Total Pageviews

Friday 14 March 2008

'I'll Be The Devil'

Y Cymro – 14/02/08

‘I’ll Be The Devil’ , Tricycle, *

Tybed faint ohonoch, fel finnau, oedd yn credu mai unig swyddogaeth Cwmni’r Royal Shakespeare oedd i lwyfannu gwaith y Meistr? Ers symud i Lundain, dwi wedi cael fy synnu gan yr amrywiaeth mae cwmni’r RSC yn ei gynnig - un o’r cwmnïau mwya’ adnabyddus trwy’r byd i gyd. Dim ond ers 1961 bu’r cwmni yn gweithredu o dan ei theitl brenhinol presennol, ond mae gwreiddiau’r cwmni yn mynd yn ôl i gyfnod llawer cynharach, at pan godwyd y theatr barhaol cyntaf yn Stratford.

Ym 1875, lansiodd y bragwr Charles Edward Flower ymgyrch ryngwladol i godi theatr yn nhref enedigol Shakespeare. Rhoddodd ei gyfraniad o’r safle enwog dwy erw gychwyn ar draddodiad teuluol sy’n dal i barhau hyd heddiw. Agorwyd y theatr gyntaf ym 1879 gyda pherfformiad o ‘Much Ado About Nothing’ a buan iawn daeth enwau mawr y cyfnod i droedio’r llwyfan.

Wedi 50 mlynedd o ragoriaeth, derbyniodd y theatr ei Siarter Brenhinol ym 1925, cyn cael ei ddifa cwta flwyddyn yn ddiweddarach gan dân. Parhau wnaeth y cynyrchiadau, a hynny mewn sinema leol, tra bod ymgyrch enfawr arall ar waith i godi theatr newydd. Gwireddwyd y freuddwyd honno ym 1932, a dros y 30 mlynedd wedi hynny, magodd y cwmni ei enw da drwy gyd-weithio efo actorion Shakesperaidd profiadol ynghyd â magu talent newydd.

Syr Peter Hall greodd y cwmni mwy modern ei naws, a hynny ar gychwyn y chwedegau. Dechreuwyd llwyfannu gweithiau gan ddramodwyr newydd, ac fe ddaeth cenhedlaeth newydd o actorion a chyfarwyddwyr i weithio o dan adain y cwmni; enwau fel Judi Dench, Ian Richardon, Trevor Nunn, Adrian Noble a Terry Hands sydd bellach yn arweinydd artistig Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug.

Eleni, fe gomisiynwyd tair drama newydd ar gyfer y cwmni; ‘God in Ruins’ sef cywaith y dramodydd a’r cyfarwyddwr Anthony Nielson ar y cyd gyda Theatr Soho, gafodd ei lwyfannu dros y Nadolig; ‘Days of Significance’ gan Roy Williams am ddau filwr yn boddi’u gofidiau cyn gadael am Irac, fydd yn theatr y Tricycle drwy fis Mawrth, a’r ddrama fues i’n ei weld yr wythnos hon sef ‘I’ll Be The Devil’ o waith Leo Butler, eto’n theatr y Tricycle yn ardal Kilburn.

Dyma ddrama dywyll a dirdynnol wedi’i osod yn yr Iwerddon ym 1762, yn Limerick a bod yn benodol, a roddwyd dan warchae ym 1691 gan fyddin William III. Yn sgil y fuddugoliaeth gan wŷr William, cafodd dilynwyr y ffydd Gatholig eu herlid am bron i ganrif, gyda’r offeiriaid yn cael eu halltudio, eu tiroedd yn cael eu cipio, a’u torri allan o’r bywyd gwleidyddol.

Mae’r ddrama wedi’i ganoli ar hanes un teulu sy’n byw yn y goedwig a hynny o dan orthrwm y Fyddin. Yr hyn sy’n cymhlethu ffawd y fam ‘Maryanne’ (Derbhle Crotty) a’i ddau o blant ‘Dermot’ (Tom Burke) ac ‘Ellen’ (Samantha Young) ydi’r ffaith mai un o’r milwyr, ‘Lieutenant Coyle’ (Eoin McCarthy) yw tad y plant. Ar gychwyn y ddrama, mae ‘Coyle’ yn ymweld â’r teulu ar amheuaeth bod ‘Dermot’ wedi lladd mochyn. Mae hyn yn groes i ‘reolau’r’ Fyddin, ac mae’n rhaid i’r drwgweithredwr gael ei gosbi. Dyma gychwyn angst y tad, sydd nid yn unig yn gorfod cadw’n dawel am ei deulu, ond hefyd yn gorfod gwadu ei grefydd. Wrth ymuno â gweddill o’r Gatrawd sy’n gwledda yn y dafarn, fe dry’r chwarae yn chwerw, a buan iawn y daw’r gwirionedd i’r fei, ac mae’r modd y mae’r milwyr yn arteithio ‘Coyle’ yn ffiaidd. Parhau wna’r drasiedi wrth i ferch y teulu gael ei threisio a’i lladd gan ‘Colonel Fleming’ (John McEnery) gan orfodi’r tad i gladdu corff ei ferch yn y pridd sy’n gorchuddio’r llwyfan.

Oni bai am set hyfryd Lizzie Clachan sy’n cyfleu symlrwydd y tŷ yn y goedwig, y groes yn y glaw a’r dafarn odidog, yn ogystal â goleuo cynnil ond cynnes Charles Balfour, roedd hi’n anodd iawn canolbwyntio ar y cynhyrchiad. Roedd safon yr actio, y llefaru a chyfarwyddo Ramin Gray yn warthus i feddwl bod y cyfan o dan adain yr RSC, gyda dim ond Derbhle Crotty fel y fam a Samantha Young fel y ferch yn haeddu sôn amdanynt. Roedd coreograffi’r ymladd yn wan a ffug, roedd y cerydd a’r arteithio yn wamal, ac allwn i’m dallt hanner o eiriau’r actorion. Dim ond gydag ambell i linell fel ‘your nation was bred for slavery’ a ‘St Patrick was an Englishman’ y gwnes i ddechrau cydymdeimlo efo’r Gwyddelod a chasáu’r Milwyr.

Wedi’r siom o weld ‘God in Ruins’ fis Rhagfyr, a rŵan y cynhyrchiad bregus yma o waith dramodydd cyfoes arall, tybed mai doeth o beth yw glynu at waith y Meistr wedi’r cyfan?

Mae ‘I’ll Be The Devil’ newydd ddod i ben yn Theatr y Tricycle, ond mae’r RSC yn parhau i fod yno tan ddiwedd Mawrth yn cyflwyno ‘Days of Significance’ o waith Roy Williams. Mwy o fanylion ar www.rsc.org.uk

No comments: