Y Cymro – 20/3/09
Cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘ddrama’ Philip Ralph, ‘Deep Cut’ sydd wedi rhoi’r chwilen yn fy mhen yr wythnos hon. Roeddwn i’n falch iawn o fedru derbyn y gwahoddiad i weld y cwmni yn perfformio yma yn y Tricycle yn Llundain, wedi’r llwyddiant yn yr Ŵyl yng Nghaeredin fis Awst diwethaf. Braf iawn hefyd oedd gweld rhai o feirniaid mwya’ craff Llundain yn ein plith megis Michael Billington o’r Guardian a Nicholas de Jongh o’r Evening Standard.
Ond y ‘ddrama’ neu’r cyflwyniad efallai, barodd i’r chwilen nythu yn fy mhen, a honno’n chwilen go fawr, o fynd i gwestiynu’n ‘mhellach. Beth yw diben drama? Ai i addysgu ynteu i adlonni? Cwestiwn Oesol efallai, ac un rhy fawr i fachgen o Ddyffryn Conwy ddechrau mela â hi ar fore braf ym mis Mawrth! Ond cwestiwn teg yn y cyd-destun hwn.
Does 'na’m dwywaith fod yr angen am fedru yngan yr hyn sy’n cael ei ddatgan yn y cyflwyniad yma. Mae rhwystredigaeth rhieni Cheryl i’w glywed yn amlwg, ac annhegwch y llywodraeth a’r Sefydliad milwrol i ddatgan y gwirionedd yn sarhad pur ar fywydau’r pedwar ifanc a fu farw yn y gwersyll rhwng 1995 a 2002.
Yn sicr, mae’r gwaith yn addysgu, gan obeithio y bydd o’n llwyddo i agor llygaid y deillion doeth sydd wedi bod yn delio gyda’r achosion cyhyd. Ond beth am yr adlonni? Cryfder y gwaith ydi’r arddull llys-barn slic, sy’n plymio’r drwy’r pentyrrau o bapurau a thystiolaethau'r swyddogion a’r cyfeillion. Roedd portread Rhian Morgan o’r fam drallodus yn hynod o effeithiol ac emosiynnol, a Rhian yn amlwg, unwaith yn rhagor, wedi mynd ymhell o dan groen y cymeriad, gan roi inni bortread cofiadwy am sawl rheswm. Felly hefyd gyda Ciaran McIntyre fel y tad rhwystredig, sy’n cynnal rhan helaeth o’r stori, drwy ei atgofion am gannwyll ei lygad. Clod hefyd i Rhian Blythe, a enillodd Wobr actores orau’r ŵyl ymylol yng Nghaeredin am ei phortread o’r ‘Jonesy’ lliwgar, ac er imi fwynhau ei phortread yn fawr, mae’n rhaid imi fod yn onest a datgan y byddwn i wedi dyfarnu’r Wobr i Rhian Morgan heb os.
Clod felly i’r Cymry unwaith yn rhagor, a hynny gan rhai o feirniaid mwya’ craff Llundain yn ogystal. Clod i’r Sherman am fynd i’r afael â phwnc mor gyfoes a pherthnasol i’n cyfnod ni, a stori oedd, ac sydd angen ei dweud. Gobeithio bod Bwrdd ein hannwyl Theatr Genedlaethol yn gwylio gwaddol y Sherman, sy’n amlwg yn arwain y ffordd ar hyn o bryd.
Mae’r briw dwfn yn parhau i beri poen meddwl i’r teuluoedd, a mwya’n byd meda’r weld yr annhegwch, gorau’n byd. Mae ‘Deep Cut’ i’w weld yn y Tricycle tan Ebrill 4ydd. Mwy o fanylion ar www.tricycle.co.uk
No comments:
Post a Comment