Total Pageviews

Friday 28 March 2008

'Plague Over England'


Y Cymro – 28/03/08

‘Plague Over England’, Finborough, ****

Dwi di canmol cragen gwerthfawr theatr Finborough sawl gwaith yn y gorffennol, a dyma gyfle unwaith eto i fentro dringo’r grisiau cul i gyrraedd y theatr-uwchben-y-bar gwerthfawr yma, ar gyfer perl o ddrama arall. Yr adolgydd a’r beirniad theatr Nicholas de Jongh ydi awdur y ddrama, ac a gyfaddefodd mewn cyfweliad diweddar ei fod yn hynod o bryderus am ymateb ei gyd-feirniaid i’w ddrama gyntaf. Mae ‘na hen ddihareb hefyd y clywais amdani yn dra diweddar, sy’n disgrifio adolgydd theatr fel ‘un sy’n gwybod yn iawn sut i gyrraedd pen y daith, ond heb y gallu i ‘yrru’r car!’. Wel, mae’n bleser gen i ddatgan fod drama De Jongh yn brawf sicr o allu’r adolygydd ‘milain a chas’ gan lawer yma, i ‘’yrru unrhyw gar’, ond bod y siwrne efallai, rhyw hanner awr rhy hir.

Hanes yr actor byd enwog Syr John Gielgud yn cael ei ddal, o dan amgylchiadau amheus, mewn toiled cyhoeddus yn Chelsea ydi hanfod stori’r ddrama ‘Plague Over England’ . Trwy gyfres o olygfeydd sy’n gosod naws y Pumdegau i’r dim ar y dechrau, a’r straen oedd ar y gymuned hoyw i guddio’i rhywioldeb, a thrwy hynny, i geisio pleser corfforol mewn mannau cyhoeddus, mae’r ddrama yn gofnod gwerthfawr o gyfnod lliwgar, ond pryderus i sawl gŵr ifanc.

1953 oedd y flwyddyn, a Syr John (Jasper Britton) yn actor adnabyddus a llwyddianus iawn ar lwyfannau Llundain. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, cafodd ei urddo yn farchog, ac yna gwta bedwar mis yn ddiweddarach, ar yr 21ain o Hydref, cafodd ei hudo neu ei wahodd gan blismon ifanc golygus ‘Terry Fordham’ (Leon Ockenden) i ‘ddeisyfu act wrywgydiol mewn man cyhoeddus’. Yn dilyn ei arestio, ceisiodd gadw’r cyfan yn dawel, ac allan o sylw’r cyhoedd. Ymddangosodd yn y Llys y bore canlynol, gan dderbyn dirwy o £10. Ond buan aeth y stori ar led, ac fe ymddangosodd y stori yn holl papurau Llundain.

Drwy gyfres o olygfeydd efo’i gyd-actor a’i gyfaill ar y pryd ‘Y Fonesig Sybil Thorndike’ (Nichola McAuliffe) ynghyd a’i gyfaill a’i gyd-adolygydd hoyw ‘Chiltern Moncrieffe’ (John Warnaby) fe welwn effaith y digwyddiad ar hyder a chymeriad yr actor, ei bryder dros ei ffolineb, ac ei ystyriaeth dros ildio ei ddyrchafiad o’i urddo.

Mantais gwahodd cynllunydd parhaol y Finborough sef Alex Marker i gynllunio’r set ydi ei wybodaeth helaeth am bob modfedd o’r gofod bychan ond dedwydd yma. Gyda dim ond lle i gwta 50 o seddau, gwnaed defnydd gwyrthiol o’r ystafell, a llwyddodd i fynd â ni o theatr i theatr, o’r toiled cyhoeddus a’i wrinal Fictorianaidd i swyddfa’r heddlu, ac yna’r llys, drwy ddefnyddio dim ond cyfres o fflatiau ar fracedi gwahanol oedd yn agor a chau. Rhoddwyd propiau ymhob man posib o’r gofod, a alluogodd y cyfarwyddwr Tamara Harvey i ddefnyddio pob twll a chornel o’r theatr i ddweud y stori.

Un olygfa hynod o gofiadwy oedd pan gamodd Syr John ar y llwyfan am y tro cyntaf wedi’r achos, a hynny yn Llundain. Roedd arno gymaint o ofn a chywilydd am yr hyn oedd wedi digwydd, ac yn poeni am golli ei enw da. Ond wrth i’r actor gerdded allan am brif fynedfa’r Finborough, i gyfeiliant gweddill y ddrama tra’n disgwyl am ei giw, daeth fflyd o olau drwy’r drws gydag effeithiau sain priodol, ac yna’r gymeradwyaeth fyddarol am rai munudau a brofodd iddo fod bob aelod o’r gynulleidfa yn falch o’i weld, ac am ganmol ei ddewrder.

Asgwrn cefn y cynhyrchiad oedd portread cofiadwy a chaboledig Jasper Britton fel Gielgud a Nichola McAuliffe fel ‘Y Fonesig Sybil Thorndike’ a cheidwad y bar preifat ‘Vera Dromgoole’. Roedd pob aelod o’r cast o ddeg actor yn hynod o brofiadol, ac fe gafwyd chwip o berfformiad gan bob un, a hynny o dan amgylchiadau cyfyng a rhwystredig. Clywais a deallais bob un gair o enau’r actorion, a chredais ym mhortread o’r cymeriadau.

Llwyddodd De Jongh i gyfoethogi ei sgript â dywediadau ffraeth Gielgud a’i hiwmor sych, ac eto i gyffwrdd â’r unigrwydd, y tristwch a’i ansicrwydd oedd yn gymaint ran o’i gymeriad. Ceisiwyd cyfiawnhau pam bod rhaid i sawl gŵr ifanc (a hŷn), fel Gielgud gael eu gorfodi i geisio pleser o dan y fath amgylchiadau, a’r frwydr greulon ac anodd a wynebai’r gymuned hoyw i geisio goddefgarwch ac i newid y Ddeddf.

Er bod y ddrama bellach wedi dod i ben, ac yn sgil gwerthu pob tocyn drwy gydol ei chyfnod yn y Finborough, synnwn i ddim na welwn ni gynhyrchiad llawn ohoni ar lwyfan ehangach cyn bo hir. Mwy o fanylion am y Finborough ar www.finboroughtheatre.co.uk

No comments: