch. Y
cam cyntaf ydi cydnabod, a gofyn am gymorth. Gyda gobaith, rheolaeth a
chymdogaeth, fe ddaw haul ar fryn, unwaith eto, credwch fi.
Coleg Gwella De Orllewin Llundain |
‘Wyt ti’n meddwl mai doeth o beth ydi cyhoeddi hyn, i’r byd
a’r betws?,’ holodd un ‘ffrind’ yn ddiweddar. Ydw, ydi’r ateb. Ar fy niwrnod
cyntaf yn y Coleg Gwella – coleg a chyfle unigryw yn ne-orllewin Llundain, i
gleifion fedru cyd-ddysgu a chyd-wella, o dan arweiniad cyn-gleifion a nyrsys,
rhoddwyd rhestr o enwau adnabyddus o fy mlaen. Roedd dros 300 o enwau arno – o
Mozart i J.K Rowling, o Einstein i Stephen Fry, a’i bwrpas? Y negas syml fod
gan BOB UN ohonynt ryw arlliw o salwch meddwl, ac felly gwae i unrhyw un eich
cwestiynu na’ch ceryddu.
Aeth deunaw mlynedd heibio ers imi ennill y Fedal Ddrama, am
y tro cyntaf, yn Eisteddfod yr Urdd. Wrth edrych yn ôl, dros y tair drama a
ddilynodd, mae’r themâu yn anghyfforddus o gyfarwydd erbyn hyn. Unigrwydd,
anhapusrwydd a cholled. Elfennau sy’n rhaid imi’u trin a’u trafod yn wythnosol,
mewn sesiynau therapi, er mwyn ceisio canfod y gwraidd. Diffiniad o adolygydd
yn ôl rhai ydi – ‘un sy’n gwybod yn iawn sut i ddarllen y map, ond sy’n methu
gyrru’r car!’. Felly, mae hi’n amser i minnau, eistedd yn y sedd yrru, ac
ail-afael yn yr awenau.
Daily Post 1996 |
‘Dan y Don’ fydd fy nghyfraniad cyntaf, sef drama newydd i
Radio Cymru fydd yn cael ei recordio ganol y mis, a’i ddarlledu ddechrau
Tachwedd. Ceisio darlunio’r byd saff a phell, mae’r sglyfaeth o gi iselder, yn
ein llusgo, o dro i dro yw’r bwriad. Mae ynddi adlais o ‘Dan y Wenallt’, y
gerdd radio enwocaf, heb os, a chatharsis personol imi, wrth ail-fyw’r boddi
cyn y cryfhau.
A’r dyfodol? Wel, ddechrau’r flwyddyn, bu imi ail-afael
mewn drama, fu ar y gweill gennai ers rai blynyddoedd. Nôl yn 2007, wedi gweld drama
‘Total Eclipse’ gan Christopher Hampton, am berthynas angerddol a threisgar dau
fardd Ffrengig, dyma gychwyn hel meddyliau. Beth tybed am ein beirdd ni, yma’n
Nghymru? Oedd stori angerddol, gyffroes, angen ei hadrodd – teimladau a bywyd
na allodd ‘pobol ddoe’ ei rannu, oherwydd yr Oes, y trigent ynddi?. Dyma gofio’n mwyaf sydyn am y ffilm ‘Atgof’,
gafodd ei darlledu ar S4C, rai blynyddoedd ynghynt – dramateiddiad (dros ben
llestri) Ceri Sherlock am berthynas y bardd Prosser Rhys a’r annwyl Morris T
Williams, llenor hynod o weithgar, sydd wedi cael ei drin yn eithaf shiabi, yn
fy nhyb i, yn sgil bod yn ŵr i Kate Roberts, ac yn gaeth i alcohol. Yng
ngeiriau Aled Jones Williams yn ddiweddar, ‘symptom yn unig yw alcoholiaeth’,
gan fod yna wastad boen tu ôl i’r botel.
Morris T Williams (dde) |
Dyma fynd ati i ddechrau darllen, a sylweddoli yn fuan
iawn, bod yma fynydd mwy na’r Wyddfa i’w ddringo. Cyn dod i unrhyw benderfyniad
am fywyd y ddau, roeddwn i wirioneddol eisiau deall y cyd-destun gora posib, ac
felly bu’n rhaid rhoi’r ymchwil a’r darllen o’r neilltu, er mwyn ennill cyflog
i fyw. Nawr, wedi’r drin dwy flynedd yn ôl, a chyda chefnogaeth y Theatr
Genedlaethol gyda’r ymchwil, rwyf wedi ail-afael yn swyn y ddau gymeriad hoffus
yma.
Prosser Rhys yn Eisteddfod Aberdâr 1924 |
Wedi cysylltu o ran cwrteisi â’r Prifardd Alan Llwyd, siom
oedd clywed ei fod yntau, bellach, hefyd yn gweithio ar syniad ffilm am hanes
Kate, Morris a Prosser, ar gais y cynhyrchydd teledu Branwen Cennard. Doedd gan
Alan ddim gwrthwynebiad i’r ffaith mod inna hefyd wedi bod ar yr un trywydd, ac
yn croesawu’r ffaith ein bod ni’n gweithio mewn dau gyfrwng gwahanol. Felly, yn
sgil y sbloets o blaid ffilm S4C, teg ydyw i minnau ganu utgorn y llwyfan, gan
ddiolch i Arwel a’r Theatr Genedlaethol, am roi eu ffydd yndda i.
Ac i orffen, peidiwch BYTH a bod ofn gofyn am help. Nid
gwendid ond cryfder yw. Rhannwch eich problemau, trafodwch â’ch teulu, MAE yna
wastad ateb, fel y profodd y fam ifanc ar Taro’r Post. Dyma finna’n taro’r
post, gan obeithio bydd y pared a’r gymdogaeth gyfan, yn ei chlywed. Diolch.
1 comment:
Arbennig, Paul. Wir yr! Dal ati
Post a Comment