Total Pageviews

Friday 20 July 2007

'Love Labour's Lost' a 'Baghdad Wedding'



Y Cymro - 20/7/07

Tydwi ddim yn or-hoff o Shakespeare. (O.N erbyn 2016, dwi'n hoff iawn iawn o'r Bardd!) Falle mai un o’r rhesymau ydi’r ffaith mai dim ond dwy ddrama o’i eiddo y cefais y cyfle o’u hastudio; ‘Romeo a Juliet’ yn yr ysgol a ‘Macbeth’ yn y coleg. Ymateb cymysg iawn felly'r wythnos hon o dderbyn gwahoddiad i Theatr unigryw'r Globe, er mwyn gweld cynhyrchiad o’r ddrama ‘Love Labour’s Lost’ gan y meistr ei hun, a hynny o fewn y gofod a’r awyrgylch cywir.

Allwch chi’m llai nag edmygu cyfansoddiad ac edrychiad yr adeilad to-gwellt gwyngalchog yma, sydd wedi’i ail-godi ar lannau de’r afon Tafwys ers deng mlynedd bellach. Cyn cyrraedd fy sedd, roedd yn rhaid paratoi. Codi (a thalu) am glustog er mwyn eistedd yn fwy cyfforddus ar y meinciau pren - wel, go brin y bod Golygydd Y Cymro yn disgwyl imi sefyll ynghanol y ‘groundlings’ am bron i dair awr!! Yna, craffu ar gynllun yr adeilad er mwyn gweld yn union ble oedd ‘G3’ yn ‘Bay G’ yn yr ‘Upper Gallery’ o’r ‘North Tower’ - dechrau amau bod y ‘groundlings’ yn llawer callach! Wedi cyrraedd, a chramu i mewn i’m sedd, cael y cyfle i sylwi ar fawredd yr adeilad - o’r llwyfan, a’i freichiau igam-ogam sy’n ymestyn allan i’r gynulleidfa, i’r pileri, sydd wedi’i gwisgo fel coed, ac sy’n dal y ffenestri a’r drysau yn eu lle.

Cael fy niddanu wedyn gan y cerddorion sy’n paratoi awyrgylch y ddrama, ac yna daw’r actorion i’w lle, a chychwyn stori’r Brenin o Navarre (Kobna Holdbrook-Smith), a’i dri chydymaith ‘Berowne’ (Trystan Gravelle), ‘Longaville’ (William Mannering) a ‘Dumaine’ (David Oakes) sydd ar fin arwyddo datganiad i ymwrthod ag unrhyw bleserau cnawdol am gyfnod o dair blynedd, er mwyn parhau â’u hastudiaethau. Wedi arwyddo, mae ‘Berowne’ yn atgoffa’r brenin am ddarpar ymweliad Tywysoges Ffrainc (Michelle Terry), ynghyd â’i thair morwyn ‘Rosaline’ (Gemma Arterton), ‘Maria’ (Cush Jumbo) a ‘Katherine’ (Oona Chaplin) sydd yn drysu cynlluniau’r pedwar ohonynt yn llwyr. Wrth i’n naill ochor syrthio mewn cariad efo’r llall, daw’r hwyl a’r miri i ben gyda’r newyddion am farwolaeth tad y Dywysoges, a gorffennir yr hanes heb yr un briodas, sy’n hollol wahanol i arferiad y cyfnod.

Unwaith eto, roedd hi’n bleser gwylio Trystan Gravelle yn serennu fel ‘Berowne’ a’i gampau comig a’i acen Gymraeg yn diddanu’r gynulleidfa, wrth geisio ennill calon ‘Rosaline’. Felly hefyd gydag actores arall o Gymru - Rhiannon Oliver oedd yn portreadu un o’r werin bobol - ‘Jaquenetta’ a’i hymddiddan llawn hiwmor â’r gwerinwr ‘Costard’ (Joe Caffrey). Digon derbyniol ar y cyfan oedd gweddill o’r cast ifanc yma, yn enwedig y brenin a’i wŷr, er bod rhai o’r morynion yn wannach, a’u lleisiau tila yn cael ei golli ynghanol y gofod enfawr, a’r hofrenyddion uwchben! Falle nad dyma’r ddrama na’r cynhyrchiad cywir i leygwr Shakesperaidd fel fi, ond roedd y profiad o ymweld â’r adeilad unigryw hwn yn werth bob eiliad.

O’r cyfnod at y cyfoes, a drama wreiddiol gan awdur newydd - ‘Baghdad Wedding’ o waith Hassan Abdulrazzak yn Theatr y Soho. A ninnau ynghanol y brwydro a’r bomiau beunyddiol yn Irac, dyma ddrama sy’n mynd â ni at fywyd bob dydd trigolion Irac - at y teuluoedd a’r bobol ifanc sy’n ceisio’n ddyddiol i fynd o gwmpas eu gwaith a bywyd cymdeithasol, er gwaetha’u sefyllfa.

Mae’r olygfa gyntaf yn mynd â ni’n syth i galon y ddrama, a hynny ar fore priodas y nofelydd a’r meddyg ifanc trwsiadus ‘Salim’ (Matt Rawle) sy’n derbyn cyngor gan ei gyfaill ‘Marwan’ (Nitzan Sharron) ynglŷn â sut i ymddwyn gyda’i ddarpar briod ‘Zina’. Yng ngeiriau’r ddrama : ‘Yn Irac, tydi priodas ddim yn briodas heb fod gynnau’n cael eu tanio. Fel ym Mhrydain, tydi priodas ddim yn briodas heb i rywun chwydu neu geisio cysgu efo un o’r morynion!’. Yn sgil y tanio, mae awyren yn gollwng taflegryn ar gerbydau’r briodas, ac mae’r briodferch a’i theulu yn cael eu lladd, ac ar yr olwg gyntaf, ‘Salim’ yn ogystal. Wrth i ‘Marwan’ adrodd yr hanes, down i wybod yn fuan iawn bod ‘Salim’ yn fyw ac wedi’i achub gan yr ‘Insurgents’. Wedi cyfnod o garcharu, ei arteithio a’i gwestiynu gan yr Americanwyr, caiff ei ryddhau yn ôl i’w deulu. Un haen yn unig ydi’r stori yma o’r sgript gyfoethog hon sy’n plethu’r gwleidyddol a’r emosiynol yn hynod o deimladwy .

Roedd popeth am ail-gynhyrchiad Lisa Goldman yn plesio, o adeiladwaith tynn y ddrama i’r actio, y goleuo a’r set. Dyma gynhyrchiad sy’n cyffwrdd â’r gwir stori yn Irac, gan fynd â ni ymhell tu hwnt i’r bwletinau newyddion at y bobol. Gwych iawn.

Mae ‘Baghdad Wedding’ i’w weld yn y Soho tan yr 21ain o ‘Orffennaf a ‘Love Labour’s Lost’ yn y Globe tan y 7fed o Hydref.

No comments: