Total Pageviews

Friday 27 July 2007

'Mojo Mickybo' a 'Little Shop of Horrors'





Y Cymro - 27/7/07

Gogoniant Llundain i mi ydi medru dewis rhywbeth gwahanol i’w weld yn wythnosol. O’r llwyfannu saff er weithiau’n syrffedus, i’r arbrofol a mentrus. O’r syml i’r cymhleth, o’r mawredd i’r manylder. Dwy ddrama wrthgyferbyniol arall aeth a’m bryd yr wythnos hon sef ‘Mojo Mickybo’ yn Stiwdio Trafalgar a ‘Little Shop of Horrors’ yn Theatr Newydd yr Ambassadors.

Dau actor yn unig sydd yn ‘Mojo Mickybo’ a’u cymeriadau sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama. Mae ‘Mojo’ (Martin Brody) a ‘Mickybo’ (Benjamin Davies) yn ddau fachgen ifanc sy’n byw yn Belfast yn ystod Haf 1970. Mae eu cyfeillgarwch wedi’i selio ar gadw reiat - o hap chwarae a phoenydio hen ŵr i boeri o falconi’r sinema ac ail-greu hynt a helynt ‘Butch Cassidy and the Sundance Kid’.
Ond ynghanol y chwarae, daw tro ar fyd wrth i gasineb y gymuned suro perthynas y ddau am byth.

Drwy gydol y ddrama, mae gofyn i’r ddau actor nid yn unig bortreadu’r ddau lanc, ond hefyd i ail-greu golygfeydd gyda 15 o gymeriadau eraill sy’n amrywio o rieni’r ddau i’w gelynion ar y stryd. Allwn i’m llai na rhyfeddu at allu’r ddau actor ifanc yma wrth lifo mor rhwydd o un cymeriad i’r llall. Weithiau, roedd gofyn iddyn nhw bortreadu dau gymeriad o fewn yr un olygfa, ac roedd Martin Brody yn wych wrth gyfleu’r sgwrs rhwng ‘Mojo’ a ‘Mam Mickybo’, a fynta’n gneud y ddau.

Clod hefyd i awdur y ddrama Owen McCafferty sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘un o’r lleisiau mwya’ arbennig i ddod allan o’r Iwerddon dros y ddeng mlynedd diwethaf’. Roedd adeiladwaith y ddrama, a’i dechneg o gael y ddau lanc i newid eu rôl sawl gwaith o fewn yr un olygfa yn brawf pendant o’i allu, a’i ddawn deud yn farddonol. Gwnaeth Jonathan Humphreys waith rhagorol wrth gyfarwyddo’r ddau, a hynny mewn gofod bychan iawn, o dan wres llethol y goleuo effeithiol. Roedd y ddau actor yn chwysu chwartiau erbyn diwedd yr awr a chwarter - prawf pendant o’u gwaith caled sy’n gwbl gyfrifol am lwyddiant y cynhyrchiad.

O’r Iwerddon i ‘Skid Row’ yn yr Amerig a mentro mewn i siop flodau truenus Mr Mushnik (Barry James) a chael ein cyflwyno i geidwad y siop ‘Seymour’ (Paul Keating) a channwyll ei lygad ‘Audrey’ (Sheridan Smith). Wrth i’r busnes ddirywio’n ddyddiol, mae’n rhaid meddwl am gynllun i achub y siop, a dyna pryd mae ‘Seymour’ yn datgelu ei blanhigyn unigryw a ddaw yn ei dro yn atyniad enfawr, a chreu’r anfadwaith sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama gerdd wych yma - ‘Little Shop of Horrors’ o waith Howard Ashman ac Alan Menken. Daeth y ddrama gerdd hon i fod yn 1982 yn sgil ffilm o’r un enw a wnaethpwyd gan Roger Corman. Enillodd hi sawl gwobr tra ar Broadway a’r West End yn Llundain ac yn ddiweddarach, gwnaethpwyd ffilm arall o’r ddrama gerdd!

Yn y cynhyrchiad yma o waith y Mernier Chocolate Factory (yr un bobol sydd wedi cynhyrchu’r ddrama gerdd lwyddiannus ‘Sunday in the Park with George’ a ‘Take Flight’ sy’n sôn am y brodyr Wright ac sy’n agor wythnos nesa) mae pob aelod o’r cast yn haeddu’u canmol. Dyma berl o sioe sydd bellach, ers diwedd Mehefin, wedi’i wthio i un o theatrau lleiaf Llundain, a hynny gyferbyn â’r tŷ bwyta enwog yr ‘Ivy’.

Er gwaetha’r teimlad bod y sioe (a’r actorion ar brydiau) wedi’u gwasgu a’u gwthio i bob modfedd o’r llwyfan, dyma noson o adloniant pur; o’r caneuon cofiadwy i’r cymeriadu comig. Rhaid enwi’r dynwaredwr Alistair McGowan sy’n ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan y West End, a hynny fel y deintydd gwallgo’ sy’n gariad i ‘Audrey’, ac sy’n rhoi perfformiad cofiadwy iawn mewn sawl rôl yn ystod y sioe. Clod hefyd i Paul Keating a Sheridan Smith, sy’n wych fel y cwpl ifanc od, sy’n magu’r anghenfil o blanhigyn, sy’n crefu am waed er mwyn parhad ei dyfiant.
Ai ddim i fanylu am dynged y ddau, na’r planhigyn, ond mae’r diweddglo yn olygfa arbennig iawn, ac yn hynod o ddoniol. Sioe ddelfrydol ar gyfer y teulu oll yr Haf hwn, ac mae’r theatr yn cynnig tocyn arbennig i deulu o 4 am ddim ond £70. Bargen yn wir.

Mae ‘Little Shop of Horrors’ i’w weld yn Theatr Newydd yr Ambassador tan yr 17eg o Dachwedd ond yn anffodus mae ‘Mojo Mickeyboy’ newydd ddod i ben.

No comments: