Total Pageviews

Friday 31 October 2008

'Oedipus'



Y Cymro : 31/10/08

Un o brif gynhyrchiadau’r Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd yw’r Clasur Groegaidd o waith Sophocles, ‘Oedipus’. ‘Oedipus Rex’ neu ‘Oedipus Frenin’ a bod yn fanwl gywir, gan mai dim ond y rhan gyntaf o hanes y gŵr trasig yma a gawn o fewn yr awr-a-hanner o gynhyrchiad yn Theatr yr Olivier. Trueni na fyddai’r cwmni wedi cyfuno ail hanner o hanes y cyn-frenin, wrth iddo gael ei arwain yn ddall gan ei ferch ‘Antigone’ drwy ddrysau’r ddinas am ‘Colonus’ a chychwyn drama arall o eiddo Sophocles, ‘Oedipus yn Colonus’.

Does na’m dwywaith mai’r actor Ralph Fiennes sy’n gwerthu, ac yntau wedi’i ddewis i bortreadu’r brenin fisoedd yn ôl. Yr un modd yn union â Theatr y Donmar sydd wedi sicrhau presenoldeb enwau mawr fel Judy Dench, Derek Jacobi a Kenneth Branagh. Gwers yn wir i’n Theatr Genedlaethol ninnau yng Nghymru, sydd dal heb fethu dennu ein hactorion nodedig fel Rhys Ifans, Daniel Evans, Ioan Gruffydd, Matthew Rhys na Siân Phillips i droedio’r un llwyfan.

Fel y nyddiau’r Groegiaid, dwi wrth fy modd yn gwylio’r dramâu Clasurol, gan ein bod ni bellach mor gyfarwydd â hynt a helynt y cewri mytholegol chwedlonol yma, a’u hymgais i osgoi eu tynged sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y canrifoedd. Mae’r cyfan fatha jig-sô enfawr, a phob drama yn ddarn hanfodol yn yr hanes. Yn ‘Oedipus Frenin’, mae’r brenin yn canfod y gwirioedd erchyll ei fod wedi lladd ei dad, ‘Laius’ a’i fod wedi priodi ei fam, ‘Jocasta’ (Clare Higgins) ac wedi cenhedlu dwy ferch – ‘Antigone’ ac ‘Ismene’, a’r ddau fab ‘Eteocles ‘ a ‘Polynices ‘. Dyma barhau’r dynged am genhedlaeth arall, a stori enwog ‘Antigone’ yn mynnu claddu corff ei brawd yn destun ar ddrama arall o waith Sophocles.

Ond yn ôl at y cynhyrchiad yma ar lannau’r Tafwys, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel gan y beirniaid. Rhaid bod yn onest, a chyfaddef imi fethu â chytuno ar y ganmoliaeth aruchel am yr hanner awr gyntaf o’r cynhyrchiad, gan fod y cyfan mor llonydd, araf a di-liw. Roedd presenoldeb Fiennes ar y llwyfan o’r cychwyn cyntaf yn gofiadwy, ac eto ddim mor wyrthiol wych ag a nodwyd yn yr adolygiadau. Dim ond gyda’r gwirionedd a’r sylweddoliad ei fod o’n wir wedi lladd ei dad a phriodi ei fam, sef yr union bethau gafodd eu proffwydo gan y proffwyd dall ‘Teiresias’ (Alan Howard) y cododd Fiennes i’r safon gaboledig, ac roedd ei hanner awr olaf waedlyd a di-lygaid yn gofiadwy iawn.

Unwaith eto, yn y Theatr Genedlaethol, ‘roedd y Set a’r goleuo mor llwyddiannus â’r actio, a’r cyfan wedi’u cyfarwyddo'r un mor fedrus. Gosodwyd y ddau ddrws i balas brenhinol Thebes ar lwyfan tro, wedi’i baentio’n lliwiau copr rhydlyd, oedd yn fy atgoffa o hen gloc haul cynnar. I’r de-orllewin o’r drysau, roedd bwrdd a dwy fainc wedi’u llorio’n llonydd ar y llwyfan tro, eto’n gamarweiniol o gelfydd, drwy alluogi’r drysau i droi mor araf a disylw, ond ddim y bwrdd. Clyfar iawn. Wrth i’r drysau gyrraedd lleoliad gwahanol ar gyfer pob golygfa briodol, symudodd y cyfan yn ei flaen, fel eu bônt yn ôl i’r man cychwynnol erbyn y diwedd.

Cynhyrchiad cofiadwy Clasurol a chaboledig arall o stabl Genedlaethol Lloegr.

Mae ‘Oedipus’ yn Theatr Olivier tan Ionawr 2009.

No comments: