Total Pageviews

Friday 4 January 2008

'The Seagull'


Y Cymro – 04/01/08

Mae’n flwyddyn newydd, ac am flwyddyn sy’n wynebu’r Cwmni’r Royal Shakespeare sydd wedi ymgartrefu dros dro yn Llundain tra bod cartref parhaol y cwmni yn Stratford-upon-Avon yn cael ei drawsnewid. Mae’r gwaith yno’n gobeithio cael ei gwblhau erbyn 2010. Ac am ddewis ac amrywiaeth mae’r cwmni yn ei gynnig. Dyna chi’r ‘addasiad o ‘A Christmas Carol’ ar gyfer cenhedlaeth y rhyngrwyd’ gan Anthony Nielson - ‘God in Ruins’ sydd ar hyn o bryd yn Theatr y Soho, dau gomisiwn i awduron cyfoes arall yn Theatr y Tricycle ym mis Chwefror a Mawrth sef ‘I’ll be the devil’ gan Leo Butler a ‘Days of Significance’ gan Roy Williams. Prosiectau sy’n gwireddu breuddwyd y cwmni o wahodd awduron i weithio’n agos gyda’r actorion, yn union fel wnaeth Shakespeare ei hun. Ac o sôn am y dyn ei hun sy’n rhoi ei enw i’r cwmni, bydd digonedd o’i waith yntau i’w weld hefyd dros y flwyddyn gan fod y Cwmni ar hyn o bryd yn paratoi i lwyfannu ei gylch o ddramâu hanesyddol sef ‘Richard II’, ‘Henry IV’(rhan I a II), ‘Henry V’, ‘Henry VI’ (rhan I, II a III) a ‘Richard III’. Bydd y cyfan i’w weld yn y Roundhouse yn Llundain rhwng Ebrill 1af a Mai 25ain.

Yn y New London Theatre ar hyn o bryd, mae’r meistr Syr Ian McKellen yn ymuno â chast y Cwmni i berfformio dwy ddrama sef ‘Y Brenin Llŷr’ (King Lear) a’r ‘Wylan’ (The Seagull) o waith Chekhov. Llwyfannwyd ‘Y Brenin Llŷr’ (gan yr un cast) fel diweddglo i’r ŵyl o holl weithiau Shakespeare a gynhaliwyd yn Stratford-upon-Avon rhwng Ebrill 2006 ac Ebrill 2007 ble gwelsom berfformio 37 o ddramâu’r Meistr gan 30 cwmni gwahanol. Y ddau gynhyrchiad wedi’u cyfarwyddo gan Trevor Nunn, yn yr un theatr gyda llaw ag y creodd yntau’r sioe ‘Cats’ nôl ar ddechrau’r wythdegau. Wedi i gyfnod yr RSC ddod i ben yno, bydd Nunn yn parhau i weithio yn y theatr gan lwyfannu’r ddrama gerdd uchelgeisiol nesa i agor yma yn Llundain sef ‘Gone with the Wind’ .

Ond dilyn hanes ‘Yr Wylan’ gan Chekhov wnes i wedi’r ŵyl, a bod yn lwcus o gael gweld Syr Ian McKellen yn portreadu’r tad neu’r brawd llesg ‘Sorin’ gyda Frances Barber fel ei chwaer a’r actores ‘Arkadina’. Wrth wylio’r cynhyrchiad yma, daeth atgofion pleserus iawn am gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o ddrama Chekhov ‘Y Gelli Geirios’ sawl blwyddyn yn ôl, gyda’r diweddar annwyl Graham Laker yn cyfarwyddo. Roedd holl naws cynhyrchiad Graham i’w weld yng ngwaith Nunn, o’r goleuo hydrefol cynnes, i’r gwisgoedd golau a’r angst teuluol. Wedi’i gyfansoddi ym 1896, mae ‘Yr Wylan’ yn cael ei hystyried fel y gyntaf o bedair prif ddrama Chekhov, gyda’r ‘Gelli Geirios’ neu ‘The Cherry Orchard’ yn cael ei gydnabod fel y pedwerydd.

Wrth i’r actores enwog a llwyddiannus ‘Arkadina’ ddod i dreulio’r haf ar stad wledig ei brawd ‘Sorin’, ynghyd â’i chariad ifanc a’r nofelydd llwyddiannus ‘Trigorin’ (Gerald Kyd), mae ei mab ‘Konstantin’ (Richard Goulding) sy’n ddarpar ddramodydd wedi cyfansoddi drama newydd sydd i’w berfformio yn yr ardd gan yr ‘wylan’ ei hun ‘Nina’ (Romola Garai) merch i dirfeddiannwr cyfagos, a channwyll ei lygad. Ond yn ystod y ddrama, mae ‘Konstantin’ yn laru ar agwedd gwamal ei fam, ac mae’r cyfan yn mynd i’r gwellt. Mae ‘Masha’ (Monica Dolan) sy’n ferch i reolwr y stad, ‘Shamrayev’ (Guy Williams), dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo ‘Konstantin’, ond mae’r athro lleol ‘Medvedenko’ (Ben Meyjes) hefyd mewn cariad efo hithau! Fel sy’n nodedig am waith Chekhov, buan y mae’r teimladau yn dechrau drysu, a Nina yn syrthio mewn cariad efo ‘Trigorin’ sy’n achosi tor calon i ‘Konstantin’ a chynnig terfynol gan ‘Arkadina’. Wnâi ddim sôn rhagor am y plot rhag chwalu’r stori, ond yng ngeiriau Chekhov ei hun : ‘os oes dryll yn crogi ar y mur yn yr act gyntaf, mae’n rhaid ei danio yn yr act olaf’. Ac mae ergydion y dryll hwnnw yn drasig o drist ar ddiwedd y ddrama.

Dwi wastad wedi ofni gwaith Chekhov. O gael cynhyrchiad gwael ohono, fe all suro pob awydd i weld mwy o’i waith, gan fod y cyfan mor eiriol a dwys, gyda llawer o’r prif ddigwyddiadau o fewn y ddrama, yn digwydd oddi ar y llwyfan. Braf yw medru datgan fod cynhyrchiad Trevor Nunn, fel yng ngwaith Graham Laker gynt, wedi gadael blas mwy arnai. Efallai mai un rheswm dros hyn oedd y ffaith i Nunn ei hun fynd yn ôl at y Rwsieg gwreiddiol i gyfieithu’r ddrama, yn hytrach na ‘addasiad’ arall ohoni. Drwy wneud hynny, mae’r cast wedi llwyddo i gadw rhythm naturiol dialog gwreiddiol Chekhov, ynghyd â dewis i gynnwys ambell i olygfa sydd ddim yn y gwreiddiol, fel ymgais aflwyddiannus ‘Konstantin’ i ladd ei hun ar ddiwedd yr Ail Act.

Llwyddodd McKellen a’r forwyn o gymeriad ‘Masha’ (Monica Dolan) i ddod â’r hiwmor i ganol treialon y teulu truenus yma, ac ar ddiwedd eu taith sydd wedi mynd â’r cwmni i Singapore, Melbourne, Wellington, Auckland, Efrog Newydd, Minneapolis a Los Angeles, dwi’n falch iawn o fod wedi medru eu gweld yma yn Llundain. Mae’r ddrama, ynghyd â’r ‘Brenin Llŷr’ i’w weld yn Llundain tan Ionawr 12fed. Mwy o fanylion am waith y cwmni ar www.rsc.org.uk

No comments: