Total Pageviews

Friday 13 October 2006

'Diweddgan'


Y Cymro - 13/10/06

Cyn mynd i weld unrhyw ddrama, fyddai’n ceisio gneud fy ngwaith cartref. Ceisio dod i wybod mwy am y ddrama a’r cefndir, er mwyn deall a mwynhau’r cynhyrchiad yn well. Ond efo cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol - cyfieithiad yr Athro Gwyn Thomas o’r ddrama ‘Diweddgan’, roeddwn i’n difaru f’enaid. O ddarllen, a dysgu am y cefndir a’r themâu yn y ddrama, roedd fy nisgwyliadau yn uchel, a’m dealltwriaeth o waith Beckett yn eitha’. Siom erchyll arall oedd y ‘cynhyrchiad’ yma, a barodd imi ofyn o ddifri calon, faint o waith paratoi a wnaed mewn difri?

Drama am bedwar cymeriad yw ‘Endgame’, a gyfieithwyd i’r Gymraeg o’r Ffrangeg gwreiddiol ‘Fin de Partie’. Cyfeirio mae’r teitl at sefyllfa mewn gêm o Wyddbwyll, lle nad oes fawr ddim o’r darnau ar ôl, sy’n arwain at ddiwedd y gêm. Yr un egwyddor sy’ ma yn y ddrama, yn ogystal â gweddill o waith Beckett. Fel gyda’r ddau glown yn ‘Wrth Aros Godot’ neu Winnie yn ‘Happy Days’, mae’r cymeriadau wedi cyrraedd y pen, y diwedd, angau. Does unlle ar ôl iddynt fynd; maent wedi’i chaethiwo yn eu sefyllfa druenus, a’r cwbl sydd ar ôl yw’r aros, gan drafod eu bywydau a’r hyn sydd wedi bod.

‘Dyma ddrama anodd ei chael yn iawn’, yng ngeiriau Beckett ei hun, a does ryfedd bod sawl actor adnabyddus fel John Gielgud wedi gwrthod rhan ynddi, a hynny am ddau reswm : doedd o ddim yn deall y ddrama nac yn ei hoffi. Digon teg. Mae cymeriadau Beckett yn rhai anodd ei diffinio, gan eu bônt - a dyfynnu’r diweddar Graham Laker, ‘fatha nionyn!’ Haen ar ôl haen ar ôl haen, a mwya’n byd mae rhywun yn mynd o dan y croen, dyfnha’n byd yw’r ystyr. O ran y pedwar actor oedd wedi’i gam-gastio’n llwyr gan y Theatr Genedlaethol, allwn i ddim cydymdeimlo ag unrhyw un ohonynt. Doedd yna ddim tristwch yn perthyn i’r un perfformiad, a dyna yw hanfod y ddrama yma; yng ngeiriau Nel (Lis Miles) ‘does dim yn fwy doniol nag anffawd’ (neu ‘dristwch’ yn ôl y cyfieithiad Saesneg).

Trwy’r tristwch dwys a ddylid fod wedi greu, y byddai’r comedi creulon hon wedi bod yn llawer cryfach. Roedd undonedd llefaru a chyd-actio Hamm (Arwel Gruffydd) a Clov (Owen Arwyn) yn syrffedus heb uchafbwynt nag emosiwn yn perthyn iddo. I feddwl bod Hamm i fod ar derfyn ei fywyd, ac yn dyheu am gael ‘rhoi pen arni’, roedd ganddo’r nerth ryfedda i chwibanu ar ddiwedd y ddrama, heb sôn am lefaru. Dylid fod wedi cael llawer iawn mwy o ddirywiad, amrywiaeth a gwrthgyferbyniad ym mherfformiad y ddau yma.

Er tegwch iddynt, doedd sgript lenyddol ac acen-gymysglyd Gwyn Thomas ddim yn helpu, a dylai Judith Roberts y cyfarwyddwr neu o leia’r cyfarwyddwr artistig fod wedi llacio llawer ar y testun er mwyn helpu’r perfformiadau. Roedd y ‘stiff rwydd’ yma’n ymledu i gaeadau’r ddau ‘dun lludw’ sef cartref Nel a’r Nagg (Trefor Selway) yng nghornel yr ystafell; pam bod rhaid cael weiren pysgota er mwyn agor a cau’r caeadau? Oni fyddai wedi bod llawer mwy dramatig petai’r ddau flin yma wedi eu tynnu ynghau a’u gwthio ar agor?

Y peth mwya erchyll ac anfaddeuol am y cynhyrchiad gwan yma oedd goleuo (Jenny Kagan) a set (Colin Falconer). Welis i rioed gynllun goleuo mor ddi-liw ac anniddorol yn fy myw! Roedd yna or-oleuo eithafol yma, a diffyg synnwyr theatrig. Roedd y set yn rhy fawr a ffals i gyfleu’r benglog angenrheidiol, heb arlliw o fwrdd gwyddbwyll na’r diwedd caeth, tywyll, a thrist sydd gyn ddued â dyfodol y cymeriadau.

Siom arall a methiant drudfawr ac anheilwg i goffau canmlwyddiant geni Samuel Beckett, a dechrau’r diweddgan go iawn i’r Theatr Genedlaethol. Rhaid newid y gân yn fuan, fuan iawn. Plîs….

No comments: