Total Pageviews

Friday 20 October 2006

'An Inspector Calls'


Y CYMRO - 20/10/06

Clasur arall sydd dan y chwyddwydr celfyddydol yr wythnos hon sef cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ddrama enwog J B Priestly, ‘An Inspector Calls’. Yn debyg iawn i ‘Look Back in Anger’ neu ‘Waiting for Godot’, dwi’n siŵr bod sawl un wedi clywed am enw’r ddrama yma, ond heb fawr o syniad beth yw’r stori.

Wel, yn y bôn, mae’n syml. Wedi pryd o fwyd i ddathlu dyweddïad eu merch Sheila â’r gŵr golygus Gerald Croft, mae teulu’r Birling yn setlo yn y lolfa er mwyn parhau i ddathlu. Ond daw ymwelydd i’w plith, Inspector Goole, sy’n dechrau codi cwestiynau dyrys am farwolaeth merch ifanc. Wrth i’r Inspector holi’r teulu o un-i-un, daw hi’n amlwg bod sawl dirgelwch yn cuddio o dan y parchusrwydd, fydd yn chwalu’r uned deuluol am byth.

Cyfansoddodd Priestly’r ddrama ar ddiwedd y 1940au, ond mae o wedi’i gosod ym 1912. Mae hyn yn cwbl fwriadol. Dyma’r cyfnod cyn y Rhyfel Byd, cyn i’r gymdeithas newid er gwell neu er gwaeth, a chyn i’r Titanic druan suddo. Yn union fel y gwch unigryw, er cymaint y cyfoeth a’r hyder, does dim gobaith i’r teulu wrth wynebu cwestiynau rhewllyd yr Inspector. Roedd Priestly yn Sosialydd; roedd o’n bryderus am y modd roedd cymdeithas yn rhannu’n ddosbarthiadau cymdeithasol, rhaniadau oedd yn hanu o’r awch am gyfoeth a statws a phŵer. Dyma, yn ei farn o, arweiniodd at y Rhyfel Byd.

Mewn cynhyrchiad oedd yn ymylu weithia ar fod yn felodrama, cafwyd perfformiadau teilwng iawn gan Robert Blythe fel y tad cyfoethog ‘Arthur Birling’ a’r un modd gan Elizabeth Counsell fel y fam bryderus ‘Sybil’. Llwyddodd Dennis Herdman i roi perfformiad llwyddiannus fel ‘Eric’ y mab euog a’r un modd gan Daniel Llewelyn-Williams fel y ‘Gerald Croft’ golygus. Doeddwn i ddim mor gartrefol efo dehongliad Rosanna Lavelle fel y ferch ‘Sheila’, rhywsut - doedd ei pherfformiad ddim cweit y taro deuddeg.

Gwendid arall yn y cynhyrchiad oedd portread Aaron Cass o’r ‘Inspector Goole’. Mae’n wir y gellid dehongli arwyddocâd yr Inspector mewn sawl ffordd; rhai’n dadlau mai ysbryd ydyw a bod chwarae-ar-eiriau efo’r enw ‘Goole’ neu ‘Ghoul’; eraill yn dweud mai cynrychioli’r gydwybod mae’r cymeriad neu falle Freud, neu Iesu Grist hyd yn oed!. Tipyn o gybolfa i unrhyw actor ddygymod ag ef! Ond awgrymir yn y cynhyrchiad yma mai rhyw fath o fod arallfydol ydio, efo’i wallt hir, côt dywyll a’r defnydd coch oddi mewn iddi yn rhagfynegi’r perygl. Roedd ei wylio yn rhuthro o gwmpas y llwyfan, o un pen i’r llall, yn tynnu oddi ar lyfnder y ddrama, ac allwn i’m credu bod y cymeriad yn real o gwbl - bod hynny yn fwriadol ai peidio.

Fyddai wastad yn croesawu gweld drama yn cael ei llwyfannu mewn modd gwahanol, ac roedd set-ar-dro Martyn Bainbridge yn apelio. OND, doeddwn i ddim mor hapus o orfod astudio cefnau’r actorion am ymsonau maith o fewn y ddrama. Oherwydd siâp yr ystafell yn Theatr Emlyn Williams, doedd y llwyfannu arbrofol ddim yn llwyddiannus. Gan fod y cynhyrchiad yn mynd ar daith i theatrau mwy traddodiadol, dwi’n siŵr bydd y broblem yma’n cael ei oresgyn. Er cymaint y sioc, a’r elfennau theatrig oedd yn gymaint rhan o ddiweddglo’r cynhyrchiad yma gan Barry Kyle, ac er imi ddeall arwyddocâd y cyfan, allwn i’m peidio teimlo fod y cyfan yn llawer rhy felodramatig a dros-ben-llestri, oedd yn tynnu oddi-ar y ddrama. Gwell fyddai fod wedi talu sylw i’r manion oedd yn amharu ar y perfformiad fel y ‘beads’ ar waelod ffrog laes y fam oedd yn crafu wyneb y set blastig wrth iddi symud o gwmpas! Gwnewch y pethau bychain ynde…!

Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn Theatr Clwyd tan yr 21ain o Hydref cyn teithio draw am Abertawe, Y Drenewydd, Bangor, Caerdydd ac Aberystwyth.

No comments: