Total Pageviews

Friday 7 March 2008

'Women of Troy'





Y Cymro – 7/3/08

‘The Women of Troy’, Lyttelton ***

Mae 'na don newydd o gyfarwyddwyr yn prysur wneud argraff ar lannau’r Tafwys, a’r rhan fwyaf ohonynt yn ferched. Dyna chi Lisa Goldman yn Theatr Soho, Josie Rourke yn y Bush, Thea Sharrock mewn amrywiol theatrau, Jude Kelly yn y Southbank ac Emma Rice a Katie Mitchell yn y Theatr Genedlaethol. Fel y gallwch fentro, mae gan bob un ei arddull wahanol, a chryn gystadleuaeth i ennyn eu cynulleidfa, ac i hudo’r ddrama-gerdd-garwyr yn ôl i’r dramâu mwy traddodiadol a chlasurol.

Wedi clywed cymaint o sôn am gyfarwyddo medrus ac arddull dywyll, gyfoes ac unigryw Katie Mitchell, roedd hi’n hen bryd imi fynd i weld un o’i chynyrchiadau. Yn eu hwythnos olaf yn y Theatr Genedlaethol, mi fentrais i weld ‘Women of Troy’ yn Theatr Littelton.

Dyma ddrama gan un o Feistri’r Groegiaid, Euripides sy’n sôn am dynged merched dinas ‘Troy’ wedi i’r Groegiaid ymosod ar y ddinas, gan ladd eu gwŷr, a dwyn ymaith eu teuluoedd i wasanaethu fel caethweision. Wrth i’r frenhines ddi-orseddedig ‘Hecuba’ (Kate Duchêne) glywed beth fydd eu tynged ar gychwyn y ddrama, mae ei merch ‘Cassandra’ (Sinead Matthews) yn orffwyll oherwydd y felltith a osodwyd arni, ac sy’n ei galluogi hi i ragweld y dyfodol. O ddallt mai mynd yn ordderch i’r Cadfridog buddugoliaethus ‘Agamemnon’ fydd ei thynged, ac o fedru gweld beth fydd yn digwydd iddi wedi cyrraedd dinas Argos, mae hysteria ‘Cassandra’ yn gwaethygu, a chaiff ei dwyn ymaith. Daw’r weddw o dywysoges ‘Andromache’ (Anastasia Hille) at weddill y merched gyda’r newyddion bod ei merch fenga ‘Polyxena’ wedi’i lladd fel aberth wrth fedd y rhyfelwr Groegaidd ‘Achilles’. Ond daw mwy o newyddion trist i’r teulu brenhinol gan y Groegwr ‘Talthybius’ (Michael Gould) gyda’r newydd fod mab ieuenga’r teulu, ‘Astyanax’ wedi’i gondemnio i farw, a hynny drwy ofn y Groegiaid i’r bychan etifeddu nerth a phŵer ei dad, ‘Hector’, a dod yn fygythiad i’w lluoedd.

Er nad yn un o ferched ‘Troy’, mae ‘Helen’ (Susie Trayling) hefyd yn dioddef, wrth i ‘Menelaus’ (Stephen Kennedy) ddod i’w chludo yn ôl i Groeg lle mae dedfyd o farwolaeth yn ei haros. Wrth i ‘Talthybius’ ddychwelyd yn cludo corff marw’r babi brenhinol, mae ‘Hecuba’ yn paratoi’r corff i’w gladdu cyn cael eu cludo ymaith fel caethweision i Odysseus.

Mae’n lled gyfarwydd i lawer fod yna ymateb cymysg i waith Katie Mitchell. Rhai theatr-garwyr yn casáu ei chynyrchiadau am eu bônt mor hunan-ffafriol, a’i harddull unigryw yn cael ei or-bwysleisio ar draul gwaith y dramodydd. Tra bod eraill yn ei chlodfori fel achubiaeth ddiweddara’r Theatr Brydeinig.

Yr hyn sy’n ddiddorol am ei chynhyrchiad ydi’r ffaith fod y cyfan wedi’i osod yn y presennol, a’i leoli mewn hen ffactri goncrid sy’n hynod o drawiadol a chredadwy o gynllun set Bunny Christie a goleuo Paule Constable a Jon Clark. Hoffais yn fawr y modd y defnyddiwyd y goleuo i gyfleu agor a chau’r prif ddrysau a’r ffenestri, yn enwedig y ffenest ddychmygol ar flaen y llwyfan, a agorwyd cyn i’r corws lefaru eu gwirioneddau i’r gynulleidfa. Roedd y merched i gyd yn eu ffrogiau crand a’u sgidiau sodle uchel, ynghyd â’u bagiau llaw yn cyfleu’r gorau o’r ddinas, a’u tynged o gaethwasanaeth mor wrthgyferbyniol o’u cyn urddas.

Mae’n wir dweud fod y ddrama wedi’i threisio o ran y ddialog, gan adael dim ond yr esgyrn sychion i gyfleu’r neges, gyda gorddibyniaeth efallai, ar y triciau llwyfan - o’r ffrwydradau i’r fflamau, o’r diferion glaw a’r tywod i’r dawnsio clasurol. ‘Fy mwriad ydi medru cyfleu pob drama mor glir â phosib yn yr amser dwi’n gweithio’ yn ôl Katie Mitchell, a does 'na’m dwywaith bod y cynhyrchiad yn ein hatgoffa o fryntni rhyfel hyd yr eiliad olaf. Wedi dweud hynny, weithiau gan yr arddull fod yn ormodol, ac ysfa’r cyfarwyddwr i wneud enwi iddo neu iddi’i hun fod yn fwy cofiadwy na’r cynhyrchiad.

Dwi dal ddim yn siŵr os wnes i wirioneddol fwynhau'r hyn weles i. Faswn i’n annog pawb i fynd i weld un o’i chynyrchiadau, petai ond i brofi’r wefr o’i gwaith hi. O ran yr actio, bregus oedd sawl portread; o ran y sain, roedd y grŵn isel drwy gydol yr awr a hanner yn ormodol. Roedd yma naws ffilm i’r cyfan, o’r set i’r sgript i’r triciau, ac mae hynny yn fy mhoeni’n fawr. Mae’r ddau gyfrwng mor wahanol, ac efallai mai dyna sy’n gyfrifol am yr elfen hunan-ffafriol sy’n amlygu’i hun - fel y theori ‘auteur’ ym myd y ffilmiau, sy’n arwydd o awydd ac arddull y cyfarwyddwr i roi ei stamp ei hun ar bob agwedd o’r gwaith.

Yn anffodus, (neu’n ffodus i rai!) mae cyfnod ‘Women of Troy’ wedi dod i ben. Bydd Katie Mitchell yn cyfarwyddo ‘The City’ o waith Martin Crimp yn y Royal Court rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni. Am fwy o fanylion, www.royalcourttheatre.com

No comments: