Total Pageviews

Friday 14 August 2015

'Gypsy'

Y Cymro 14/08/15 

Tra bod pawb arall yn heidio tua mwynder Maldwyn, llusgo’n hun i’r Savoy wnes i (dan frathiad go hegar o enau’r ‘ci du’) er mwyn ymuno yn y llu sydd eisoes wedi canmol portread ‘perffaith’ Imelda Staunton o ‘Rose’ yn y ddrama gerdd ‘Gypsy’.


Wythnos briodol iawn i weld y sioe wefreiddiol hon am fam ‘eisteddfodol’ sy’n mynnu gwthio ei ‘phlant’, ac yn arbennig felly ei merch ei hun – y ‘Jane’ benfelen berffaith yn gyntaf, ac wedyn yr enwog  ‘Gypsy Rose Lee’ i lygaid y llwyfan.  Er gwaetha pawb a phopeth, a’r ffaith hynod o greulon nad oes gronyn o dalent yn perthyn i’w ddwy, mae’r ‘Rose’ gegog a llawn hyder yn ddall o realiti’r sefyllfa. Y gwirionedd creulon sy’n codi dagrau diffuant iawn erbyn y diwedd yw mai methiant gyrfa’r fam sy’n gyfrifol am wthio a bwlio’r ‘plant’ o flaen cynulleidfaoedd Vaudeville'r cyfnod.


Er imi brynu tocyn dros flwyddyn yn ôl i weld y sioe yn ei chartref chwarelyddol creadigol yng Ngŵyl Chichester, methais â chyrraedd y fan honno, a bûm yn cicio’n hun am flwyddyn gyfa am fethu’r wledd.  Erbyn hyn, mae’r tocynnau fatha aur, a’r prif reswm heb os nag oni bai ydi portread gwefreiddiol Imelda Staunton sy’n hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd dduwch y diwedd.  Un o’r portreadau hynny sy’n gyrru iâs oer i lawr y cefn, ac yn naddu’i le haeddiannol yn y cof.  Erbyn diwedd yr Act Gyntaf, a’i ‘phlant’ wedi ffoi,  a’r dyfodol yn edrych yn unig ac oer, mae ei datganiad di-fai o’r gân glasurol ‘Everything’s Coming Up Roses’ yn ein paratoi’n berffaith ar gyfer corwynt yr ail act.



Ar gwrs ffilm ryngwladol sawl blwyddyn yn ôl, mi ddysgais am bwysigrwydd taith y prif gymeriad, ddylai fod yn ddigon cryf i gynnal diddordeb y gynulleidfa.  Cyfrinach y daith (a llwyddiant y stori) yw lle i gychwyn y daith, er mwyn caniatáu digon o filltiroedd emosiynol i’w godro. Byddai rhai yn dadlau bod ‘Rose’ druan wedi cyrraedd diwedd ei thaith ar gychwyn y sioe. Ond cryfder cywaith Jule Styne, Stephen Sondheim ac Arthur Laurents yw gwthio’r cymeriad i’w eithaf, a gogoniant Imelda Staunton yw cyfiawnhau pob eiliad o’r daith ddramatig honno.



Mae’r sioe hefyd yn llawn o ganeuon adnabyddus sy’n fêl i’r glust fel ‘Some People’, ‘Together, Wherever we go’, ‘Small World’ a’r anfarwol ‘Everything’s Coming up Roses’.  Llifai môr o atgofion yn ôl am Iola Gregory yn y ffilm wych ‘Rhosyn a Rhith’ wrth geisio achub ei sinema leol; y diweddar Cilla Black, Lilly Savage (Paul O’Grady) a Barbara Windsor yn ail-fyw’r gân adnabyddus arall ‘You Gotta Get a Gimmick’ ar lwyfan y Royal Vareity; a mam yn fy ngorfodi fel plentyn 8 oed i wisgo fel ‘Gypsy Rose Lee’ a minna fawr callach mai seren striptease oedd prif enwogrwydd honno!!


Yn seiliedig ar atgofion ‘Gypsy Rose Lee’ am ei mam o 1957, mae’r ddrama gerdd yn cael ei harddel fel un o’r goreuon, a hynny gan amla’ yng nghyswllt portreadau anfarwol y goreuon o’r ‘fwystfil o fam’ neu’r ‘fam llwyfan eithafol’ sy’n cynnwys  Ethel Merman, Angela Landsbury, Patti LuPone, Bette Midler  a bellach Imelda Staunton.


Mae yna ambell docyn ar gael, gyda’r rhataf (yng nghefn y stalls) am gyn lleied â £24.  Ond mae’n rhaid i’r llen terfynol ddisgyn ar y 28ain o Dachwedd eleni, cyn i Imelda Druan ddisgyn yn un swp, wedi’r daith emosiynol, angerddol a chwbl drydanol.

No comments: