Y Cymro 26/07/13
Ym mis Mai 2009, roeddwn i’n deud y drefn am fod ein Theatr Genedlaethol dair oed, ymhell ar ôl Theatr Genedlaethol Yr Alban, ar ôl eu blwyddyn gyntaf. Dros yr wythnos a fu,
cefais y fraint o ail ymweld â’r ddwy Theatr Genedlaethol a’r tro hwn, roedd y
Cymry gystal, os nad gwell.
Fues i rhwng dau feddwl ynglŷn â
mynd i weld cynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Blodeuwedd’; yn
bennaf oherwydd y daith hir o lannau’r Tafwys, heb sôn am y blinder corfforol,
wedi teithio cryn dipyn yn ddiweddar. Ond, mynd a wnes, diolch i e-bost gan
Arwel Gruffydd yn crybwyll y byddai sôn am y cynhyrchiad am flynyddoedd i
ddod.
Mor lwcus y bues i o gael bod yn
dyst i’r digwyddiad theatrig yma. Tomen y Mur oedd y lleoliad cyfareddol, yn y
mynydd-dir uwchben atomfa Trawsfynydd. Taith bws o ugain munud o’r meysydd
parcio i’r rhan fwyaf o gynulleidfa, ond ras 300 milltir mewn car i minnau,
wedi’i nal mewn traffig ar yr M6. Petai’r awr a hanner hynny ddim yn ddigon o
oedi, cael fy nal wedyn tu ôl i Rhys Meirion a’i griw yn Cerddwn Ymlaen ochrau
Dinas Mawddwy, ac wedyn y llwybr diddiwedd o oleuadau traffig ar yr A470!.
Erbyn imi gyrraedd, roedd
Blodeuwedd (Morfydd Clark), y ferch a wnaed o flodau gan y dewin Gwydion (Glyn
Pritchard) er mwyn trechu tair tynged ei gŵr Llew Llaw Gyffes (Iddon Jones)
drwy roi iddo “…enw, ac arfau, a’r wraig ryfeddaf a grëwyd” eisoes wedi cwrdd â
charu â’r Gronw Pebr golygus (Rhys Bidder).
Wrth ruthro am y Domen, union
leoliad y ‘Gaer yn Ardudwy’ ble y gosododd Saunders Lewis ei glasur o ddrama
farddonol, gallwn wrando ar yr olygfa,
diolch i’r clustffonau a roddwyd inni’u gwisgo.
Wrth agosáu at y dodrefn ynghanol y cae ac i gyfeiliant dwndwr y
defaid, roedd Blodeuwedd, mewn dillad cyfnod
o’r 1920au, yn bygwth ei morwyn Rhagnell, (Non Haf), i gadw’r gyfrinach y caru.
Gyda dychweliad Llew, yn ei wisg filwrol, llwyddodd y Blodeuwedd ddau wynebog i
barhau â’i chynllwyn i ladd ei gŵr ac i ffoi gyda Gronw.
Wrth gerdded a gwrando ar yr
olygfa rhwng Blodeuwedd a Gronw, roeddwn i’n dra bryderus am acenion chwithig Morfydd
a Rhys. Roedd yr angerdd yn sicr yn fyw iawn, a gallwn gredu gant y cant yn
serch y ferch wyllt at ramant rhyddid yr heliwr. Ond gyda chadernid cartrefol presenoldeb
hudolus Iddon a Phenteulu Penllyn (Martin Thomas) a’u triniaeth ddeallus a byw
o ddialog cyhyrog a chymhleth Saunders, gallwn dderbyn yr elfen ddeheuol,
estron, a natur wyllt y ddau gariad.
Cael ein harwain, wedyn, o’r Gaer
tuag at lan yr afon a’r cafn o ddŵr, gan bresenoldeb urddasol y bwtler o was,
(Owain Llŷr Edwards), ble y cipiwyd fy ngwynt gan yr olygfa gyfareddol o ben y
mynydd, a hawdd y gallwn ddeall gweledigaeth y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd, o
osod y ddrama, yn ei chynefin.
Yn ôl patrwm y ddau gyfnod o
gyfansoddi’r pedair act, roeddem bellach yn y 1940au a ffrog werdd gor syml a
phlaen Blodeuwedd yn awgrymu hynny, wrth gadw oed â Gronw, i roi’r cynllun i
ladd ei gŵr ar waith. Eto, cipiwyd fy
ngwynt gan angerdd Iddon Jones wrth ymfalchïo yng nghelwydd beichiogi ei wraig,
cyn ei saethu’n farw gan glec dryll Gronw, gan adael i lif o waed, ffrydio o’i
fron. Dramatig iawn.
Yn yr olygfa odidog olaf y cefais
yr iâs fwyaf. Am y tro cyntaf erioed, daeth barddoniaeth Saunders yn fyw ac yn rhydd o hualau llefaru gor-bwysleisio eisteddfodol. Roedd angerdd a
phresenoldeb yr actorion mor gyfareddol â’r Gaer, ac fe’m dalwyd gan swyn y
digwyddiad hyd fy nadebru gan chwerthiniad iasol Blodeuwedd, cyn ei throi’n
dylluan a hedfan o’i habsenoldeb at fraich y gwas gerllaw. Roedd och a syfrdan
y gynulleidfa yn ddramatig ynddo’i hun, gyda sawl ‘brafô!’ yn cael ei atsain,
heb ddisgwyl gweld yr aderyn prydferth yn cloi’r ddrama. (Diolch i drydar dyddiol Glyn Pritchard, am
berfformiad sigledig y dylluan dros y bythefnos a fu, doedd y deryn ddim yn
sioc), ond clod i Arwel a meistr yr adar, John Islwyn Jones am olygfa y cofiaf
amdani am byth.
Fel gyda’i driniaeth ddeallus o’r
ddrama ‘Llwyth’, fe brofodd Arwel ei allu unwaith eto, i fynd â ni tu hwnt i
eiriau’r sgript. Nid yn unig o ran emosiwn ac angerdd, ond yn llythrennol
felly, drwy gynnwys dyfyniadau pellach o’r Bedwaredd Gainc o’r Mabinogi, i
gyfeiliant cerddoriaeth bwerus Wagner, er mwyn gosod golygfeydd Saunders yn eu
cyd-destun llawn. Drwy gynllunio syml, ond hynod o effeithiol Carl Davies a
chynllun sain gymhleth Dyfan Jones, crëwyd yr awyrgylch perffaith drwy’r ddrama
radio yn fy nghlustiau, oedd yn cael ei gyfoethogi gymaint gan y delweddau o’m
blaen.
O’r diwedd, chwa o awyr iach
hyderus, i’r cyfeiriad cywir, yn llygad tanbaid yr haul! Y gamp nawr fydd
trosglwyddo hud, a chyfaredd y lleoliad i’r llwyfan, gan ddangos nad oes angen
setiau mawr na chastiau mwy, i greu cyfanwaith cynnil a chofiadwy.