Total Pageviews

Friday 19 August 2011

'Un Fach Flewog'




Y Cymro – 19/8/11

Gwibdaith brys fu hi draw i Wrecsam i brofi arlwy denau Dramâu’r Eisteddfod. Dwy ‘brif’ ddrama yn unig, sy’n siom ynddo’i hun, a gwacter absenoldeb prif gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn boenus o amlwg.

‘Un Fach Flewog’ o waith Eilir Jones, sef sioe glybiau Theatr Bara Caws oedd y cyntaf imi ei weld, ar eu noson agoriadol yng Nghlwb RAFA, ar gyrion y dref. Cyrraedd y Clwb yn brydlon am 7.30 gan wybod, yng ngwir draddodiad y sioeau clybiau, na fyddai dim i’w weld ar y llwyfan tan wedi wyth, er mwyn i’r gynulleidfa wlychu’u pig ac i’r cwrw anwesu eu synnwyr comedi.

Siop anifeiliaid anwes ydi’r lleoliad eleni, sy’n rhyddhau pob math o jôcs anweddus am bethau byw a blewog, gan gynnwys y parot ‘Gwynfryn’ yn y gornel a’r ‘Pwsi Jonsi’ a ddiflannodd yn sydyn rai misoedd yn ôl, a does neb wedi’i weld ers hynny! Un o’r cymeriadau mwyaf diddorol yw’r arch-lygoden ‘Hosanna Ben Landin’ sy’n barod i arwain gwrthryfel er mwyn sicrhau rhyddid iddo ef a’i gyd-anifeiliaid.

Ymysg y meidrol sy’n cadw’r siop a’r ymwelwyr sy’n mynychu y mae ‘Neville’ (Maldwyn John) sy’n cynnal rhan helaeth o’r ddrama, yn ei rôl fel ceidwad y siop, ynghyd a’i wddw sdiff a’i gyd-weinyddes fronnog a rhywiol, ‘Kiley’ (Catrin Mara). Y llipryn (Iwan Charles) sy’n dioddef o’r clefyd Tourettes ac sy’n esgus cyfleus dros fedru cynnwys pob gair o reg yn yr iaith Gymraeg o fewn y pymtheg munud cyntaf! Swyddog cas a di-Gymraeg yr RSPCA (Gwenno Elis Hodgkins) sy’n llithro’n ddamweiniol (ta bwriadol?) drwy holl acenion Prydeinig y Deyrnas Unedig, wrth geisio cadw trefn ar y siop a’i berchennog. ‘Huwsi’ (Bryn Fôn) y slebog seimllyd sy’n llwyddo i doddi calon ‘Kiley’ a’i lais radio melfedaidd.

Mae gen i linyn mesur pwrpasol iawn ar gyfer sioeau clybiau Bara Caws bellach sy’n ymestyn o fod yn grafog a chlyfar ar un llaw, a bod yn smyt ac anweddus ar y llaw arall. Dros y blynyddoedd, rhaid dweud fod y cwmni wedi llwyddo i godi uwchlaw’r anweddus, a chreu deunydd wirioneddol glyfar a chrafog, ac er bod eiliadau prin o hynny yma eleni, rhwng y gyfeiriadaeth at Radio Cymru, Glanaethwy, Porthpenwaig a stori grafog ‘Hosanna Ben Landin’ , yn anffodus mae’r orddibyniaeth ar y rhegi, yr anweddus a’r damweiniau bwriadol yn peri i’r gynulleidfa golli diddordeb, sy’n siomedig.

Mi lwyddodd y sioe i ddiddanu cynulleidfa feddw’r Ŵyl; fe lwyddodd i ddychryn a chodi gwrychyn ambell un, na welodd sioe o’i math o’r blaen. Ond i lawer sy’n hen gyfarwydd â’u gwaith, fel y criw o genod Pen Llŷn a hogia Felinheli, a fu yno'r un noson â mi, roedd elfen o siom yn amlwg. Mae’r syniad craidd o waith Eilir Jones yn cynnig ac yn crefu am lawer mwy o ddychan a dyfnder, ac erfyniaf ar y cwmni i ail-edrych am y sgript cyn mentro ar daith.

No comments: