Total Pageviews

Friday 17 October 2008

'Memory'




Y Cymro – 17/10/08

Yn ddaearyddol, mae cyrraedd rhannau o Lundain mor gymhleth â Chymru! Mae de’r afon Tafwys yn gymharol rwydd - Clapham, Wimbledon neu Croydon, ond mae teithio tua’r Gogledd yn dipyn mwy o drafferth!

I’r Pleasance yn Islington fu’n rhaid mynd i groesawu Clwyd Theatr Cymru ar eu hymweliad cyntaf â Llundain gyda’r ddrama ‘Memory’ o waith y Cymro o Landrindod, Jonathan Lichtenstein. Er fy mod i wedi gweld y cynhyrchiad gwreiddiol nôl yn 2006, cyn i’r cwmni fynd ar daith i Efrog Newydd, roeddwn i’n awyddus iawn i weld effaith dwy flynedd o ddatblygu ar y ddrama.

Adrodd hanes cwmni o actorion sy’n cwrdd mewn ystafell ymarfer, wrth baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad diweddaraf yw sail y gwaith. Mae’r ddrama o fewn y ddrama yn cychwyn mewn fflat yn Nwyrain Berlin ym 1990, ble mae ‘Eva’ (Vivien Parry) yn cwrdd am y tro cyntaf â’i ŵyr ‘Peter’ (Oliver Ryan) sy’n esgor ar yr atgofion trist a dirdynnol am ei hieuenctid yn ystod yr Ail-Ryfel Byd. O Berlin i’r Bethlehem presennol, ac at hanes yr Iddew ‘Bashar’ (Ifan Huw Dafydd) sy’n derbyn ymweliad gan swyddog Palesteinaidd ‘Isaac’ (Guy Lewis) i’w hysbysu fod y ffin arfaethedig am gael ei godi ar safle ei gartref presennol. Drwy wibio yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy stori, a’r ddau gyfnod, dyma berl o ddrama sy’n gorfodi’r gynulleidfa i feddwl am y presennol a’r gorffennol, drwy gyfres o olygfeydd trawiadol a dirdynnol.

Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld gynnau mawr y colofnau adolygu yn Llundain yn bresennol gan gynnwys yr arch-adolygydd Michael Billington o’r Guardian a Nicholas De Jong o’r Evening Standard. Tipyn o glod i Clwyd Theatr Cymru am fedru eu denu, heb sôn am eu hudo i barthau Gogleddol y ddinas! Braf oedd darllen bod y ddau, mewn ffyrdd gwahanol, wedi’u plesio gyda’r cynhyrchiad.

Cael fy mhlesio wnes innau hefyd, er bod y cast wedi newid ers y cynhyrchiad gwreiddiol. Roeddwn i’n falch o weld bod Vivien Parry wedi aros fel y prif gymeriad, ac roedd ei pherfformiad, unwaith eto, yn gofiadwy iawn. Felly hefyd gyda gweddill y cast, dan gyfarwyddyd medrus Terry Hands a’i dîm profiadol.

Yr hyn sy’n hyfryd am y ddrama ydi’r modd mae’r gwyliwr yn cael ei dynnu i mewn i’r stori, a’r awydd i wybod beth fydd tranc y cymeriadau wrth ail-fyw’r atgofion poenus. Mae datblygiad y ddrama hefyd yn gelfydd iawn, a’r modd mae’r cyfan yn llifo o’r cylch ymarfer i’r ddrama go iawn yn rhwydd a didrafferth. Drwy ddefnydd effeithiol o oleuo, set a gwisgoedd, cyflwynwyd y tri chyfnod yn gynnil, ond effeithiol i greu cyfanwaith cofiadwy.

Da oedd gweld bod Clwyd Theatr Cymru wedi comisiynu drama arall gan yr awdur, a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar am ei gweld. Da hefyd oedd croesawu cwmni o Gymru i’r ddinas, a braf gweld bod y gallu ganddynt i ennyn clod y Wasg genedlaethol.

Mwy o wybodaeth am y Cwmni ar eu gwefan www.clwyd-theatr-cymru.co.uk

No comments: