Total Pageviews

Friday, 30 June 2006

'Avenue Q'






Y Cymro - 30/6/06

Wedi tair blynedd lwyddiannus ar Broadway, mae’r ddrama gerdd ddadleuol ‘Avenue Q’ bellach wedi cyrraedd Llundain. Cyfuniad o’r sioeau teledu ‘The Muppets’ a ‘Sesame Street’ ydi’r ffordd gorau i ddisgrifio’r sioe, ond bod haen go drwchus o hiwmor tywyll a ffraethineb yn frith drwyddi.

Cyfansoddwyd y sioe gan Jeff Marx a Robert Lopez - dau oedd wedi gwirioni ar arddull y ddrama gerdd, ac yn awchu am gael cyd-weithio. Roedde nhw am greu drama gerdd fyddai’n apelio at bobol eu hoedran nhw (yn eu tridegau!) gan ddefnyddio themâu cyfoes a dadleuol. Bu’r ddau yn cyd-weithio’n wreiddiol â chrewyr y Muppets, ond doedd cwmni Jim Henson ddim yn awyddus i ddatblygu’r sioe ymhellach. Wedi brwydr hir i godi’r arian, ac wedi pedair blynedd o waith, fe gyrhaeddodd y sioe lwyfan Broadway ym mis Mawrth 2003.

Hanes trigolion sy’n byw ar ‘Avenue Q’ yn Efrog Newydd ydi’r stori - bob un yn wahanol i’w gilydd - rhai yn ‘fwystfilod’ ac eraill yn fodau dynol, yn cyd-fyw yn hapus. Trwy ddefnyddio arddull addysgiadol ‘Sesame Street’, a sawl ffilm fer wedi’i hanimeiddio, cawn ein cyflwyno i nifer o ganeuon doniol ar themâu fel hiliaeth a chariad, bod yn hoyw a thyfu. Meddyliwch am y caneuon yma : ‘Everyone’s A Little Bit Racist’, ‘The Internet Is For Porn’, ‘ I Wish I Could Go Back To College’ a’r anfarwol ‘What Do You Do with a B.A. in English?’!

Allai ddweud â llaw ar fy nghalon mod i heb chwerthin gymaint ers tro! Roedd yna gyffyrddiadau doniol iawn ymhob cân ac mewn sawl darn o ddialog drwy’r cyfan, a nifer o wirioneddau am fywyd yn cael ei ddatgelu! Mae’n amlwg bod Marx a Lopez hefyd yn hen gyfarwydd ag arddull y ddrama gerdd gan fod y gerddoriaeth yn ganiadwy a thros-ben-llestri a’r llwyfannu yn theatrig iawn.

Drwy gast bychan o saith actor, fe’n cyflwynwyd i gymeriadau cofiadwy fel ‘Kate Monster’, ‘Lucy the Slut’, ‘Christmas Eve’ a ‘Princeton’. Pob un a’i broblem, a’r broblem honno yn cael ei rannu efo’u cymdogion ar y stryd, a thrwy hynny yn cael ei ddatrys. Braf hefyd oedd gweld yr actor o Gaerdydd Siôn Lloyd yn portreadu un o’r criw ‘dynol’ sef Brian oedd yn byw efo’i ddyweddi ‘Christmas Eve’ (Ann Harada) oedd hefyd yn y fersiwn wreiddiol o’r sioe ar Broadway. A chyswllt Cymreig annisgwyl oedd gweld bod y set chwaethus wedi’i hadeiladu a’i phaentio gan gwmni o Gaerdydd!

Fydd y sioe ddim yn plesio pawb, ond mae’n werth ei weld - gan fynd â meddwl agored, a’i mwynhau fel comedi a sylwebaeth ffraeth ar sefyllfa gymdeithasol yr unfed ganrif ar hugain! Yng ngeiriau’r cyfansoddwyr : ‘Ryda ni gyd yn wynebu’r un math o frwydrau ac ansicrwydd mewn bywyd, a’n bwriad ni ar ddiwedd y sioe ydi rhoi ‘hyg’ i’n cynulleidfa gan eu sicrhau y bydd popeth yn iawn!’ Pa well reswm felly i fynd i dreulio orig yn crwydro i lawr ‘Avenue Q’, a mwynhau penwythnos yn Llundain ‘run pryd! Os am flas o’r sioe, ymwelwch â www.avenueqthemusical.co.uk

A ninnau ar fin gweld fersiynau newydd o’r sioeau ‘Evita’ a ‘The Sound of Music’ cyn diwedd y flwyddyn, yr wythnos nesa byddai’n bwrw golwg ar fersiwn newydd Bill Kenwright o ddrama gerdd Andrew Lloyd Webber - ‘Whistle Down the Wind’.

No comments: