Total Pageviews

Friday 26 August 2011

Caeredin 2011 & The Dark Philosophers





Y Cymro – 26/8/11

Ynghanol hurtni’r Haf, cyfle chwim i wibio am Gaeredin er mwyn treulio deuddydd yn yr Ŵyl Ymylol flynyddol, ar ei 65ain ymweliad â’r ddinas unigryw yma. Eleni, mae’r Ŵyl yn fwy nag erioed, gyda 41,689 perfformiad o 2,542 sioe mewn 258 o leoliadau gwahanol. I unrhyw un sydd wedi ymweld â’r Ŵyl yn y gorffennol, fe wyddoch yn iawn am y modd mae’r ddinas yn deffro bob mis Awst i fwrlwm y Celfyddydau amrywiol, ac mae’n wefr bob amser bod yn eu plith.

Un o’r pennaf resymau am fy nhaith eleni, oedd i brofi’r cynnyrch Cymraeg, a dwy sioe yn benodol - y ddau gwmni Cenedlaethol gyda Theatr Genedlaethol yn ail-lwyfannu a theithio cynhyrchiad caboledig Sherman Cymru o ‘Llwyth’ a National Theatre Wales yn ail-lwyfannu gwaith Gwyn Thomas, ‘The Dark Philosophers’

Un o’r pethau sydd wastad wedi fy niddori a fy nghynddeiriogi am yr Ŵyl yw’r adolygiadau amrywiol sy’n britho pob gwefan, cyhoeddiad a phamffled yn ystod y tair wythnos. Drwy’r adolygiadau hanfodol yma, mae’r cwmnïau yn ceisio’n ddyfal i ddenu cynulleidfa, er mwyn ceisio ad-dalu rhywfaint o’r ddyled, sy’n rhan annatod o lwyfannu sioe mewn gŵyl o’i math.

Un o’r sioeau hynny, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel ac un o Wobrau’r Ŵyl oedd ‘2401 Objects’ cyd-gynhyrchiad rhwng cwmniau Analogue/Oldenburgisches Staatstheater/New Wolsey Theatre/Escalator East To Edinburgh yn y Pleasance. Cyflwyniad aml-gyfrwng oedd y nod, yn adrodd hanes Henry Molaison ym 1953, sy’n cynnig ei hun fel ysglyfaeth i ymchwil ymenyddol, a fu’n destun trafod i gynulleidfa o dros 400,000 o bobol ar yr Wê yn 2009, pan gafodd ei ymennydd ei dafellu’n ddarnau manwl, a’u cadw ar ddalen lân o bapur, fel tudalennau o hunangofiant y cof.

Er gwaetha’r taflunio technolegol a’r goleuo gofalus, roedd y cyfan yn un llanast o luniau, yn drwsgl o ddiflas, ac yn syrffedes o siom. Wedi gweld cwmnïau fel Complicite a’r Theatr Genedlaethol yn gneud gwaith tebyg yn llawer gwell, roedd hi’n drist iawn i weld y fath arian wedi’i wario ar stori wan a chynhyrchiad trwsgl.

Sioe arall gafodd gryn dipyn o wobrau oedd ‘Fresher the Musical’, drama gerdd am ddyddiau cyntaf criw o fyfyrwyr mewn coleg. Er mai fi oedd un o’r rhai hynaf yn y babell brynhawn Llun, roedd y stori eto’n ddiflas, y gerddoriaeth yn boddi’n swnllyd mewn alawon anghofiadwy a pherfformiadau’r cwmni yn anghyffyrddus o hunangyfiawn a gorhyderus. Prawf efallai fod mymryn o lwyddiant yn gallu rhwygo calon a naws y syniad lleiaf, llwyddiannus.

Diolch byth am gadernid, slicrwydd a chomedi tywyll straeon Gwyn Thomas yng nghyd-gynhyrchiad National Theatre Wales a Told by and Idiot o ‘The Dark Philosophers’ yn y Traverse. Dyma gynhyrchiad sydd eto wedi denu sylw’r Wasg Genedlaethol, ac wedi sicrhau cynulleidfa safonol ac adolygiadau ffafriol iawn i waith o Gymru. Drwy gyfuno hiwmor tywyll a straeon trasig cymeriadau’r Cymoedd, mae Thomas (Glyn Pritchard) yn ein tywys ar daith Dan-y-Wenalltaidd drwy strydoedd y Rhondda yn 30au’r ganrif ddiwethaf. Mae’r stori’n plethu elfennau o theatr gorfforol a cherddorol wrth i’r cwmni caboledig ein goglais yn gerddorol mewn trefniant hyfryd o Ar Hyd y Nos.

Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad ydi set odidog Angela Davies o gypyrddau a drysau amrywiol sy’n cynrychioli’r tai a’r ystafelloedd cartrefol, ac sydd wedi’u gosod yn un mynydd o bentref, blith draphlith ar y llwyfan llawn.

Llwyddiant ysgubol unwaith yn rhagor i NTW am gwnaeth yn Gymro balch iawn, ynghanol y gynulleidfa Ryngwladol, a gafodd gryn fwynhad fel minnau.

No comments: