Total Pageviews

Friday 25 January 2008

'White Boy'


Y Cymro – 25/01/08

Mae troseddau yn ymwneud â drylliau neu gyllyll yn ddigwyddiad dyddiol bellach yn y wlad ‘ma. Bob dydd, mewn sir wahanol, mae 'na stori ar y newyddion ynglŷn â llofruddiaeth mewn ysgol neu ar y stryd, a degau o fywydau ein hieuenctid yn cael ei ddifa’n rhy gynnar o lawer. Pwnc addas a phriodol a hynod o gyfredol felly ar gyfer y Theatr Ieuenctid Cenedlaethol, sy’n ail-lwyfannu eu cynhyrchiad llwyddiannus o ‘White Boy’ yn Theatr Soho yma yn Llundain.

Mae’r ddrama wedi’i gosod mewn ysgol uwchradd, ddigon tebyg i’r gyfres deledu ‘Grange Hill’, ac fel mae gwedd a gwisgoedd yr actorion yn cyfleu, mae pawb o gefndiroedd gwahanol. Mae ‘Ricky’ (Luke Norris) yn fachgen croen wyn, sydd wedi’i fagu ynghanol y gymuned groenddu, ac o’r herwydd wedi etifeddu eu tafodiaith liwgar a chyfoethog; mae ei gyfaill pennaf ‘Victor’ (Obi Iwumene) yn groenddu ac yn bêl-droediwr gwych sydd mewn cariad efo ‘Zara’ (Venetia Campbell) sydd eto’n dywyll. Cymeriad diddorol arall ymysg y criw amrywiol ydi ‘Sorted’ (Timi Kamal) sydd ag atal deud, ac wedi gorfod ffoi i Lundain ar ôl i’w deulu gael eu herlid yn ei wlad enedigol. Ac yna’r bwli o ben-groen gwyn ‘Flips’ (Ciaran Owens) gwerthwr cyffuriau hiliol sydd am weld ‘glanhad’ ar y strydoedd, er mwyn iddo ef a’i frodyr, eu hawlio yn ôl. Buan iawn yn y ddrama, fe welir y gwrthdaro rhwng y cymeriadau, a’r cymeriad addfwyn ‘Sorted’ yn ennyn ein cydymdeimlad, yn sgil cael ei erlid gan ‘Flips’. Erledigaeth sydd, fel sy’n gwbl amlwg, am arwain at y drasiedi. Ond cryfder sgript Tanika Gupta ydi’r tro annisgwyl yn uchafbwynt y stori, sy’n gwbl ddramatig, ac eto’n hynod o effeithiol a phwerus.

Nai ddim enwi pwy sy’n cael ei lofruddio, rhag tarfu eich mwynhad o’r ddrama, ond mae’r golygfeydd sy’n dilyn y digwyddiad yn hynod o emosiynol ac yn brawf sicr o bŵer theatr yn ei ddistawrwydd. Symlrwydd eto yn y digwydd a’r dweud, ac mae’r canlyniad yn gofiadwy dros ben.

Heb os, cryfder y cynhyrchiad ydi cyfarwyddo medrus Juliet Knight a dreuliodd gryn amser yn cynnal gweithdai gyda phobol ifanc cyn dechrau ar y gwaith. Roedd yr awdures hefyd yn bresennol, ac mae’r ddwy yn cyfaddef i rai o linellau mwya’ cofiadwy’r gwaith ( a rhai sy’n llawer rhy liwgar i’w hail-hadrodd ar dudalennau’r Cymro!) ddeillio’n uniongyrchol o’r gweithdai yma. Hoffais yn fawr y modd y llwyddodd y cyfarwyddo i gyfleu symudiadau a phrysurdeb bywydau’r criw ifanc yn y golygfeydd agoriadol a’r rhai oedd yn pontio’r prif olygfeydd, a’r cyfan i gyfeiliant traciau cerddorol pwrpasol. Roedd yr olygfa ail-greu araf o’r llofruddiaeth i gyfeiliant y feiolin hefyd yn bwerus o effeithiol, ac yn un sy’n aros yn y cof.

Un o wendidau’r cynhyrchiad oedd gor-hyder y cast ifanc yma, sy’n amrywio mewn oedran o 16 i 22 oed. Mae yna wastad peryg mewn unrhyw griw ifanc sydd wedi’u dethol o blith eu cyfoedion i ‘serennu’ mewn cynhyrchiad o’r math yma. Yn anffodus, roedd eu hyder, y tro hwn, yn amlygu ei hun yn ormodol, ac o’r herwydd yn amharu ar eu portread o’r cymeriadau. Roeddwn i hefyd yn teimlo bod ambell un yn llawer rhy hen i bortreadu’r ‘plant ysgol’, ac fe gollwyd y naïfrwydd plentynnaidd o’r herwydd. Roedd eu gwaith ensemble i’w ganmol yn fawr - y cyd-symud a’r coreograffi yn berffaith, ond rhaid cyfaddef fy mod i’n cael anhawster mawr wrth geisio clywed a deall y geiriau oedd yn cael ei lefaru. A bod yn onest, dim ond un actor sef Ciaran Owens fel ‘Flipps’ oedd yn amlwg â dawn glir i lefaru’n glywadwy, gyda’r gweddill yn ceisio efelychu llefaru naturiolaidd y cyfryngau, ond heb ddysgu’r gamp na’r dechneg o daflu’u lleisiau ar lwyfan.

Hunaniaeth ydi prif thema’r gwaith, sy’n ceisio ateb y cwestiwn oesol ynglŷn ag ystyr bod yn ‘groen wyn’ mewn cymuned Lundeinig y dyddiau yma. Er gwaetha’r dialog wedi’r trychineb, a’r epilog ar ddiwedd y ddrama, dwi’m cweit yn siŵr os cefais ateb i’r cwestiwn. Does na’m dwywaith fod y gwaith yn bwerus, ac ymateb y gynulleidfa o bob oed yn gadarnhaol. Ond tybed os mai’r emosiwn cry wedi’r llofruddiaeth sy’n gyfrifol am hyn, yn hytrach na’r gwir fwriad i newid agwedd ein hieuenctid i atal y troseddu yn y dyfodol? Faint pellach na phennod o’r gyfres ‘Grange Hill’ ydi’r ddrama mewn gwirionedd?

Mae ‘White Boy’ i’w weld yn Theatr Soho tan Chwefror 9fed. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â www.sohotheatre.com neu www.nyt.org.uk

No comments: