Y Cymro – 18/03/11
Roeddwn i wedi bwriadu sôn yr wythnos hon, am fy anturiaethau yng Ngwobrau’r Oliviers dros y Sul, ond wedi dychwelyd heno o Gaerdydd, wedi gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol, sef ‘Deffro’r Gwanwyn’, mae’r ysfa i rannu’r genadwri a’r balchder yn llawer mwy.
Heb oes, mae enw drama ‘ddadleuol’ yr Almaenwr Frank Wedekind sef ‘Spring Awakening’ yn dra hysbys, a hynny am ei ymdriniaeth onest, swrth a chynnil o ddeffroad rhywiol ymysg yr ifanc. Pa ryfedd felly fod y deunydd llenyddol wedi ysgogi'r Americanwyr Steven Sater a Duncan Sheick i droi’r cyfan yn ddrama gerdd roc cyfoes. Ychwanegwch at hynny gyfieithiad pwerus a gonest Dafydd James (awdur y ddrama ‘Llwyth’) a’i gyfuniad bwriadol o’r llenyddol barddonol a bratiaith amrwd, ac fe gewch chi ddewis dewr iawn i unrhyw gwmni theatr, a sialens enfawr i ensemble o actorion a chyfarwyddwyr.
Nid yr elfen rywiol yw’r unig beth dadleuol am y sioe - mae yma hunan leddfu, hunan laddiad, camdriniaeth, erthylu a deffroad gwrywgydiol - y cyfan gyda llaw, o fewn cyd-destun cerddorol cwbl briodol, cynnil a chofiadwy tu hwnt.
‘Stori yw hon sydd wedi ei lleoli mewn gwlad arall ond sy’n cael ei mynegi yn y Gymraeg’ meddai Dafydd James, yn rhaglen liwgar y cynhyrchiad; ‘...aros yn ffyddlon i’r enwau Almaenig a’i lleoliad gwreiddiol oedd yn rhaid yn ôl gofynion hawlfraint y sioe wreiddiol’ ychwanegai. Mae’r cyfuniad o’r Almaeneg, y Lladin a’r Gymraeg yn briodas hyfryd i’r glust, a chyfoeth tafodiaith felfedaidd Dafydd yn anwesu’r amrwd mor brydferth. Ystyriwch yr ystod eang o ran ystyr a chyfnod rhwng y llinellau ‘dim ond bitch yw bywyd’, ‘maddeuwch fy mudredd’, ‘twtch fi’, ‘melys gyffro gwallgo’ a’r anfarwol ‘wel, sdim dwywaith am hyn... dwi’n f****d...’!
Y llanc ifanc, hyderus, ‘Melchior’ (Aled Pedrick) a’i gydymaith nerfus, unig, a phoenus ‘Moritz’ (Iddon Jones) yw dau o’r chwe llanc ifanc sy’n mynychu’r ysgol lem Almaenig dan arolygaeth yr athrawon cas (Dyfed Thomas) a (Ffion Dafis). Wrth i’r llanciau ifanc aeddfedu, tyfu hefyd wna’r ysfa i ddarganfod mwy am yr ysfa rywiol, ac mae’r ‘Melchior’ hyderus yn fwy na pharod i nodi’r cyfan (ynghyd â’r lluniau!) mewn traethawd ar gyfer y ‘Moritz’ chwilfrydig.
Os yr enillodd Aneurin Barnad ac Iwan Rheon Wobrau Oliviers am eu perfformiadau yn y cynhyrchiad gwreiddiol yma yn Llundain, yna ennill ein calonnau wna Aled ac Iddon drwy eu perfformiadau trydanol ar lwyfan moel y cynllunydd Alex Eales. Does unman i guddio yma, yn emosiynol nac yn ddaearyddol, a’r dagrau a’r dyfnder sy’n cael ei deimlo ganddynt yn ddirdynnol o gofiadwy.
Anghofiai fyth sensitifrwydd sawl golygfa, megis y ‘melys gyffro gwallgo’ rhwng ‘Melchior’ a’r forwyn ‘Wendla’ (Ellen Ceri Lloyd) sy’n ildio i’w chwantau a’u brwfrydedd ar ddiwedd yr act gyntaf; felly hefyd rhwng yr ‘Ernst’ (Meilir Rhys Williams) fenywaidd a swil sy’n ysu am gorff a chyffyrddiad y llanc golygus a hydreus ‘Hanschen’ (Owain Gwynn) a’r olygfa brydferth, onest a chomediol rhwng y ddau, sy’n arwain at ddeffro a rhyddhau’r angerdd rhyngddynt.
Yr hyn am trawodd fwyaf am y cynhyrchiad ydi dyfnder cyfarwyddo cyhyrog Elen Bowman, sy’n gwthio’r actorion ar daith gorfforol a meddyliol, y tu hwnt i eiriau dethol Dafydd James. Y mae yma aeddfedrwydd a gonestrwydd ffres a chynhyrfus, a gwir deimlad bod pob un o’r tri actor ar ddeg yn cyfrannu cant y cant tuag at lwyddiant y cyfanwaith. Diolch o galon i’r actorion hynny am dderbyn y sialens, ac am roi inni gynhyrchiad safonol, dirdynnol sy’n llwyr haeddu’r teitl a’r llwyfan Cenedlaethol.
Clod hefyd i’r cyfarwyddwr cerdd Dyfan Jones, sy’n llywio a lliwio’r llon a’r lleddf yn ôl y gofyn, a choreograffi Bridie Doyle a Liz Ranken, sy’n dod â gogwydd cyfoes, ffres i lwyfannau Cymru.
Os nad ydych yn gyfarwydd â’r gwaith gwreiddiol, efallai fydd yr hyn o’ch blaen yn eich dychryn, yn cosi neu’n cyffroi neu hyd yn oed eich cywilyddio. Dyna arwydd o’r Theatr ar ei orau. Gwerthfawrogwch onestrwydd y cyfan, yr amrwd, yr angerdd a’r egni. Mi welais ac a brofais rywbeth arbennig iawn y gwanwyn hwn; wele gychwyn cyfnod newydd ar y Theatr Genedlaethol Gymraeg, ac efallai'r Dadeni y buom yn aros amdano gyhyd...
Mae ‘Deffro’r Gwanwyn’ ar daith ar hyn o bryd. Da chi, peidiwch â’i fethu. 22-23 Mawrth Canolfan Hamdden Pontardawe, 25-26 Mawrth Canolfan Hamdden Aberaeron, 29 Mawrth - 01 Ebrill Canolfan Hamdden Dolgellau, 05-06 Ebrill Canolfan Hamdden Llanrwst , 08-09 Ebrill Canolfan Hamdden Wrecsam, 12-15 Ebrill Canolfan Hamdden Biwmares. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com
No comments:
Post a Comment