Y Cymro - 28/06/13
Ac o Sir Fôn i Stiniog, ar gyfer
noson olaf o gynhyrchiad promenâd y Theatr Genedlaethol sef ‘Blodyn’. Yn
seiliedig ar chwedl Blodeuwedd (sef cynhyrchiad ar leoliad nesaf y cwmni yn
Nhomen y Mur ger Trawsfynydd), bu’r awdur / gyfarwyddwr Bethan Marlow yn
gweithio gyda dwy gymuned yn y Gogledd gan ddefnyddio dim ond dau actor
profiadol sef Ceri Elen a Dyfrig Evans.
Er imi fethu â gweld y ddwy noson
yn Nhalsarn, ger Penygroes, yng nghynefin Lleu Llaw Gyffes, a’r chwedl
wreiddiol, roedd yr hyn a brofais ynghanol gwybed Blaenau Ffestiniog, yn
brofiad cynhyrfus iawn. Cyn i’r sioe gychwyn, a minnau yn symud o gaffi i gaffi
yn ceisio coffi a wi-fi, roeddwn i’n ymwybodol iawn fod yna gynnwrf theatrig
byw a braf yn y Blaenau. Plant a phobol ifanc o bob oed yn sôn am y sioe, ac yn
edrych mlaen i gael bod yn rhan ohoni unwaith eto.
Wedi ein gwadd i Aelwyd yr Urdd,
cawsom freichled felen neu wyrdd, a’n cynghori i ddilyn un ai ‘Ger’ neu
‘Blodyn’. Wedi Rap o rybudd iechyd a diogelwch a chytgan o blant lleol, fe’n plymiwyd i ganol
y ddrama. Buan iawn y dechreuais glymu’r chwedl wreiddiol a’i gwisg gyfoes. Yn
ôl fy lliw, ‘Ger’ (Dyfrig Evans), y Gronw Pebr golygus a ddaeth o’r goedwig,
(neu’r carnifal yn yr achos hwn!) oedd yn rhaid imi ei ddilyn, a’i ymddangosiad
cyntaf ar ben lori a’i gorn siarad, yn gychwyn cyffroes. Cyd gerdded ag o
wedyn, tua’r Ysbyty (sydd wedi’i chau (gwarthus)) wrth iddo sôn am ei fywyd ym
Mhen Gwndwn, a chael ein cyflwyno nid yn unig i’r dref, ond i’w chwaer, y
‘jynci’ ‘Elen’ (Caryl).
Roedd y sioe, a’r gynulleidfa, yn
symud yn rhwydd a di-drefn gan y myrdd o stiwardiaid, ac yn Neuadd Ysgol y
Moelwyn, er gwaetha rhybudd Rhagnell ‘Rhian’ (Carys), fe gusanodd Blodyn (Ceri
Elen) a Ger, mewn môr o olau pinc. Wedi brwydr o ddawns rhwng carfan cyn gariad
Blodyn ‘Llion’ (Bailey) a Ger, daeth y cyfan i ben, ar gân Gai Toms, yn llawer
rhy fuan.
Cynhyrchiad cymunedol arbrofol,
sy’n siŵr o fod wedi gadael ei ôl ar y ddwy gymuned, a blas mwy arna innau.
Cofiwch am ddau gynhyrchiad nesa’r cwmni sef ‘Blodeuwedd’ ar
leoliad yn Nhomen y Mur, gyda llefydd cyfyngedig iawn, a’u cyd-gynhyrchiad, neu
fenthyciad, ‘Rhwydo’ sydd ym Mangor wythnos yma, a Chaerdydd wythnos nesa. Mwy
drwy ymweld â www.theatr.com