Total Pageviews

Friday 12 June 2009

'Sister Act'





Y Cymro - 12/06/09

‘Lleian byd, gora’n byd’ - dyna’r si yn y West End dyddia yma! Nid cyfeirio at faint y cynhyrchidau’n unig yw’r bwriad, na chwaith cyn lleied o adnoddau a dillad sy’n ar waith mewn sioeau fel ‘Naked Men Singing’, ond yn hytrach yr ystyr grefyddol. Lleianod yng ngwir ystyr y gair sy’n mynd â hi dyddiau yma, ac wedi ymadawiad y cwfaint cerddorol yn ‘The Sound of Music’, bellach mae’r Palladium yn llawn o wisgoedd du a gwyn, ar gyfer addasiad o ffilm enwog Whoppi Goldberg, ‘Sister Act’.

Peidiwch â digalonni, nid addasiad synthetig arall o ffilm lwyddiannus sydd yma, fel sydd i’w gael yn ‘Dirty Dancing’. Os fuo na ffilm yn barod i’w droi’n ddrama gerdd erioed, yna’r ‘gomedi gerddorol ddiwinyddol’ hon yw hi. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r stori, mae’n syniad syml, ond effeithiol. ‘Deloris Van Cartier’ (Patina Miller) yw’r gantores ifanc drwsiadus, sy’n treulio’r nosweithiau yn canu mewn clybiau nos, gan gymysgu gyda dihirod o bob lliw a llun. Wedi bod yn dyst i lofruddiaeth, a’i chymar ‘Shank’ (Chris Jarman), yr arch-ddihiryn yn gyfrifol am danio’r dryll, mae’n rhaid iddi ffoi. O droi at yr heddlu, mae’n ail-gyfarfod cyfaill o ddyddiau’r ysgol, ‘Eddie’ (Ako Mitchell) sy’n penderfynu mai’r lloches gorau, o dan yr amgylchiadau, yw cwfaint yr ‘Holy Order of the Little Sisters of Our Mother of Perpetual Faith’. Sheila Hancock yw’r ‘Mother Superior’ sy’n gofalu am y chwiorydd, dan arolygaeth ‘Monsignor Howard’ (Ian Lavender).

Does 'na’m dwywaith na set anhygoel Klara Zieglerova yw un o’r elfennau mwyaf llwyddiannus yn y cynhyrchiad yma, gan fod gwylio’r cyfan yn dod at ei gilydd, cystal â choreograffi’r cast. Rhyfeddais at ba mor rhwydd ac effeithiol y cawsom ein tywys o’r clybiau nos a strydoedd tywyll peryglus Philadelphia, Pennsylvania y saithdegau i dawelwch diwinyddol ac ysbrydol yr eglwys a’r cwfaint. Fe symudodd pob rhan o’r set gan droi o’r chwith i’r dde, i fyny ac i lawr a’r cyfan yn creu awyrgylch newydd ar gyfer pob golygfa wahanol.

Felly hefyd gyda gwisgoedd yr arch-gynllunydd setiau Lex Brotherston, sydd i’w ganmol am fedru godro cymaint o gynlluniau, lliwiau a themâu gwahanol i wisgoedd y lleianod, wrth i’r arian a’u gallu cerddorol gynyddu, gan roi inni’r show-stopper anhygoel tua diwedd y sioe,

Un o’r anawsterau mawr o droi’r stori hon yn ddrama gerdd yw’r brif stori. O gyrraedd y Cwfaint, mae ‘Deloris’ sy’n cuddio tu ôl i’r enw ‘Sister Mary Clarence’ yn dychryn o glywed pa mor wael yw canu’r côr. Ei gallu cerddorol yw ei hunig achubiaeth, ac mae’n mynd ati i weddnewid y côr, a chreu sain anhygoel, sy’n cyrraedd clustiau’r Pab erbyn diwedd y sioe! Roeddwn i’n bryderus o weld sut fyddai’r tîm cynhyrchu yn mynd at i greu sain y côr gwreiddiol, o gofio bod angen digon o gorws swynol i gynnal unrhyw ddrama gerdd.

Oherwydd yr elfen storïol yma, rhaid cyfaddef bod o leia’ ugain munud cynta’r sioe braidd yn araf, a digynnwrf, wrth ddibynnu ar unigolion i ganu yn hytrach na’r agorawdau cerddorol mawreddog nodweddiadol sy’n rhoi blas y sioe o’r nodyn cyntaf. A bod yn onest, doedd y côr gwreiddiol yn y cwfaint ddim yn swnio’n rhy ddrwg (fel y gobeithiais!) a’r unig wendid amlwg oedd eu diffyg hyder. Wedi dweud hynny, roedd y gwrthgyferbyniad erbyn diwedd yr Act gyntaf a thrwy weddill yr ail act yn ddigon i chwythu pob diferyn o lwch dramatig o do’r Palladium!

O ran perfformiadau, roeddwn i’n hapus gyda’r newydd-ddyfodiad i’r West End, Patina Miller yn y brif ran, er bod yna dueddiad weithiau i efelychu Whoopi yn y gwreiddiol. Llwyddodd Sheila Hancock i roi ei stamp ei hun ar y ‘Fam’, ac er bod ganddi ambell i linell gwan yma ac acw, roedd ei hurddas, ei phrofiad a’i gallu yn amlwg. Seren arall y sioe heb os yw’r hen wraig ‘Sister Mary Lazarus’ (Julia Sutton) sy’n serennu ynghanol y cast ifanc, ac yn brawf sicr o’r gri bresennol am yr angen i greu rhannau swmpus i actorion benywaidd hŷn!

Mae’n sioe sy’n haeddu cael ei gweld. Allai’m dweud bod alawon Alan Menken mor gofiadwy â’i waddol arferol, na stori Cheri a Bill Steinkellner yn llawn tensiwn a hiwmor, ond mae yma ddigon o liw, llawenydd a lleianod i gadw unrhyw lwyfan yn llawn am flynyddoedd i ddod.

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.sisteractthemusical.com

http://www.youtube.com/watch?v=tTnPt2QuGQ4

No comments: