Total Pageviews

Friday 6 May 2011

'Godspell'





Y Cymro – 6/5/11

Wedi profi’r angerdd a’r adloniant ym Mhort Talbot yr wythnos diwethaf, parhau mae’r thema grefyddol, wrth imi ymweld â’r Union Theatre yma yn Llundain ar gyfer cynhyrchiad o’r ddrama gerdd ‘Godspell’.

Cefais fy nhrwytho yn eitha’ helaeth yng ngherddoriaeth Stephen Schwartz yn ddiweddar yn sgil cwrs dros y Pasg efo’r gwaith, a roddodd gryn sylw i’r cyfansoddwr toreithiog hwn. Ymhlith ei gyfraniad amhrisiadwy i’r byd cerddorol mae’r sioeau ‘Wicked’, ‘Pippin’, ‘Children of Eden’ ynghyd â channoedd o ganeuon i ffilmiau Disney. Eleni, mae ‘Godspell’ yn dathlu’i phen-blwydd yn ddeugain oed, sy’n fwy o reswm, nid yn unig am ei llwyfannu, ond hefyd am roi gwedd gyfoes a chyffrous arni.

Mae’r gwaith yn seiliedig ar gyfres o ddamhegion o Efengyl Mathew yn bennaf, er bod rhai ohonynt ddim ond i’w gweld yn Efengyl Luc. Yn eu plith mae’r Samariad Trugarog, y meistr a’r gwas a Lasarus, ynghyd â’r Gwynfydau. Mae’r ‘Iesu’ (Billy Cullum) yn cyrraedd yr olygfa gyntaf yn ei sbectol haul a’i helmed beic modur, yn cŵl ac yn denu sylw a dilynwyr o’r funud gyntaf. Meddwi ar ei eiriau a’i ganu wna’r criw dethol o ddisgyblion, sydd hefyd yn galaru yn yr ail act wrth i’r dieuog gael ei ddedfrydu i’w farwolaeth.

Yr unig ‘gymeriad’ arall sy’n cael ei enwi o’r Beibl yw ‘Jiwdas’ (David Brooks) sydd hefyd yn dyblu fel ‘Ioan Fedyddiwr’. Mae enwau gweddill y cwmni yn seiliedig ar enwau cyntaf y cwmni gwreiddiol, a lwyfannodd y ddrama gerdd yn Pittsburgh, Pennsylvaia yn y saithdegau.

Ymhlith y caneuon cofiadwy mae’r clasuron poblogaidd ‘Day by Day’ a 'We Beseech Thee’ sy’n ffefrynnau gan gorau ac unigolion ar hyd y blynyddoedd.

Yr hyn a’m swynodd am y cynhyrchiad lliwgar a llawen hwn oedd afiaith ac angerdd y cwmni o ddeg actor. Bob un yn credu gant y cant yn y stori a’u cymeriadau. Yn eu plith, roedd yr actor o Gymro Iwan Lewis, a welais yng nghynhyrchiad y Donmar o ‘Passion’ rai misoedd yn ôl. Fe ganodd Iwan y gân ‘All Good Gifts’ yn wych, ynghyd â dod ag ychydig o Gymraeg i’r Gwynfydau.

Roedd yr awyrgylch a’r emosiwn a greodd y cwmni yn fy atgoffa o ‘Corpus Christi’ a welais yng Nghaeredin yn 2007, ble teimlais y gwir gariad Cristnogol yn drydan drwy’r theatr.

O dan gyfarwyddyd Michael Strassen a Michael Bradley a chynllun goleuo cynnil ond cwbl effeithiol Steve Miller, fe draws newidiwyd pob cornel o’r gofod tywyll ond dymunol hwn, sy’n un o theatrau lleiaf Llundain.

Mae’r sioe yn dod i ben y penwythnos hwn, felly heidiwch yno os medrwch chi. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.godspellthemusical.co.uk

No comments: