Total Pageviews

Friday 16 August 2024

Dyfodol Y Fedal Ddrama (2025 ymlaen) - Pwy 'da chi am bechu?

Dwi'n falch iawn, (ar un llaw eironig!), bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi chwalu'r nyth eleni, dros sgandal Y Fedal Ddrama. Os nad oedd canslo Theatr y Maes a'r Pentref Drama yn ddigon, mae canslo'r dramodydd buddugol, (a'r holl ddramodwyr eraill), a'r Seremoni a'r Gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd, wedi dadlennu peryglon enbyd sy'n wynebu'r Theatr Gymraeg yng Nghymru (unwaith eto).


Roeddwn i eisoes wedi prynu Rhestr Testunau Eisteddfod Wrecsam 2025 cyn siambyls Pontypridd, ac wedi dychryn o weld bod 'Y Fedal Ddrama' wedi'i chanslo hefyd, a 'Medal y Dramodydd' wedi cymryd ei lle. Wn i'm pam trafferthu i gadw 'Medal' o unrhyw fath, gan ei bod hi'n glir i unrhyw un mai 'comisiwn o £3000' yw'r gystadleuaeth bellach, ac nid cystadleuaeth cyfansoddi drama. Wedi'i ganslo hefyd mae'r beirniaid annibynnol a di-duedd a 'chonsortiwm o'r cwmnïau proffesiynnol' wedi cymryd eu lle.  Yr unig rai fydd yn elwa o'r newid enbyd yma, ydi'r cwmnïau theatr broffesiynol - ac yn benodol, y Theatr Genedlaethol, ac nid ni ddramodwyr druan.


Dwi'n ddigon hen i gofio'r helynt a fu dros Dlŵs ac wedyn Medal Ddrama'r Genedlaethol ers degawdau bellach. 1989 i 1991 oedd cychwyn fy nghofio, cyn i lawer o'n harweinyddion artistig presennol gael eu geni!. Beirniaid yn anghytuno dros bwy i'w gwobrwyo, actorion o'u co' am fod y beirniaid am wobrwyo dramâu anorffenedig, a bod y dramâu hynny yn cael eu hail-sgwennu mewn ymarferion!. Adolygwyr yn lloerig am ddiffyg sylw a pharch i'r ddrama. Cwmnïau yn cwffio dros bwy oedd yn cael llwyfannu’r buddugol. Fel y gwelwch chi, does fawr wedi newid!

Eisteddfod Llanrwst 1989

Y peryg mawr, yn enw 'datblygu' a 'newid', ydi'n bod ni'n mynd am yn ôl, yn lle ymlaen. Er nad oedd y sefyllfa'n berffaith o gwbl, mi fu 'na gyfnod cyn y Clo Covid lle (yn fy marn i) 'roedd pethau wedi dechrau setlo. Roedd gyda ni Theatr Genedlaethol; a Theatr a Phentref Drama ar y Maes. Hwre! Ac roedd y Theatr Genedlaethol yn perfformio'r dramâu buddugol, neu o leia'n cynnal darlleniad, yn ôl eu ffafriaeth. Ac 'roedd gennym 'ddramodwyr' newydd teilwng fel Gareth Evans-Jones, Gruffydd Siôn Ywain, Hefin Robinson ac Heiddwen Tomos, a'u dramâu buddugol.


 
Ond fe ddaeth newid, eto, ac arweinydd presennol y Theatr Genedlaethol yn datgan yn blwmp ac yn blaen, nad oedd ganddo ddim diddordeb mewn bod yn rhan o'r Gystadleuaeth. A dyna ddechrau’r diwedd. Canslo'r Theatr (gan mai cyd-gynnal Theatr y Maes efo'r Theatr Gen' oedd yr Eisteddfod), ac o'r herwydd, canslo'r Pentref Drama. A'r esgus a roddwyd ar y pryd? Nad oedd dramâu'r Fedal yn cyd-fynd ag ethos y Theatr Genedlaethol newydd, ac nad oeddent am gael eu clymu wrth orfod llwyfannu neu drefnu darlleniad o'r buddugol. A dyna'r farwol i'r Fedal Ddrama, ymhell cyn llanast eleni. Doedd y patrwm hynafol o gyfansoddi drama yn unig ddim yn gweddu i weledigaeth (gŵyl) ymylol y Theatr Genedlaethol. Theatr stryd, neu theatr fringe sy'n ffitio i gaffi neu far, ydi'r nod bellach. Monologau neu gomedi arbrofol rhad, sy'n cael ei gynnig i Brifwyl ein Cenedl, yn lle cynhyrchiad safonol Cenedlaethol.
 
Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2023

Ac felly, mae'n gwbl glir, mai dyna sy' tu cefn i'r penderfyniad o newid y gystadleuaeth, a pham bod y Theatr Genedlaethol wedi aros yn fud drwy'r llanast diweddaraf. Drwy 'ofyn i'r dramodwyr gyflwyno 'braslun', a 'proffil' o'r cymeriadau ac enghraifft o ambell i 'olygfa, mae'r pŵer yn cael ei gyflwyno'n daclus i ddwylo'r cwmnïau theatr; cânt greu be ma' nhw am ei lwyfannu, yn hytrach na be mae'r dramodwyr eisiau'i greu. Pa wahaniaeth ydi'r 'gystadleuaeth newydd' i'r broses arferol o gynnig am gomisiwn? A be' sy'n atal y cwmnïau rhag gwthio syniadau a dramodwyr sydd eisoes yn gyfarwydd iddynt, i gystadlu? Sylwer ar y geiriad cyfleus 'Gellid cyflwyno Dramâu nad ydynt eisoes wedi cael eu cyflwyno i unrhyw un o aelodau'r Consortiwm' yn hytrach na, 'Ni chaniateir cyflwyno Dramâu sydd eisioes wedi cael eu cyflwyno' . Ac yn waeth na hynny, 'Gellid cyflwyno fel cyd-ysgrifennwr, gan rannu'r wobr ariannol a'r profiad sydd ynghlwm â'r wobr.' Sut aflwydd mae 'rhannu'r' Fedal Ddrama? A faint o 'gyd-ysgrifennwyr' sy'n dderbyniol? Un? Tri? Deg? Faint o adborth annibynnol fydd na yn y broses guddiedig hon? A phwy fydd yn 'gwarchod' y dramodwyr mewn gwirionedd?
 
Dilynwch y patrwm uchod i'r eithaf, (yn enwedig ar ôl y llanast eleni), ac mae'r cyfan yn drewi'n gyfleus, cyn cychwyn. O blygu'r gystadleuaeth yn fwriadol, o gytuno i gyd-weithio cyn beirniadu, o wthio dramodwyr unigol ar draul eraill,  gall y cyfan gyd-fynd â pholisïau’r cwmnïau i ymgyraedd at eu targedau ariannu. A bod yn hollol onest, mae arlliw o hynny eisoes i'w weld eleni.  


Mae'n amlwg bod beirniaid Medal 2024 wedi penderfynu gwobrwyo "llais newydd ffres" ar draul (o bosib) dramodwyr eraill, pa liw bynnag fo eu croen. Pwy a ŵyr os oedd gwaith y buddugol gystal â drama anfuddugol Wyn Bowen Harries?. Go brin, gyda'r fath ganmoliaeth am ei ddrama 'DNA'


Am fod beirniadaeth gyfan y gystadleuaeth wedi'i gelu rhag y cyhoedd, chawn ni byth wybod. Be sy'n gwbl amlwg ydi bod y cynllun wedi bac ffeirio big-time!, gan (yn ôl awgrym Cefin Roberts ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru) fod yr 'actor' oedd i fod i gyflwyno'r gwaith, wedi gwylltio'n gacwn, ac yn amlwg wedi gwrthod cyflwyno'r gwaith! Pa hawl oedd gan y dramodydd 'gwyn' i feiddio defnyddio eu dychymyg a'u dawn ac i siarad ar ran cymuned nad oeddent yn perthyn iddi? A dyna ddychryn yr Eisteddfod o'u coua'n lân a chanslo pawb a phopeth! 

Pwy 'da chi am bechu? fydd y gystadleuaeth i'r Eisteddfod o hyn ymlaen. O adael i'r cwmnïau theatr gael gormod o 'rym fel hyn, yna dwi'n gwybod mai dramodwyr 'gwyn' fydd yn dioddef. A na, nid 'welsh privilege' yw hyn, fel sydd eisioes yn cael ei awgrymu, ond synnwyr cyffredin. Mae hynny yn gwbl amlwg, oherwydd dyna yw'r ethos newydd. Mae pob cwmni theatr o Gymru i Gaeredin i Galway i ganol y West End yn crefu am waith gan ddramodwyr o gefndiroedd 'anarferol'. A gwych o beth am hynny. Ond mae'r arfau a'r adnoddau i wneud hyn eisioes yn meddiant bob cwmni theatr sef 'comisiynu!' ac nid 'newid cystadlaethau Cenedlaethol'. 

Onid safon y Gymraeg, (o gofio Rheol Gymraeg yr Eisteddfod) a gallu unigol y dramodydd (nid dramodwyr neu'n waeth fyth y potensial o'r dramodydd a'i gyfieithydd), ddylia ragori dros y cynnwys a'r cymeriadau, a lliw croen yr awdur?  A beth am weledigaeth theatrig unigol y dramodydd?  O gyflwyno dim ond braslun o'r cynnwys a'r cymeriadau ac enghraifft brin o'r dialog, yna mae'n agor y drws i gwynion lu o annhegwch a thuedd. Dychmygwch wneud yr un peth yng nghystadleuaeth Y Goron neu'r Gadair neu'r Fedal Ryddiaith? Caniatau gwobrwyo 'cyd-weithio' neu'r bosibilrwydd o 'gyfieithu', neu meiddio wobrwyo'r syniad yn unig, gydag enghraifft o 'allu creadigol y bardd neu'r awdur?. Mae'r peth yn hurt bôst. Gwobrwyo'r cyfanwaith mwya' gorffenedig ac addawol yw pwrpas cystadleuaeth. Syniad comisiwn yw pob ymgais arall.

Os ar sail 'amrywiaeth anarferol' neu 'bod yn fwy cynhwysol' yw'r newidiadau yma, yna dylid gosod cystadleuaeth ar wahân ar ffurf Medal y Dysgwyr, gyda phroses cwbl dryloyw o weld a chyfarfod a sgwrsio gyda'r dramodwyr o flaen llaw. Peryg hynny yng nghyd-destun byd y ddrama, yw gwobrwyo ffrindiau ac anwybyddu'i gelynion! Ond falla mai dyna yw'r bwriad o'r dechra! Mae'n g'neud i rywun ama! Does ryfedd bod ein dramodwyr yn troi'n awduron!
 
Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol

Rhoi hyder a'r Parch yn ôl i'r gystadleuaeth fel y mae hi, ydi'r unig ffordd ymlaen. Does dim angen newid y gystadleuaeth er mwyn trio plesio pawb. Newch chi fyth!. Dyna wendid S4C!  Newid y meddylfryd â'r 'arbenigwyr' sydd ynghlwm â hi, sydd raid. Os nad ydi'r Theatr Gen' neu'r cwmnïau theatr a diddordeb yn y gystadleuaeth fel y mae hi, yna ffarwel iddynt. Sawl cwmni sydd wedi trafferthu mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol i weld gwaddol aflwyddiannus y Gystadleuaeth, a'r llwyfan o ddramodwyr 'addawol' a anwybyddwyd?

Pam ddim gofyn i'r Panel Drama leol ddewis beirniad - mae digon o actorion ac athrawon drama, a chyfarwyddwyr amatur a phrofiadol ymhob ardal. Gofynnwch iddynt ddewis actorion lleol i gyflwyno detholiad o'r buddugol, rhag amharu ar Weledigaeth Wych y Theatr Genedlaethol a'u prysurdeb!. Trefnwch Wasg i gyhoeddi'r ddrama, os ydi hi'n haeddu hynny, neu rhowch arian datblygu i'r awdur i gywreinio'u gwaith yn annibynnol i unrhyw gwmni a'u ego's unigol. Fel y dywedodd un o aelodau gweithgar byd y ddrama amatur yng Nghymru, mae 'na ddigon o gwmnïau ar lawr gwlad sy'n ysu am ddramâu newydd, os nad yw'r cwmnïau profiadol eu heisiau!

No comments: