Total Pageviews

Friday 10 October 2008

'Blodeuwedd'


Y Cymro 10/10/08

Yn dilyn fy ymweliad â Chaerfyrddin, fel y soniais yr wythnos diwethaf, es i yn fy mlaen i Aberystwyth, gan ymweld â Chanolfan y Morlan ar gyfer cynhyrchiad Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw ar y cyd gydag Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth o ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis.

Dyma gynhyrchiad y clywais sôn amdano yn gynharach yn y flwyddyn dan y teitl bachog ‘Blodeuwedd ganol Seilej’. ‘Gwaith-ar-Bryfiant’ oedd y prosiect bryd hynny sydd bellach wedi cael ei addasu yn gynhyrchiad mwy gorffenedig. Roger Owen fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cwmni gydag Euros Lewis yn Cynhyrchu ac yn cyflwyno’r stori ar gychwyn y noson. Roeddwn i braidd yn anghyfforddus efo’r angen i ‘gyflwyno’ un o’n dramâu mwyaf adnabyddus, heb sôn am y chwedl nodedig hon, ond buan iawn y sylweddolais fod y ‘cyflwyniad’ mewn gwirionedd yn rhan o’r digwydd dramatig, gyda’r actorion yn eu tro yn dod i’w lle. Roedd y gynulleidfa wedi’i gosod mewn dwy res hir i lawr ganol y ganolfan, ar gynllun ‘traverse’ a’r actio yn digwydd rhwng y ddwy res, ac yn llythrennol wrth draed y gynulleidfa.

O’i hymddangosiad cyntaf fel ‘Blodeuwedd’ roedd hi’n amlwg fod y ddawnswraig Anna ap Robert wedi dewis i gyflwyno elfen gref o goreograffi yn ei phortread o’r ‘Blodeuwedd’ wyllt, ac roedd yr elfennau cynnil o ran symudiadau i gyfleu’r ochor wyllt, anifeilaidd yn effeithiol iawn. Yn wir, roedd yr elfen gorfforol yn bwysig iawn yn y cynhyrchiad drwyddi-draw, gyda’r actorion yn taflu’i hunain o amgylch y gofod, yn rowlio neu’n neidio, fel bo’r gofyn. Un o wendidau’r perfformiad, ac yn wir y cynhyrchiad, oedd imi fethu clywed na deall yr hyn oedd yn cael ei ddweud.
Falle fod yn rhaid i’r Ganolfan gymryd rhyw gymaint o’r bai am hynny, ac eto, weithiau roedd yr arddull yn amlygu’i hun yn gryfach na’r testun, ac roedd hynny’n amharu ar y cynhyrchiad yn hytrach na’i gyfoethogi.

Rhaid imi enwi Rhodri ap Hywel a fu’n portreadu ‘Llew Llaw Gyffes’ a ‘Penteulu Penllyn’, gyda’r newid rhwng y ddau gymeriad yn gweithio’n dda, a Hedd ap Hywel fel y ‘Gronw Pebr’ penfelyn. Dyma ddau actor ifanc sydd â dyfodol disglair iawn ar lwyfan. Roedd cymeriadu’r ddau yn gofiadwy iawn, y llefaru’n glir a chyson, a’u presenoldeb ar lwyfan yn hudolus. Dau bortread cystal os nad gwell na’r hyn a welais gan ein Theatr Genedlaethol ar y noson flaenorol.

Gweddill y cwmni oedd Jaci Evans fel ‘Gwydion’, Meleri Williams fel ‘Rhagnell’ a Leigh Davies a Guto Gwilym fel y Milwyr.

Heb os nag oni bai, fe greodd y cwmni awyrgylch arbennig iawn yn y Ganolfan ar noson y perfformiad, yn enwedig yn yr ail-ran pan gafwyd amrywiaeth yn y goleuo. Roedd y diweddglo yn cyfiawnhau’r elfen gref o ddawns a’r ‘ymchwil corfforol’ o waith Margaret Ames, ac roedd ymadawiad ‘Blodeuwedd’ yn hynod o theatrig a chofiadwy. Mae’r gallu gan y cwmni yma, sy’n gyfuniad o ‘arweinwyr cymdogaethol ac enthiwsiastwyr y ddrama yn nhair sir y gorllewin’, i gyrraedd eu nod sef i ‘borthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg’. Roedd y wedd gyfoes gorfforol yn chwa o awyr iach ar hen chwedl, ond da chi, gwyliwch rhag colli’ch testun ynghanol y symud.

Beth fydd nesa tybed? ‘Problemau Prifysgol’ yn yr Hen Goleg ta ‘Siwan’ (by the sea)!?...

Yn anffodus, daeth taith y cwmni i ben. Mwy o wybodaeth ar www.theatrtroedyrhiw.com

No comments: