Total Pageviews

Friday 6 March 2009

'The Taming of the Shrew'



Y Cymro – 6/3/09

Wrth i’r gwanwyn gyrraedd yn swyddogol, ffarwelio wna cwmni’r Royal Shakespeare â’r West End, wedi treulio sawl mis yn Theatr Novello. Wedi mwynhau’r ddau gynhyrchiad blaenorol, dyma fentro’n hyderus i weld cynhyrchiad Conall Morrison o ‘The Taming of the Shrew’, sy’n cloi tymor y cwmni yn y brifddinas.

Unwaith yn rhagor, cafwyd set hynod o chwaethus o waith Francis O’Connor a lwyddodd yn grefftus iawn i blethu gwahanol gyfnodau yn ystod y dair awr o stori, trwy amrywio’r gwisgoedd yn raddol, gan fynd â ni o’r parti ‘stag’ cyfoes ar ddechrau’r ddrama i’r ddrama-gyfnod clasurol, cyn dychwelyd yn ôl i’r ciniawa cyfoes ar y diwedd.

Y meddwyn ‘Christopher Sly’ (Stephen Boxer) yw’r prif gymeriad, sy’n cael ei gamarwain ar gychwyn y ddrama, i gredu ei fod yn fonheddwr, a’i wahodd o wylio cwmni o actorion yn perfformio drama. Buan iawn mae’r Bonheddwr ‘Sly’ yn cael ei gyflwyno i ‘Katherina’ (Michelle Gomez), merch y gŵr cefnog ‘Baptista’ (David Hargreaves). Mae’n amlwg iawn mai ‘Katherina’ yw’r llygoden drwynol sydd angen ei dofi, gyda’i thafod miniog a’i gallu i ddychryn pob dyn yn hytrach na’i ddenu. Gobaith ‘Baptista’ ydi canfod gŵr iddi, a buan iawn mae ‘Sly’ yn ymgymryd â’r dasg o’i dofi.

Trwy amrywio’r cyfnodau o ran gwisg a set, llwyddodd Morrison i greu cynhyrchiad sy’n berthnasol i bob oed. Rhaid cyfaddef bod y ddrama wreiddiol wedi’i threisio yma ac acw, rhywbeth sydd wedi cythruddo rhai beirniaid yma yn Llundain. Yn bersonol, rhaid cyfaddef imi fwynhau’r ‘golygu’ helaeth, gan fod y cyfan yn llifo’n rhwydd, ac yn adlais o operâu sebon ein cyfnod ni mewn mannau.

Roedd cyflwyno’r actorion drwy facio lori enfawr ar y llwyfan, ac agor y drws cefn, gan adael i’r criw adael y lori fel ŵyn i’r lladd-dy, yn effeithiol iawn. Felly hefyd gyda’r diwedd, wrth i’r cyfan gael eu heidio yn ôl i mewn i’r lori, a’u pacio i’r lleoliad nesaf, gan adael y ‘Sly’ truenus yn hanner noeth yng ngolau’r nos.

Heb os, Stephen Boxer, a’i bortread cynnil o’r meddwyn ffwndrus sy’n cynnal y cynhyrchiad, yn enwedig felly yn ei ymddiddan gyda’i wraig annifyr, Michelle Gomez, sy’n hynod o gofiadwy yn ogystal.

Bu cryn ddadlau am ganrifoedd ynglŷn â’r elfen ‘misogynistic’ sy’n perthyn i’r ddrama - yr elfennau hynny sy’n sarhau a chasáu’r ferch. Bydd rhai yn dadlau fod cynnwys y ddrama yn ‘dderbyniol’ yn oes wrywaidd Shakespeare, ac eraill yn anghytuno’n chwyrn. Beth bynnag fo’r farn gyffredinol, yn yr oes wleidyddol gywir yma, mae’r stori wedi ysgogi sawl addasiad llwyddiannus i ffilm a theatr gan gynnwys y ddrama gerdd ‘Kiss Me Kate’.

Bydd ‘The Taming of the Shrew’ i’w weld yn y Novello tan Nos Sadwrn, Mawrth 7fed. Mwy o fanylion am waith yr RSC drwy ymweld â www.rsc.org.uk

Newyddion da i’r Cymry, gan fod y sioe gerdd ddadleuol ‘Spring Awakening’ yn camu i’r gofod gwag yn y Novello o Fawrth 21ain tan 31ain o Hydref. Braf gweld bod Iwan Rheon ac Aneurin Barnard yn dal i ennyn clod y beirniaid.
Mynnwch eich tocynnau nawr!

No comments: