Total Pageviews

Friday 6 September 2013

'I'm with the Band'



Y Cymro 6/9/13

‘Gwell Cymro, Cymro oddi cartref’ meddai’r hen air, dihareb a’m meddiannodd yn llwyr, yr wythnos hon. Er imi fethu ymweld â’r Eisteddfod na’r Ŵyl flynyddol yng Nghaeredin eleni, rwy’n gobeithio medru dal yr amryfal gynnyrch Cymraeg a Chymreig ar eu teithiau amrywiol, dros yr wythnosau nesaf. Dyma gychwyn felly, nos Wener ddiwethaf, gyda chyd-gynhyrchiad Canolfan y Mileniwm, Caerdydd a Theatr y Traverse, Caeredin, ar eu hymweliad â Llundain, cyn teithio Cymru a thu hwnt.

‘I’m with the band’, yw teitl y ddrama, wedi’i gyfansoddi gan y Cymro, Tim Price, enillydd gwobr drama gyntaf James Tait Black yng Nghaeredin eleni, am ei ddrama i National Theatre Wales am gysylltiad Cymreig y milwr Bradley Manning, sy’n wynebu cyfnod o garchar, am ryddhau gwybodaeth gyfrinachol, ar wefan Wikileaks. Y fo hefyd oedd awdur y delyneg o ddrama, ‘Salt, Root and Roe’ a welais gan y Donmar Warehouse, dro yn ôl, cyn i Clwyd Theatr Cymru ei hatgyfodi’r llynedd.

Canolbwynt y ddrama yw’r band, ‘The Union’, wedi’i greu gan bedwar llanc o gefndir gwahanol. Y prif leisydd unben hunanol ‘Damien Ross‘ (James Hillier), Sais sy’n ceisio’n ddyfal i gadw’r band ynghyd; ‘Barry Douglas‘ (Andy Clark) Sgotyn, hyderus, annibynnol sy’n penderfynu gadael y band, a cheisio gyrfa unigol; Gwyddal meddw a threisgar ‘Aaron Adair‘ (Declan Rodgers) sydd mewn perthynas ranedig dymhestlog gyda’i gariad, a’r Cymro ‘Gruff Mwyn’ (Matthew Bulgo), llinyn trons o lipryn di-asgwrn cefn, ar y gitâr fas, ac yn cael ei wthio ar y llwyfan mewn flight case o grud! Bobol bach, roeddwn i’n gandryll.

Er mai telyneg o ddrama, llawn teipiau, gyda throsiad gormesol oramlwg, oedd y sgript, cafodd hi’i dinistrio’n llwyr gan ‘ordd o gyfarwyddwr o’r Alban, Hamish Pirie. Gig gerddorol (digon gwamal) a gafwyd, gydag ambell i olygfa eiriol wedi’i glynu at ei gilydd, er mwyn ‘ceisio’ dychmygu’r hyn fyddai’n digwydd, petai’r Alban yn hawlio’u hannibyniaeth lawn. Ond, mewn difri calon, beth mae’r fath bortread yn ei ddweud amdanom ni’r Cymry?

Yr Albanwyr sy’n dod allan orau, fawr o syndod o gofio mai yng Nghaeredin y cychwynnodd y daith, a synnwn i ddim mai o Gaeredin y daeth y syniad, yn ôl trywydd y sgript. ‘Barry‘ sydd hefyd yn achub y dydd ar y diwedd, wedi methu dilyn ei yrfa unigol fel cerddor, ac sy’n torri ar ormes unben ‘Damien‘, wrth iddo ymhyfrydu a’i gitâr flaen, ar ben mynydd o fonitorau cerddorol, i gyfeiliant y gerddoriaeth fwyaf erchyll erioed.  Tra bod ‘Aaron‘ a ‘Gruff‘, y taeogion di asgwrn cefn, llipa, yn eu trônsiau’n gwmanog noeth, yn ceisio’n ofer i ochel rhag y fath sŵn.

Do, fe gafwyd ambell foment wirioneddol effeithiol, fel ymson cerddorol y Gwyddal am ei berthynas ranedig dreisgar gyda’i gymar. Effeithiol oherwydd ei gynildeb trasig, a pherfformiad diffuant yr actor i’w ganmol yn fawr. Ond roedd gen i gywilydd a chynddaredd tuag at ein cynrychiolaeth fel Cymry, o’r eiliad y cawsom ein gwthio ar y llwyfan yn y pram o focs, yn gegrwth, heb farn, heb lais, heb ddim.  Pam na ddewiswyd actor golygus, hyderus, canwr o fri, gyda’i iaith a’i stôr o ganeuon traddodiadol, a’i lais unigryw ei hun, fyddai (AC SYDD WEDI) codi dau fys ar yr Undeb, ac wedi llwyddo ar draws y byd o Siapan i Salt Lake City? Pam na ddefnyddiwyd actor/canwr Cymraeg, fel Dyfrig Evans, Rhodri Siôn, Lisa Jên, Ryland Teifi, Cerys, Duffy neu Rhys Ifans? Ta di’r GWIR ddim digon dramatig?

Falle bod angen cic go hegar arnom fel Cymry, ond nid trwy atgyfnerthu’r negyddol yn Genedlaethol, siawns? Rwy’n synnu’n fawr at Ganolfan y Mileniwm, yn cytuno i’r fath gynrychiolaeth o’u gwlad, ac yn fwy fyth wrth yr awdur Tim Price, sy’n sôn yn ddiffuant iawn yn rhaglen y cynhyrchiad, am ei awydd i’w fab, cyntaf anedig, Franklin Gruffudd, fod yn gyfarwydd ac yn falch o’i Gymreictod! A’i dyma’r ‘Gymru’ mae Price yn ‘falch’ ohoni?

Er gwaetha’r dicter, siomedig oedd y cynhyrchiad sigledig hwn, wedi’i foddi gan y gerddoriaeth uchel a’i eiriau aneglur, wedi’i gyflwyno’n flêr ac amlwg o amatur mewn mannau, gyda’i neges wrth Gymreig, sarhaus.

Ewch i’w weld ar bob cyfrif, cytunwch neu anghytunwch, ond mae’r drwg Cenedlaethol wedi’i wneud yng Nghaeredin a Llundain; adolygiad pum seren yr Independent, dalltwch - "super-competent...Englishman and chippy creative Scot" ond…"the cowed Welshman and belligerent inarticulate Ulsterman.". ‘Wylit, wylit, Llywelyn…’

Mae ‘I’m with the band’ yn ymweld â sawl canolfan, dros y mis nesaf, gan gynnwys Pontio Bangor, Aberdâr, Aberystwyth, Caerfyrddin a’r dywededig gywilyddus Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, ymysg eraill.

No comments: