Total Pageviews

Friday 6 July 2007

'Angels in America'



Y Cymro - 6/7/07

Dychmygwch orfod eistedd mewn theatr i wylio drama 7 awr o hyd! Wel, dyna oedd yn fy wynebu'r wythnos hon wrth wylio’r ddwy ran o ddrama ysgytwol Tony Kushner, ‘Angels in America’ yn Theatr y Lyric, Hammersmith.

Mae’r ddrama wedi’i osod yn Efrog Newydd yn ystod yr wythdegau cythryblus, a’r ddinas yn wynebu argyfwng angheuol yn sgil y clefyd AIDS. Hanes dau gwpl sy ‘ma yn y bôn, a pherthynas y ddau wrth iddyn nhw wahanu, a hynny o fewn byd ceidwadol a gwleidyddol; byd llawn cenfigen a’i thrigolion yn wynebu un o’r clefydau mwya’ creulon a dadleuol a fu erioed. Disgrifiwyd y ddrama ar y pryd gan Newsweek fel ‘...y ddrama Americanaidd fwyaf uchelgeisiol ein hoes ni: epig sy’n mynd â ni o’r ddaear i’r nefoedd; sy’n canolbwyntio ar wleidyddiaeth, rhyw a chrefydd; sy’n mynd â ni o Washington i’r Kremlin, i Dde’r Bronx, i Salt Lake City ac i Antartica; sy’n delio efo’r Iddewon, y Mormoniaid, y WASPs a’r bobl groenddu; sy’n newid o realaeth i ffantasi, o drasiedi AIDS i gomedi’r breninesau ‘drag’, hyd at farwolaeth...’ Does dim rhyfedd bod angen 7 awr i ddweud y cyfan!

Ac yntau wedi’i eni yn Efrog Newydd, ac wedi wynebu’r pryderon fel dyn hoyw yn yr wythdegau, ffrwyth comisiwn oedd y ddrama i Kushner, a hynny ar gais y cyfarwyddwr Oskar Eustis o Gwmni Theatr Eureka yn San Fransisco, ac fe ymddangosodd y fersiwn wreiddiol ym 1992. Mae’r ddrama yn rhannu’n ddwy - y rhan gyntaf a elwir yn ‘Millennium Approaches’ a’r ail-ran sy’n cael ei hadnabod fel ‘Perestroika’. Yng ngeiriau’r awdur ei hun, ‘Nid drama wleidyddol y sgwennais i. Dylai rhywun ddim gneud hynny. Pwrpas ysgrifennu ydi creu noson ddifyr o adloniant theatr. Adloniant i mi ydi rhoi deunydd inni feddwl amdano a’i herio yn ogystal â chael ei diddanu a’n gorfodi i chwerthin. Y peth mwya’ adloniannol imi, ydi datgelu’r gwirionedd’.

Yn fuan iawn, fe ddaeth ‘Angels in America’ yn llwyddiant ysgubol ar Broadway, ac fe ystyriwyd y ddrama fel trobwynt, nid yn unig yn hanes y ddrama hoyw, ond hefyd yn hanes y ddrama yn yr Amerig. Dyma’r ddrama a esgorodd ar ddramâu eraill fel ‘The Laramie Project’ a gyflwynwyd gan Theatr Bara Caws dro yn ôl, o dan ei theitl Cymraeg - ‘Gwaun Cwm Garw’. Enillodd Kushner wobrau lu fel y Pulitzer, dau Tony, tri Obie, dau ‘Drama Desk’ a’r ‘Evening Standard’. Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu, a derbyniodd y fersiwn honno enwebiad Oscar hyd yn oed.

Daniel Kramer sydd wedi cyfarwyddo’r fersiwn newydd hon, ac mae ei waith yn hudolus o bwerus. Dwi wedi edmygu gwaith Kramer ers gweld ei gynhyrchiad o ‘Bent’ yn gynharach yn y flwyddyn. Er na tydi’r beirniaid swyddogol ddim wedi bod yn rhy garedig efo’i gynyrchiadau yn y gorffennol, i mi, mae’r cynhyrchiad yma yn brawf ysgubol o’r dalent fel cyfarwyddwr a’i synnwyr theatrig. Mae’r Cast hefyd yn haeddu eu canmol, ac yn eu plith Adam Levy sy’n portreadu’r un o’r prif gymeriadau - ‘Louis’ sy’n dioddef o AIDS, ond sydd a’r nerth i frwydro ymlaen; Greg Hicks sy’n portreadu’r gwleidydd ‘Roy Cohn’, sydd hefyd yn dioddef o AIDS, ond sy’n gwrthod derbyn y ffaith, gan fynnu mai Canser ydio; Jo Stone-Fewings fel ‘Jo Pitt’, y gŵr priod sy’n byw celwydd a’i wraig sy’n dioddef o salwch meddwl ‘Harper’ (Kirsty Bushell); Ann Mitchell wedyn (sy’n fwy adnabyddus fel prif gymeriad y gyfres ‘Widows’ gan Lynda La Plante) yn wych wrth bortreadu llu o gymeriadau gan gynnwys y fam ‘Formonaidd’ sy’n gorfod derbyn bod ei mam yn hoyw, ac wynebu bywyd anodd Efrog Newydd, ymhell o ‘burdeb’ Dinas y Llyn Halen.

O’r llwyfannu mentrus, i’r angylion du a’r ffynnon ddŵr sy’n tasgu hyd y llwyfan - dyma gynhyrchiad arall wnaiff aros yn y cof am amser hir. A pheidied neb â meddwl bod yr argyfwng o’r clefyd AIDS wedi peidio; ym mis Mawrth eleni, cofnodwyd bod 80,099 o bobl o statws HIV+ yn Lloegr gyda 4,879 yn Yr Alban a 1,286 yng Nghymru. Yr ardaloedd dinesig sy’n parhau i gael y canrannau uchaf gyda 53% o’r holl niferoedd yn Llundain.

Am wybodaeth bellach am y ddrama, ymwelwch â www.lyric.co.uk . Mae’n parhau i fod yn Llundain tan yr 22ain o ‘Orffennaf cyn mynd am Yr Alban. Does dim rhaid eistedd am 7 awr - mae’r cwmni wedi rhannu’r sioe dros ddwy noson os di hynny’n haws! Os am fwy o fanylion am HIV ac AIDS, ymwelwch â www.tht.org.uk .

No comments: