Total Pageviews

Friday 26 July 2013

Blodeuwedd





Y Cymro 26/07/13

Ym mis Mai 2009, roeddwn i’n deud y drefn am fod  ein Theatr Genedlaethol  dair oed, ymhell ar ôl Theatr Genedlaethol Yr Alban, ar ôl eu blwyddyn gyntaf. Dros yr wythnos a fu, cefais y fraint o ail ymweld â’r ddwy Theatr Genedlaethol a’r tro hwn, roedd y Cymry gystal, os nad gwell. 

Fues i rhwng dau feddwl ynglŷn â mynd i weld cynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Blodeuwedd’; yn bennaf oherwydd y daith hir o lannau’r Tafwys, heb sôn am y blinder corfforol, wedi teithio cryn dipyn yn ddiweddar. Ond, mynd a wnes, diolch i e-bost gan Arwel Gruffydd yn crybwyll y byddai sôn am y cynhyrchiad am flynyddoedd i ddod.

Mor lwcus y bues i o gael bod yn dyst i’r digwyddiad theatrig yma. Tomen y Mur oedd y lleoliad cyfareddol, yn y mynydd-dir uwchben atomfa Trawsfynydd. Taith bws o ugain munud o’r meysydd parcio i’r rhan fwyaf o gynulleidfa, ond ras 300 milltir mewn car i minnau, wedi’i nal mewn traffig ar yr M6. Petai’r awr a hanner hynny ddim yn ddigon o oedi, cael fy nal wedyn tu ôl i Rhys Meirion a’i griw yn Cerddwn Ymlaen ochrau Dinas Mawddwy, ac wedyn y llwybr diddiwedd o oleuadau traffig ar yr A470!.  

Erbyn imi gyrraedd, roedd Blodeuwedd (Morfydd Clark), y ferch a wnaed o flodau gan y dewin Gwydion (Glyn Pritchard) er mwyn trechu tair tynged ei gŵr Llew Llaw Gyffes (Iddon Jones) drwy roi iddo “…enw, ac arfau, a’r wraig ryfeddaf a grëwyd” eisoes wedi cwrdd â charu â’r Gronw Pebr golygus (Rhys Bidder). 

Wrth ruthro am y Domen, union leoliad y ‘Gaer yn Ardudwy’ ble y gosododd Saunders Lewis ei glasur o ddrama farddonol,  gallwn wrando ar yr olygfa, diolch i’r clustffonau a roddwyd inni’u gwisgo.  Wrth agosáu at y dodrefn ynghanol y cae ac i gyfeiliant dwndwr y defaid,  roedd Blodeuwedd, mewn dillad cyfnod o’r 1920au, yn bygwth ei morwyn Rhagnell, (Non Haf), i gadw’r gyfrinach y caru. Gyda dychweliad Llew, yn ei wisg filwrol, llwyddodd y Blodeuwedd ddau wynebog i barhau â’i chynllwyn i ladd ei gŵr ac i ffoi gyda Gronw.

Wrth gerdded a gwrando ar yr olygfa rhwng Blodeuwedd a Gronw, roeddwn i’n dra bryderus am acenion chwithig Morfydd a Rhys. Roedd yr angerdd yn sicr yn fyw iawn, a gallwn gredu gant y cant yn serch y ferch wyllt at ramant rhyddid yr heliwr.  Ond gyda chadernid cartrefol presenoldeb hudolus Iddon a Phenteulu Penllyn (Martin Thomas) a’u triniaeth ddeallus a byw o ddialog cyhyrog a chymhleth Saunders, gallwn dderbyn yr elfen ddeheuol, estron, a natur wyllt y ddau gariad. 

Cael ein harwain, wedyn, o’r Gaer tuag at lan yr afon a’r cafn o ddŵr, gan bresenoldeb urddasol y bwtler o was, (Owain Llŷr Edwards), ble y cipiwyd fy ngwynt gan yr olygfa gyfareddol o ben y mynydd, a hawdd y gallwn ddeall gweledigaeth y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd, o osod y ddrama, yn ei chynefin.

Yn ôl patrwm y ddau gyfnod o gyfansoddi’r pedair act, roeddem bellach yn y 1940au a ffrog werdd gor syml a phlaen Blodeuwedd yn awgrymu hynny, wrth gadw oed â Gronw, i roi’r cynllun i ladd ei gŵr ar waith.   Eto, cipiwyd fy ngwynt gan angerdd Iddon Jones wrth ymfalchïo yng nghelwydd beichiogi ei wraig, cyn ei saethu’n farw gan glec dryll Gronw, gan adael i lif o waed, ffrydio o’i fron. Dramatig iawn.

Yn yr olygfa odidog olaf y cefais yr iâs fwyaf. Am y tro cyntaf erioed, daeth barddoniaeth Saunders yn fyw ac yn rhydd o hualau llefaru gor-bwysleisio eisteddfodol. Roedd angerdd a phresenoldeb yr actorion mor gyfareddol â’r Gaer, ac fe’m dalwyd gan swyn y digwyddiad hyd fy nadebru gan chwerthiniad iasol Blodeuwedd, cyn ei throi’n dylluan a hedfan o’i habsenoldeb at fraich y gwas gerllaw. Roedd och a syfrdan y gynulleidfa yn ddramatig ynddo’i hun, gyda sawl ‘brafô!’ yn cael ei atsain, heb ddisgwyl gweld yr aderyn prydferth yn cloi’r ddrama.  (Diolch i drydar dyddiol Glyn Pritchard, am berfformiad sigledig y dylluan dros y bythefnos a fu, doedd y deryn ddim yn sioc), ond clod i Arwel a meistr yr adar, John Islwyn Jones am olygfa y cofiaf amdani am byth.

Fel gyda’i driniaeth ddeallus o’r ddrama ‘Llwyth’, fe brofodd Arwel ei allu unwaith eto, i fynd â ni tu hwnt i eiriau’r sgript. Nid yn unig o ran emosiwn ac angerdd, ond yn llythrennol felly, drwy gynnwys dyfyniadau pellach o’r Bedwaredd Gainc o’r Mabinogi, i gyfeiliant cerddoriaeth bwerus Wagner, er mwyn gosod golygfeydd Saunders yn eu cyd-destun llawn. Drwy gynllunio syml, ond hynod o effeithiol Carl Davies a chynllun sain gymhleth Dyfan Jones, crëwyd yr awyrgylch perffaith drwy’r ddrama radio yn fy nghlustiau, oedd yn cael ei gyfoethogi gymaint gan y delweddau o’m blaen.

O’r diwedd, chwa o awyr iach hyderus, i’r cyfeiriad cywir, yn llygad tanbaid yr haul! Y gamp nawr fydd trosglwyddo hud, a chyfaredd y lleoliad i’r llwyfan, gan ddangos nad oes angen setiau mawr na chastiau mwy, i greu cyfanwaith cynnil a  chofiadwy.

No comments: