Total Pageviews

Friday 5 September 2008

'A Swell Party' ac Haf 2008



Y Cymro – 5/9/08

Wrth i’r ysgolion baratoi i agor eu drysau am dymor newydd, allai’m peidio rhyfeddu at ba mor sydyn y gwibiodd yr wythnos diwethaf heibio, gan gipio’r tywydd braf yn ei sgil. Wedi seibiant o’r adolygu am rai wythnosau, mae’n braf bod yn ôl i fwrw golwg dros gynnyrch yr Haf.

Yn anffodus, oherwydd prysurdeb y gwaith yn Llundain a thu hwnt, methais ymweld â’r Eisteddfod na’r Ŵyl yng Nghaeredin eleni. Clywais ganmoliaeth am gynhyrchiad diweddar ein Theatr Genedlaethol, sef gwaith Aled Jones Williams, ‘Iesu’, sy’n galonogol iawn, a gobeithio y medrai weld y cynhyrchiad sydd ar daith o wythnos nesaf ymlaen gan gychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 11-13 Medi, 2008, cyn mynd ymlaen i Theatr Mwldan, Aberteifi, Theatr Lyric, Caerfyrddin, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Clywais ganmoliaeth hefyd i gynhyrchiad y cwmni newydd anedig ‘Torri Gair’ efo’u cynhyrchiad o gyfieithiad y diweddar annwyl Wil Sam o ddrama’r Gwyddel, Connor McPherson ‘Yr Argae’. Does 'na ddim sôn am daith ar hyn o bryd, felly, croesi bysedd y bydd!

O’r Eisteddfod i’r Ŵyl yng Nghaeredin, a llwyddiant y Cymry unwaith yn rhagor. Wedi bod yn deud y drefn dros y ddwy flynedd ddiwethaf am ddiffyg presenoldeb y Cymry yn Yr Alban, wele Gwmni Sherman Cymru yn hawlio’u lle ac yn cipio’r gwobrau.

Llongyfarchiadau mawr i Rhian Blythe, merch yr actores Iola Gregory gyda llaw, am gipio gwobr papur newydd The Stage i actores orau’r Ŵyl Ymylol eleni. Canmoliaeth uchel hefyd i Rhian Morgan am gael ei henwebu am yr un Wobr. Derbyniodd cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘Deep Cut’ gryn sylw, ac mae’n olrhain hanes trasig Cheryl James o Langollen, un o’r pedwar milwr ifanc a fu farw yn dilyn cael eu saethu yng ngwersyll Deepcut rhwng 1995 a 2002. Bydd y ddrama i’w weld yng Nghlwyd Theatr Cymru rhwng y 9fed a’r 13eg o Fedi, ac yna yng Nghaerdydd rhwng yr 16eg a’r 27ain o Fedi.

Cymro arall a fethodd â bod yn yr Eisteddfod eleni, a hynny am ei fod ar lwyfan Neuadd Cadogan yn Llundain, oedd yr amryddawn Daniel Evans. Falle i chi gofio fi’n sôn am y cyngerdd i ddathlu bywyd a gwaith y cyfansoddwr Cole Porter sef ‘A Swell Party’ gafodd ei lwyfannu ddechrau mis Awst. Ymunodd enwau cyfarwydd eraill o’r West End yn y parti fel Maria Friedman, Mary Carewe, Graham Bickley a Simon Green, dan gyfarwyddyd David Firman a Jason Carr. O’r eiliad cyntaf imi gamu i mewn i’r Neuadd, roedd y parti yn ei anterth, a’r Band yn prysur ddiddanu’r gwesteion yn y neuadd ymgynnull. Eistedd wedyn yn fy sedd o fewn y Neuadd ogoneddus hon, a chael fy swyno wrth i David Firman a Jason Carr ddechrau cyfeilio ar y ddau biano, gan wahodd alawon cofiadwy Porter i’r parti fesul un. Heb os nag oni bai, sêr y noson imi, a gweddill y gynulleidfa oedd Daniel a Maria, y ddau wedi cyd-weithio gyda llaw ar gynhyrchiad Bryn Terfel o ‘Sweeney Todd’ flwyddyn yn ôl yn y Festival Hall. Godrodd Daniel bob owns o emosiwn allan o bob nodyn, ac roedd ei ddisgyblaeth gerddorol, ei ddealltwriaeth o neges pob cân a’i bresenoldeb hudolus ar lwyfan yn fythgofiadwy. Prawf pendant fod y gŵr ifanc yma nid yn unig yn actor penigamp, ond yn gantor o’r safon uchaf hefyd.

Clod i’r Cymry o bob cwr o’r wlad felly, er gwaetha’r tywydd, yr haf hwn.

No comments: