Total Pageviews

Friday 27 March 2009

'England People Very Nice'





Y Cymro – 27/3/09

Parhau i boenydio’r meddwl wna’r chwilen ers wythnos diwethaf. Fe gofiwch imi gwestiynu beth yw diben drama, yn sgil gweld cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘Deep Cut’ yma yn Llundain - ai i addysgu neu adlonni?. Yr wythnos hon, drama Richard Bean yn y Theatr Genedlaethol sy’n mynd â hi, a hynny o dan y teitl crafog ‘England People Very Nice’.

O dan gyfarwyddyd Arweinydd Artistig y Theatr, Nicholas Hytner, cafodd y cynhyrchiad yma ymateb cymysg gan y beirniaid. Rhai yn dyfarnu un neu ddwy seren, ac eraill pump. Yr hyn sy’n fwyaf dadleuol am y gwaith ydi’r themâu sy’n cael eu trafod - effaith y mewnlifiad ar Brydain, o’r ail-ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Thema eironig o dŷ’r Cymry, a sawl cenedl arall! Canolbwyntir yn benodol ar bedwar cyfnod gan gychwyn gyda’r Huguenots Ffrengig, wedyn y Gwyddelod, yr Iddewon ac yna’r Bangladeshis.

Drwy ddefnyddio arddull Monty Python o blethu drama gydag elfen gref o animeiddio, mae’r ensemble cryf o actorion yn plymio drwy hanes Bethnal Green, y gornel ddwyreiniol unigryw o’r ddinas liwgar hon. Drama o fewn drama sydd yma mewn gwirionedd, gan fod y cyfan yn cychwyn ac yn diweddu o fewn Canolfan i’r Mewnfudwyr, wrth i’r criw cymysg baratoi i lwyfannu’r ddrama. Er bod gan y rhan fwyaf ohonynt bethau llawer mwy pwysig i boeni amdano, gan gynnwys eu rhyddid, perswâd y swyddogion i barhau â’r ddrama, yw’r sbardun sy’n cychwyn y wers hanes.

Rhaid canmol Set a chynllun effeithiol Mark Thompson, wrth iddo gyflwyno, ar yr olwg gyntaf, mur moel, gydag ambell i ddrws a ffenest. Ond mur, drwy gymorth yr animeiddio penigamp, sy’n cyfleu gwahanol adeiladau drwy bob cyfnod o hanes. Er enghraifft, wrth olrhain hanes y Bangladeshis yn yr Ail Ran, fe dry’r mur moel yn ystafell fyw mewn tŷ teras, gyda’i bapur wal melfed coch trwchus, sy’n cyfleu’n berffaith o ble tarddodd yr holl fwytai Indian rhwng y 1950au a’r 1970au. Dyma un o olygfeydd mwyaf doniol y gwaith, wrth ddisgrifio’n berffaith sut y daeth yr anfawrwol ‘Chicken Tikka Massala’ yn bryd mwyaf poblogaidd y wlad!

Bydd rhai (gan gynnwys rhai beirniaid) yn hynod o feirniadol am y ddrama, am ei bod hi’n gneud sbort am ben y trueiniaid yma ar hyd y canrifoedd. Yn bersonol, imi, roedd y jôc ar y Prydeinwyr, a’u hagwedd naïf, chwerthinllyd tuag at y dieithriaid. Cafodd hynny ei gyfleu’n berffaith, dro ar ôl tro, wrth inni ddychwelyd i’r un dafarn, gyda’r un dafarnwraig gegog, sy’n rhaffu rhegfeydd rhagfarnllyd yn erbyn pob ton o ddieithriaid sy’n meiddio camu i’w chastell o gwrw! Diffyg gallu’r Prydeinwyr i ddeall a cheisio dygymod gyda’r ymwelwyr yw’r neges, er gwaethaf colli eu cartrefi a’u swyddi, yn sgil y twf o fewnfudwyr.

Unwaith eto, gyda’r cynhyrchiad yma, mae’r Theatr Genedlaethol yn ymateb yn heriol i bwnc sy’n cwbl berthnasol a chyfoes. Mae dewrder yr Arweinydd Artistig i fynd i’r afael â’r themâu yma, yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol i’w ganmol, a’r angen i addysgu yn amlwg. Ond ydi’r cyfan yn adloniant? Drwy ddefnyddio’r arddull agit prop, Monty Pythonaidd, mae ymdrech mawr ar waith i droi’r cyfan yn gartŵn, yn sicr er mwyn adlonni, ond hawdd fyddai cam-ddallt hynny fel sarhad tuag at y cenhedloedd gwahanol. Chwaeth bersonol fydd yr allwedd i benderfynu os mai llwyddiant neu lanast yw’r hyn sydd ar y llwyfan.

Mae ‘England People Very Nice’ i’w weld yn Theatr Olivier tan y 30ain o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.nationaltheatre.org.uk

No comments: