Total Pageviews

Friday 18 January 2008

Edrych ymlaen...

Y Cymro – 18/01/08

Mae’n gyfnod cythryblus iawn ym Myd y Theatr yma yn Llundain ar hyn o bryd, a hynny yn sgil y newyddion cyn y Nadolig am fwriad Cyngor y Celfyddydau Prydeinig i dorri’n sylweddol ar eu nawdd eleni. Mae dyfodol dros 190 o sefydliadau celfyddydol yn y fantol, a bu cryn ymgyrchu mewn cyfarfod arbennig yn Theatr yr Young Vic ar y 9fed o Ionawr. Equity oedd wedi trefnu’r cyfarfod, gan wahodd Prif Weithredwr y Cyngor, Peter Hewitt, i geisio egluro’r rhesymeg tu ôl i'r toriadau. Chafodd ei sylwadau o fawr o groeso gan bron i 500 o’r gynulleidfa oedd yno, yn gyfuniad o gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, actorion a chynrychiolwyr o amrywiol gyrff celfyddydol. Asgwrn y gynnen i lawer oedd y diffyg amser a roddwyd i drafod y mater, cwta pum wythnos yn cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, y cyfrinachedd ynglŷn â’r newyddion, a’r diffyg sylwadau dros ddewis dyfodol ambell i theatr ar draul eraill. Ni fu unrhyw drafodaeth agored am y mater rhwng unrhyw gyrff ynghlwm â’r theatrau. Gorffennwyd y cyfarfod gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn y Cyngor, ac fe gafwyd cefnogaeth deilwng i’r cais. Dwy theatr sydd mewn peryg yn sgil y newyddion yw Theatr yr ‘Orange Tree’ yn Richmond a Theatr y ‘Bush’ yn Shepherd’s Bush. Bydd y torriadau hefyd yn effeithio cerddorfeydd a chorau.

Yn bersonol, allai’m peidio teimlo mai bai’r gemau Olympaidd sydd wedi’u gwahodd yma yn y flwyddyn 2012, yw rhan o’r broblem. Bydd cefnogwyr y Gemau yn siŵr o anghytuno, gan daflu ffigyrau amrywiol yn profi nad oes gan hynny fawr i’w wneud â’r mater yma. Os oes rhaid dewis rhwng ychydig wythnosau o chwaraeon a blynyddoedd o theatr, mi wn i ar ba ochor fyddai i’n dymuno bod!

Fuo na ‘rioed adeg well i ymweld ag un o’r sioeau cerdd yma yn Llundain gan fod yr ymgyrch ‘Get into London Theatre’ yn cynnig gostyngiadau mawr ar docynnau i dros 50 o sioeau tan yr 8fed o Chwefror. Gallwch brynu tocynnau i’r seddau gorau am bris o £15, £25 neu £35 yn ddibynnol ar y sioe a’u hargaeledd. Mwy o wybodaeth ar y wefan : www.getintolondontheatre.co.uk

A chyfle arall eleni i sicrhau lle i Gymro neu Gymraes ar lwyfannau’r West End! Mae’r BBC ar fin cychwyn chwilio am actor ac actores i bortreadu ‘Nancy’ ac ‘Olifer’ mewn cynhyrchiad newydd o’r ddrama gerdd o’r un enw. Rhaid i’r holl ymgeiswyr am ‘Nancy’ fod yn 17oed neu’n hŷn ar Ionawr 1af 2008 ac ‘Olifer’ i fod o leia yn 9oed a ddim hŷn na 14eg ar y 31ain o Ragfyr 2008. Mwy o wybodaeth ar y wefan : www.bbc.co.uk/oliver Bob lwc!

Mae 'na amrywiaeth mawr ar fin agor yma yn Llundain, wrth inni ffarwelio â rhai o’r hen wynebau. Mae ‘Mary Poppins’ bellach wedi hedfan â’i hambarél am y tro olaf o lwyfan Theatr y Tywysog Edward, gan gychwyn ar daith genedlaethol fydd yn ymweld â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Mawrth ac Ebrill 2009! Yn ei lle, bydd y ‘Jersey Boys’ yn hawlio’r llwyfan efo’u stori am sut y daeth Frankie Valli a’r grŵp ‘The Four Seasons’ i fod, drwy gyfansoddi eu caneuon, creu eu sain unigryw a gwerthu 175 miliwn o recordiau dros y byd i gyd, cyn bod yr un ohonynt yn 30 oed!

Bydd Jonathan Kent yn parhau â’i dymor o ddramâu yn Theatr Frenhinol yr Haymarket efo comedi gan Edward Bond ‘The Sea’ fydd yn agor ar yr 17eg o Ionawr tan Ebrill 19eg. Ymysg y cast mae Eileen Atkins a David Haig. Mwy am y cynhyrchiad yma dros yr wythnosau nesaf.

Drama newydd gan David Hare sef ‘The Vertical Hour’ sy’n agor tymor 2008 yn y Royal Court, ac yn parhau yno tan Mawrth 1af. Yn y Donmar, bydd y dramodydd o Gaerdydd, Peter Gill yn cyfarwyddo cynhyrchiad newydd o’i ddrama ‘Small Change’ sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn y 1950au ac sy’n sôn am gyfeillgarwch dau fachgen ifanc a pherthynas y ddau a’u mam. Bydd y ddrama yn agor ar y 10fed o Ebrill tan ddiwedd mis Mai.

Ac os da chi’n digwydd bod yn Efrog Newydd, cofiwch fod Daniel Evans ar hyn o bryd yn ail-afael yn awenau’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’ o waith Sondheim sy’n agor ar y 25ain o Ionawr yn Studio 54, 254 West 54th Street (rhwng Broadway a 8th Aves), tan ddiwedd Ebrill. Bydd Daniel yn portreadu’r brif ran yn y ddrama gerdd sef yr artist Seurat, a chefndir rhai o’i luniau mwyaf adnabyddus. Enillodd Daniel Wobr Olivier am ei bortread o’r artist yn ystod ei gyfnod ar lwyfan yn Llundain - yr ail Olivier iddo ennill mewn cwta ychydig o flynyddoedd. Mwy o wybodaeth ar www.sundayintheparkonbroadway.com

Ac o sôn am Sondheim, cofiwch am addasiad ffilm Tim Burton o’i ddrama gerdd ‘Sweeney Todd’ sy’n agor yn genedlaethol ddiwedd Ionawr. Fues i’n ddigon ffodus i’w gweld hi ddechrau’r wythnos, a byddwch yn barod am lawer iawn, iawn o waed! Johnny Depp sy’n portreadu’r barbwr barbaraidd, ac fe dderbyniodd yntau Wobr Golden Globe ddechrau’r wythnos am ei bortread a’i ddawn i ganu! Actorion yn hytrach na chantorion yw gweddill y cast sy’n cynnwys gwraig Tim Burton, Helena Bonham Carter fel Mrs Lovett ac Alan Rickman fel y Barnwr Turpin. Dyma’r chweched tro i Burton weithio efo Johnny Depp, ac mae blas rhai o’r cynyrchiadau eraill fel ‘Edward Scissorhands’ i’w weld yn amlwg. Dim ond gobeithio y bydd y ffilm yn denu cynulleidfa newydd i’r theatrau, ac y bydd drysau’r theatrau hynny’n parhau yn agored, er gwaetha llafn anfaddeuol Cyngor y Celfyddydau. Pwy fydd â gwaed ar eu dwylo wedyn...?

No comments: