Total Pageviews

Friday 5 December 2008

'War Horse'





Y Cymro – 5/12/08

Bu Tachwedd yn fis emosiynol iawn. Anghofiai fyth mor profiad ges i ar Sul y Cofio wrth sefyll wrth y Gofgolofn ar Whitehall a chymeradwyo’r miloedd o gyn-filwyr fu’n gorymdeithio. Y wefr wedyn yn nhawelwch y ddau funud, a synnu sut y medrai’r ddinas fod mor dawel. Ar ôl y Gwasanaeth, agosáu at y Gofeb, a’r môr o Bapϊau coch. Pob un a’i enw a’i atgof. Ond yr atgof mwya oedd y llanc deuddeg oed, yn beichio crio, wrth i’r heddlu ei annog i osod ei groes i goffau ei dad a fu farw yn Irac. Dyna ddod â’r Cofio yn nes adref, gan ddwysau pwysigrwydd y dydd a’n dyled ninnau iddynt.

Yr un balchder a chymeradwyaeth i Ifor ap Glyn a’i dîm cynhyrchu am y gyfres ‘Lleisiau’r Rhyfel Mawr’ a welais ar y Wê yn ystod y mis. Drwy’r geiriau a’r delweddau, cawsom ail-fyw’r cyfnod erchyll yma, a chael ein hatgoffa am yr Aberth dros Ryddid.

Yn goron ar y Cofio, ac yn wir, ar y flwyddyn o ddanteithion y profais i yma yn Llundain oedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Lloegr o ‘War Horse’ yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo o’r un enw. Cynhyrchiad ar y cyd gyda chwmni pypedau Handspring, sy’n gyfrifol am greu rhai o’r pypedau mwyaf effeithiol imi’u gweld erioed. Cynhyrchiad a grëwyd yn Hydref 2007, ond sy’n cael ei ail-berfformio ar hyn o bryd yn ôl y galw.

I’r rhai nag ŵyr am y nofel, mae’n stori ddirdynnol am fachgen ifanc o’r enw ‘Albert Narracott’ (Kit Harington) a’i fam ‘Rose’ (Bronagh Gallagher) a’i dad ‘Billy’ (Curtis Flowers) sy’n etifeddu ebol a enwir yn ‘Joey’, wedi i’r ‘Billy’ meddw ei ennill mewn Ocsiwn yn y Plwy. Wrth i’r ebol dyfu, tyfu hefyd wna’r berthynas glos, gyfeillgar a hynod o dwymgalon rhwng ‘Albert’ a’r ceffyl. Wrth i ysfa’r tad am arian gynyddu, mae’n frwydr barhaol i ‘Albert’ geisio cadw’r ceffyl, a rhwystro ymdrechion ei dad i’w werthu. Ond yng nghysgod y Rhyfel Mawr, mae’r arian a’r angen am geffylau o safon ‘Joey’ yn enfawr, a buan iawn, mae’r ceffyl yn ymuno â gweddill y llanciau ifanc ar Faes y Gâd. Wedi torri’i galon efo’r golled, mae ‘Albert’ yn dianc o afael ei deulu, ac yn dilyn ‘Joey’ i’r Drin.

A minnau gwta dair rhes o’r llwyfan enfawr yn Theatr yr Olivier, roedd gwylio’r actorion a’r pypedwyr yn gweithredu’r ceffylau yn anhygoel. Roedd pob ystum, emosiwn a meddwl y ceffyl i’w weld yn glir, a feddyliais i erioed y gallwn i gydymdeimlo cymaint gyda darnau o fambŵ a lledar amrywiol!

Roedd safon yr actio gan y cast enfawr o dros 20 o actorion yn wefreiddiol, yn enwedig felly’r teulu. Roedd cyfarwyddo a llwyfannu sensitif a syml Marianne Elliott a Tom Morris a Chynllunio Rae Smith yn cwbl briodol a chofiadwy. Does ryfedd fod gwaith cynllunio Basil Jones ac Adrian Kohler fu’n gyfrifol am y pypedau wedi ennill Gwobrau lu’r llynedd.

Cynhyrchiad fel ‘War Horse’ sy’n fy atgoffa o ble daw fy angerdd, fy nghariad a fy ngobeithion am bŵer y Theatr. Mae’r emosiwn, y teimlad a’r atgofion a grëwyd gan y cwmni o fewn y ddwy awr ac ugain munud euraidd yma yn amhrisiadwy. Os am geisio anrheg Nadolig i’w gofio am byth, mynnwch eich tocynnau nawr. Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn Theatr Olivier tan Mawrth 19eg. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatre.org.uk

No comments: