Total Pageviews

Friday 5 July 2013

Drwy'r Ddinas Hon




Y Cymro – 05/07/13


Drwy afon drwchus o draffig yr M4, y cyrhaeddais y ‘ddinas hon’ – Caerdydd, a chanolbwynt tair drama fer ddiweddara Sherman Cymru. Dwi di holi ers blynyddoedd , ble oedd llwyfan y lleisiau newydd?, a dyma waddol cyfnod o greu a gychwynnodd nôl yn 2009, o dan arweiniad Siân Summers, Arwel Gruffydd, Elen Bowman, Branwen Davies a Mared Swain.  Ar gyfer ‘Drwy’r Ddinas Hon’ gofynnwyd am ddramâu yn canolbwyntio ar y brifddinas, a threfnwyd teithiau arbennig i ymweld â gwahanol leoliadau. O’r Deml Heddwch i’r Dociau, drwy dudalennau’r degawdau o atgofion, daeth pedair blynedd o gyd-weithio ar draws y llwyfan, yn stiwdio glyd y Sherman.

Wrth gychwyn y gwaith, roedd y Sherman ar gau, ac felly'r bwriad gwreiddiol oedd llwyfannu’r gweithiau o gwmpas Caerdydd. Syniad unigryw, bryd hynny, ond un sy’n cael ei or-ddefnyddio a’n syrffedu ar hyn o bryd,  yn sgil y ddwy Theatr Genedlaethol. Gyda chymaint o bwysau ariannol ar ein Cynghorau Sir, siawns nad oes angen dechrau cefnogi ein canolfannau a’n llwyfannau sefydlog?

Drama fer Marged Parry i gychwyn, ‘Traed Bach Concrit’ wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ‘y dyfodol agos’, wrth baratoi am y Datguddiad Mawr . Arch Noa o unedau gwydr gyda’r dewisedig rai, a’u tocynnau, bob yn ddau, yn cyd fyw a chyd ddelfrydu. Er bod dialog Marged yn adleisio dawn unigryw ei thad Gwenlyn, a phortread Siw Huws a Hana Jarman o’r ‘Fflur’ a’r ‘Lowri’ lwcus yn cynnal ein diddordeb, roedd angen tipyn mwy o waith ar adeiladwaith a diweddglo’r ddrama, er mwyn codi lefel y tensiwn theatrig rhwng y ddwy, gan archwilio’r paranoia a’r gaethiwed glos fyddai’n sicr o fod wedi effeithio ar bob enaid byw. Sbardun i ddrama hirach o bosib? 


Fel gyda’r llais a llun y gŵr ‘robotaidd’ (Tom Eames) yn y ddrama gyntaf, ac yn fwy fyth gyda llais y ‘swyddog’ (Siw Huws) yn nrama gymhleth ond gyfoethog, Dyfed Edwards, ‘Llwch o’r Pileri’, roedd hadau pwysig y stori a’r cyd-destun yn cael ei draethu drwy droslais, ym munudau cyntaf y dramâu byr. Y munudau gwerthfawr hynny, ble mae angen amser i ymgynefino â’r gofod, yr amser, y cymeriadau, y set, a’r goleuo, heb sôn am ganfod stori! Mae angen llawer mwy o gymorth ac amser inni ddod i ddeall, a derbyn beth sydd o’n blaen. Er bod drama Marged wedi llwyddo gymaint yn well, diolch yn bennaf i set ddiddorol Cai Dyfan, a goleuo gwych Ace McCarron,  roedd llais a chyflwyniad y ‘brawd mawr’ yn amharu ar ei neges.

Fe effeithiodd y dryswch a’r diffyg cyd-destun hwn ar fy mwynhad o ddrama Dyfed Edwards hefyd, oedd wedi’i osod yn y gorffennol dychmygol, er inni gael ein boddi gan gerddoriaeth Wagner, ein dallu gan ddelweddau symudol go iawn o’r Ail-Ryfel Byd, i gyfeiliant y geiriau ‘Caerdydd 1958’ ar y sgrin, o boptu’r llwyfan. Fel gwybedyn ar wyneb y dŵr, roeddwn i ar goll, yn sgrialu ymysg y Swastikas, yn pryderu am y posibilrwydd o orfod pori yn hanes Caerdydd ym 1958, yn cael fy swyno gan bresenoldeb Siw Huws yn ei dillad cyfnod mamol, a chael fy nychryn gan yr ‘Hilter Youth’ ar y llwyfan oedd yn ymarfer rhoi gwn yn ei cheg i ladd ei hun.  Delweddau a’m dychrynodd yn llwyr. Wrth fynd yn ôl at y testun, y bore canlynol, roedd yr hadau hollbwysig  unwaith eto, yn y troslais diog, yn neialog lenyddol gyhyrog Dyfed, ar gychwyn y ddrama. Ffeithiau a chyd-destun a ddylid fod wedi cael ei gyfleu yn fwy cynnil a chlir drwy’r ddialog neu’r elfen weledol o’r llwyfannu.

Drama Sharon Morgan, ‘Myfanwy yn y Moorlands’ a’m swynodd fwyaf, a hynny lawer mwy, o’i hail ddarllen ar bapur.  Ar yr olwg gyntaf, gyda’i chês a’i chot, dychmygais mai Shirley Valentine o gymeriad oedd ‘Myfanwy’ (Siw Huws), wrth gael ei swyno, ei serenedio a’i sediwsio gan y llanc o Sais, Tom Eames. Ond wrth iddo ei thywys drwy strydoedd presennol y ddinas, dechreuodd yr amwysedd ynglŷn â’i ‘bresenoldeb’ a gweledigaeth Myfanwy o’r Caerdydd gyfoes. Caerdydd ei hatgofion o’r 1970au ddaeth i’w chysuro.  Er mod i’n deall (a derbyn) dadl y ‘mewnlifiad’ i Gaerdydd o Gymry amrywiol, dwi’n dal i feddwl y byddai’r ddrama (a’r syniad craidd) wedi’i atgyfnerthu gan bresenoldeb acen amrwd Caerdydd, y brif actores, nid Gogleddol


Clod i’r dramodwyr am fynd ati i lunio gwaith o safon uchel iawn; gwaith a fwynheais lawer yn fwy o’u darllen wedyn. Wedi treulio cymaint o amser yn hyfforddi dramodwyr, efallai fod hi’n amser nawr i hyfforddi cyfarwyddwyr fydd yn gallu parchu eu gwaith, sy’n gallu pellhau eu hunain ddigon o’r ymarferion a’r blynyddoedd o baratoi i ofyn mewn gwaed oer, ydi neges, stori, cyd-destun neu ddiben y ddrama hon yn gneud synnwyr? Ydi PAWB (gan gynnwys yr actorion) yn DEALL beth sy’n digwydd?

Fel gyda dramâu Aled Jones Williams, (fu’n hyfryd ei weld yn y Donmar yn ddiweddar) dwi’n dal i aros am gynhyrchiad teilwng o’i waith yntau. Felly, mae’r dramodwyr ‘newydd’ uchod mewn cwmni da iawn!

3 comments:

berwyn said...

newydd ddarllen dy flog a synnu dy glywed yn dweud dy fod eto i weld gynhyrchiad teilwng o waith aled jones williams-dim ond holi o ran diddordeb, welis di gynhyrchiadau bara caws o 'lysh', 'beth oedd enw ci tin tin', 'sundance', 'merched eira', 'pryd fuo kathleen ferrier farw'? diddordeb gwybod pam nad oeddent yn gynhyrchiadau teilwng o'i waith?

Paul Griffiths said...

Diolch Berwyn. Fel dwi wedi cydnabod ar dudalennau'r Cymro yn y gorffennol, mae Bara Caws wastad wedi llwyfannu cynhyrchiadau effeithiol iawn o waith Aled, ond i mi, yn bersonol, mae'r dramâu yn perthyn i lwyfannau lawer mwy - mwy yn yr ystyr maint. Fues i'n trafod y mater gydag Aled ei hun, gwta bythefnos yn ôl, fel mae'n digwydd, ac mae o'n dueddol o gytuno â mi! Fe gyfaddefodd wrthyf hefyd ei fod yn gorfod bod yn llawer mwy gofalus, pan yn cyfansoddi dyddiau yma, gan ei fod yn gwybod bod cyllidebau, ac anfantesion creadigol eraill, yn ei atal rhag cyflwyno ei lawn ddarlun. O fewn eich cyfyngderau ariannol chi, mae Bara Caws wedi llwyddo, ond pam ddylie dramodwyr ildio'u gweledigaeth ar lwyfan mawr, ar draul cyllidebau?
Wedi darllen ei waith, mae gennyf inna fy nehongliad fy hun o ambell ddrama, sy'n dra gwahanol i'r hyn welais i gan Bara Caws, ymysg eraill. O wybod bod Aled, fel minnau, yn ymwelydd cyson â theatrau Llundain, allai mond dehongli'r hyn dwi'n ei ddarllenm gyda'r hyn dwi'n ei weld yn ddyddiol, bellach.

Paul Griffiths said...

Ymateb diddordol a theg iawn gan Dyfed yma ar ei blog http://maesrhosrhyfel.wordpress.com/2013/07/16/saunders-lewis-ar-speed/?blogsub=confirming#subscribe-blog