Total Pageviews

Saturday 30 September 2006

'The Grapes of Wrath'


Y Cymro - 30/09/06

Er imi glywed sôn am nofel ddadleuol John Steinbeck, ‘The Grapes of Wrath’ a hynny yn bennaf oherwydd ffilm John Ford gyda Henry Fonda yn y pedwardegau, doeddwn i ddim yn gyfarwydd o gwbl â’r stori na’r hanes dadleuol tu ôl iddi.

Yn dilyn llwyddiant ‘Of Mice and Men’, doedd hi ddim yn syndod felly bod Tim Baker wedi dewis i addasu’r nofel yma ar gyfer cynhyrchiad diweddara Clwyd Theatr Cymru, a hynny yn bennaf oherwydd y stori gre’ emosiynol am deulu yn brwydro yn erbyn annhegwch cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r cyfan wedi’i leoli yn America yn ystod cyfnod y Dirwasgiad Mawr pan gafodd 250,000 o deuluoedd eu gorfodi i adael eu cartrefi yn Oklahoma gan deithio draw am California i chwilio am waith. Dilynwn hanes teulu’r ‘Joad’ ar eu taith enbyd draw am Galifornia, gan dreulio cyfnodau byr mewn gwahanol wersylloedd, wrth chwilio am hafan ddiogel, parch a heddwch. Mae enw’r teulu yn adlais hefyd o hanes ‘Job’ yn y Beibl, a ddangosodd gryn fynadd o dan orthrwm. Dyma thema sy’n nodweddu llawer o waith Tim Baker - o ddyddiau ei gynyrchiadau cynnar efo Theatr Gorllewin Morgannwg hyd at anghyfiawnder nofelau Alexander Cordell yn y drindod o ddramâu a berfformiodd Clwyd Theatr Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Brwydr y bobol gyffredin yn erbyn anhegwch a rhagfarn, gan ennill y dydd a’u hunan-barch.

Roedd set eang a chwaethus Max Jones yn effeithiol tu hwnt, ac yn atgoffa rhywun o arddull ffilm, drwy ganolbwyntio ein sylw ar rannau penodol o’r llwyfan i gyd-fynd â’r stori. Braf hefyd oedd gweld cast o 34 yn cyd-actio’n fendigedig, a phob un yn portreadu’i gymeriad yn gryf a chyson.

Rhaid canmol perfformiad Lynn Hunter fel mam y teulu, sy’n cynnal rhan helaeth o’r ddrama gyda’i pherfformiad cadarn a graenus tu hwnt. Clod hefyd i Bradley Freegard fel ‘Tom Joad’, mab hyna’r teulu sy’n cael ei ryddhau o’r carchar ar gychwyn y nofel, ac sy’n ymuno â’r teulu ar eu taith drasig draw am Galifornia. Roedd sawl wyneb cyfarwydd ymysg y cast helaeth fel Maldwyn John, Gwyn Vaughan Jones a Rhys Parry Jones. Braf gweld yr actorion yma yn cael eu castio mewn rhannau sy’n sialens iddynt, ac yn gyfle gwych i ddangos eu doniau fel actorion profiadol, o gysgod cymeriadau operâu sebon a chyfresi drama.

Cyfanwaith cynhyrchiadau Tim Baker sy’n apelio bob tro. Mae ganddo’r gallu i ddod â phawb ynghyd yn un corws sy’n adleisio neges y ddrama ar gân a cherddoriaeth. Mae’r cyd-weithio rhyngddo â’r cyfansoddwr Dyfan Jones wastad yn llwyddianus, a chlod arbennig i Dyfrig Morris sy’n arddangos ei ddawn brofiadol fel drymiwr, drwy gyfeilio i nifer o’r caneuon.

Unig wendid y cynhyrchiad ydi’r ffaith ei fod o tua ugain munud yn rhy hir. Roeddwn innau yn dyheu am fynadd Job ynghanol gwres ac undonedd yr Ail-Act. Daeth y gawod o law, sy’n adlais o’r dymestl yn y stori, fel chwa o awyr iach ynghanol gwres llethol Theatr Anthony Hopkins. Mi ellid yn hawdd fod wedi tocio’r stori, heb golli’r ddrama na’r neges. Gair i gall at yr addasiad nesaf Mr Baker!

Ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag heidio draw i’r Wyddgrug i weld cynhyrchiad arall sy’n taro deuddeg. O’r set i’r sain, o’r cast i’r canu - dyma gynhyrchiad safonol a theatrig sy’n deilwng o gynulleidfa niferus. Mae’r cynhyrchiad i’w weld yno tan y 7fed o Hydref.

No comments: