Total Pageviews

Friday 27 September 2013

'The Lightening Child' / 'Land Of Our Fathers' / 'Grounded'


Y Cymro 27/09/13



Wythnos llawn atgofion fu hi, wrth imi ail-ymweld â lleoliadau ac ail-gwrdd a chymeriadau o’r gorffennol.

I gragen gynnes, awyr agored y Globe ar lannau’r Tafwys yr es i bnawn Sul, a hynny i ddal cynhyrchiad beiddgar o chwedl Roegaidd fodern, yn hytrach na gwaith y bonheddwr Shakespeare.

Y Bacchae o waith Euripides yw sail y cynhyrchiad ‘The Lightening Child’ sy’n mynd â ni o gamau cyntaf Neil Armstrong ar y lleuad, at dlodion di gartref caeth am gyffuriau; o fflat foethus ynghanol ein Llundain heddiw i broblemau Billie Holiday ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf.  Cybolfa o straeon diangen sy’n ymestyn y ‘ddrama’ wreiddiol hyd at bron i dair awr hynod o syrffedus. Do, fe ddaliwyd nwyd a beiddgarwch y Bacchae, y merched gorffwyll a hudai ddynion meidrol i ddilyn duw’r gwin a’r bywyd da, Dionysos – duw’r theatr a phob daioni, ond dwi’n amau dim bod y cyfarwyddwr Che Walker wedi gorfeddwi ar fod yn rhy uchelgeisiol.

Anodd yw anghofio’r cynhyrchiad delfrydol o’r Bacchae a brofais gan Theatr Genedlaethol yr Alban, yn yr ŵyl yng Nghaeredin yn 2007 gyda neb llai na Alan Cumming fel y duw beiddgar. Er gwaetha’r syrffed, roedd hi’n braf cael bod nôl yn y Globe ar un o nosweithiau ola’r haf, o dan y sêr a’r hofrenyddion, a’r awyrennau. Diolch byth na chafodd y bnr Shakespeare ddim mor un drafferth!

Braf hefyd oedd gweld yr actor Jonathan Chambers, a welais gyntaf, eto, yn yr ŵyl yng Nghaeredin tua 2006. Hobi oedd y canu a’r actio bryd hynny, ond erbyn hyn, wedi cynilo ei geiniogau prin, wedi ymdrechu drwy goleg hyfforddi Arts Ed, mae’i freuddwyd wedi’i wireddu, ac fe lanwodd ei drydan dramatig a’i lais unigryw'r cylch cyfareddol. Da iawn yn wir.


Ail-ymweld â’r popty o theatrfechan y 503 yn Battersea wedyn ar gyfer cynhyrchiad y bu cryn dipyn o sôn amdani, dros yr haf. ‘Land of Our Fathers’ oedd y teitl a dynnodd fy sylw, a’r Henwlad ffyddlon oedd dan sylw yn nrama hir gyntaf y dramodydd Chris Urch. Allwn i’m gweld bod gan y dramodydd ifanc yma fawr o gysylltiad â Chymru, ac roedd hynny’n boenus o amlwg yn y cynhyrchiad sigledig yma.

Hanes chwech o lowyr wedi’i dal dan ddaear yn sgil damwain yn y pwll, yw craidd y syniad. Cenedlaethau o’r un gymdogaeth yn gaeth, ac yn wynebu eu tranc trasig yng nghrafangau creulon y ddaear – tranc a fyddai’n hen gyfarwydd iddynt, yn sgil yr hanes a fu dros y blynyddoedd. Ond dewis anwybyddu hynny wnaeth y dramodydd ifanc, gan droi’r drasiedi yn un anturiaeth fawr i’r chwech wrth rannu eu pecynnau bwyd a’u dŵr, drwy ganu a dawnsio, cecru a chweryla.  Rhes o regfeydd o boerai allan o geg yr hen ŵr, rhegfeydd na fyddai’n sicr wedi’u clywed yn y Capel, ac ambell i ‘byt’, a ddiflannodd yn llwyr, ar ôl dudalennau cynta’r ddialog. Wedyn y llanc ifanc merchetaidd ‘Mostyn’ yn cael ei bortreadu gan y Cymro Joshua Price, a welais ddiwethaf yn nrama Dafydd James ‘Llwyth’ fel y bachgen ifanc pymtheg oed a gafodd ei swyno gan y llwyth hŷn. Synnwn i ddim mai hunan bortread o’r dramodydd oedd y cymeriad dros-ben-llestri llywaeth yma, wedi gwirioni ar ‘musical theatre’ ac yn arbennig felly ‘The Sound of Music’ – a hynny yng Nghymru’r 1970au? Dim sôn am eisteddfod neu gôr meibion, ond Julie Andrews a Mary Poppins a’m gadawodd yn gegrwth yn nuwch tanddaearol set effeithiol Signe Beckmann.


Canmoliaeth am ei ddawn dialogi disglair, ond roedd ei anaeddfedrwydd di-gymraeg a’i ddiffyg adnabyddiaeth o’r cyfnod a’n diwylliant, yn boenus o amlwg.



A nodyn positif i orffen. Cyfle o’r diwedd i ddal y fonolog wych ‘Grounded’ a wnaeth gymaint o argraff ar gynulleidfaoedd y Traverse yng Nghaeredin eleni, ac sydd bellach wedi’i ddaearu yn y Gate, yn Notting Hill. Wedi’i chaethiwo yn ei chell lwyd, cawn dreulio chwrligwgan chwe deg munud yng nghwmni’r peilot awyrennau rhyfel (Lucy Ellinson), wrth iddi ail-fyw ei thaith gorfforol a meddyliol o ryddid ‘ei glas’ i ‘lwyd caeth’ a’i duwch. O berygl maes y gad i gerbyd ynghanol anialwch Las Vegas, ble y cafodd ei chaethiwo ar y ddaear, a’i gorfodi i reoli’r ‘drôns’ bondigrybwyll, sy’n achosi’r fath ddinistr dros dir y Mwslemiaid.  (‘Drôns’ yn yr ystyr awyrennau rhyfel, unarddeg miliwn, di-beilot yn hytrach na dillad isa’ gwrywaidd – fel y dryswyd darllenwyr ‘Golwg’ yn ddiweddar!).

Os am enghraifft berffaith o fonolog gyhyrog, gyda’i adeiladwaith celfydd, a’i drin geiriau gonest a gofalus, yna mynnwch docyn heddiw. Cefais fy hudo’n llwyr gan ddawn yr actores, y cyfarwyddo a’r cyfanwaith crefftus, a mwynheais bod eiliad o’r daith emosiynol, ddidrugaredd.


Mae ‘Grounded’ i’w weld yn y Gate tan y 5ed o Hydref, ‘Land of Our Fathers’ yn y 503 tan y 12fed o Hydref  a ‘The Lightening Child’ yn y Globe hefyd tan y 12fed Hydref.

No comments: