Total Pageviews

Friday 12 April 2013

'The Low Road'









Y Cymro 12/04/13

O ganol y ddinas, yn ôl yr es i am Sloane Square, i’r Royal Court er mwyn profi cynhyrchiad olaf Dominic Cooke fel arweinydd artistig y theatr. Yn ôl at un o’i ddramodwyr profiadol a phroffidiol yr aeth i gomisiynu’r ddrama ‘The Low Road’, a chyflwynodd Bruce Norris ddrama gyfnod cyfoethog am gyfalafiaeth, bod yn farus a’r hen ddihareb, ‘ariangarwch yw gwraidd pob drwg’.

“If you look very carefully, you’re sure to find a thief or two in the family tree of every millionaire” yw gwaddol y prif gymeriad, ‘Jim Trumpett’ (Johnny Flynn), y llanc penfelyn sy’n treulio’i oes yn twyllo pawb a’u cynorthwyodd, o’i fam faeth (Elizabeth Berrington) ar gychwyn y ddrama hyd at y Crynwyr tua’r diwedd.

Fel gydag un o ddramâu blaenorol Norris, y comedi llwyddiannus ‘Clybourne Park’, mae hon hefyd wedi’i gosod yn yr Unol Daleithau, ar gyfnod eu brwydr am annibyniaeth. Fe’n tywysir trwy’r trybini gan y storïwr Albanaidd ‘Adam Smith’ (Bill Patterson ) sy’n cyflwyno ei hun fel ysgolhaig o Brifysgol Glasgow, ac sy’n ‘Athro mewn Athroniaeth Foesol’!

Rhag difetha sawl syrpreis annisgwyl, gwell peidio dweud gormod am y stori, dim ond ei bod hi’n epig o ran maint a mynadd. Mae hi’n eiriol iawn, ac yn agos at dair awr o hyd, wrth inni wibio ar hyd y blynyddoedd. Ond mae yma werth, a neges bwysig, yn enwedig dyddiau yma o ystyried y llanast gan y llywodraeth bresennol.

Mae ‘The Low Road’ yn y Royal Court tan yr 11eg o Fai. Mwy yma www.royalcourttheatre.com  neu @royalcourt.

Dwi’n mentro yn ôl i Gymru, ddechrau’r wythnos,  er mwyn dal cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol  yn Sir Gâr.  Wedi gwylio ‘Y Bont’ ar S4C rai dyddiau yn ôl , mi rannai fy marn am y ddwy, yr wythnos nesaf!

No comments: