Total Pageviews

Friday 12 September 2008

'Waves'





Y Cymro 12/09/08

Allwch chi fyth â beirniadu’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain o beidio â bod yn ddadleuol nac amrywiol. O’r clasurol i’r arbrofol, mae 'na wastad rywbeth at ddant pawb i’w gael ar lannau’r Tafwys. Ac o sôn am ddŵr, priodol iawn yw cyfeirio at un o’u cynyrchiadau ‘theatrig’ diweddaraf sef addasiad y gyfarwyddwraig arbrofol Katie Mitchell o nofel gymhleth Virginia Woolf - ‘Waves’.

Fe sylwch fy mod i wedi bod yn ofalus yn fy newis o eiriau wrth ddisgrifio’r cynhyrchiad yma, oherwydd beth yn union sy’n cael ei lwyfannu yw un o’r pethau mwyaf dadleuol am y gwaith. Ar y wyneb, drama radio sydd yma, neu yn hytrach ffilm, gyda thrac sain gyflawn gyfoethog. Ac eto, gan fod y cyfan yn cael ei greu ar y llwyfan o’ch blaen, ai cynhyrchiad theatrig sydd yma mewn gwirionedd?

Wrth gamu i mewn i theatr y Cottesloe, un o theatrau lleia’r Theatr Genedlaethol, yr hyn welwch chi o’ch blaen ydi stiwdio drama radio. Mae yma silffoedd o boptu’r llwyfan yn llawn o geriach i greu synau, o sgidiau, i ddefnydd, o arfau i offerynnau. Ar y llawr, mae bocsys amrywiol o dywod, o wair, o gerrig ac o faw. Mae yma ddrysau, a byrddau a chadeiriau a meicroffonau a lampau rif y gwlith, ac yn goron i’r cyfan sgrin enfawr sy’n hoelio’r sylw, ac yn atgoffa rhywun o fod mewn sinema.

Buan iawn y cawn ein cyflwyno i’r saith cymeriad sy’n ganolbwynt i’r stori sef Bernard, Susan, Rhoda, Neville, Jinny, Louis a Percival. Cael ein cyflwyno drwy’r lleisiau yn unig wnawn ni i gychwyn, wrth i’r actorion ddawnsio o gwmpas y meicroffonau gan daflu ambell i linell yma ac acw. Yn raddol, ychwanegir sbectol, neu lawes o grys, neu het, sydd eto’n adeiladu’r cymeriad a’r stori wrth fynd yn ei flaen. Yna daw’r camerâu fidio i’r llwyfan, ac fe greiir cameos bychain sy’n cael eu taflunio ar y sgrin enfawr i gyd fynd â’r geiriau, wrth i’r stori ruthro ymlaen o 1893 hyd 1933.

Diben y cyfan yw cyfleu hanes y chwe phrif gymeriad, gyda Percival y seithfed yn gorgyffwrdd stori pawb. O gyfnod yr ysgol i’r coleg i fywyd cyhoeddus, dilynwn eu hynt a’u helynt wrth iddynt gwrdd am bryd o fwyd neu yn y parc, gan weld pa mor gymhleth â thywyll yw bywyd bob un wrth fynd yn hŷn. A deud y gwir, allwch chi’m peidio â theimlo’n ddigalon wrth wylio’r cyfan, yn enwedig tua’r diwedd.

Er bod yr wyth actor yn gneud eu gwaith yn wyrthiol, nid yn unig yn traethu talpiau helaeth o’r nofel, ond hefyd yn creu’r synau, yn gweithio’r camerâu ac yn creu’r darluniau drwy ddefnyddio drychau, ffenestri, dail, dŵr a’r lampau, mae’r cwestiwn sylfaenol yn aros. Beth sy’ ma mewn gwirionedd? Ydi’r holl greu delweddau a thrac sain yn gynhyrchiad llwyfan? Ydi gwylio actorion yn darllen eu llinellau i feicroffon, neu’n efelychu synnau amrywiol yn werth £30 o docyn? Yn bersonol, dwi ddim mor siŵr.

Efallai y dylai’r gyfarwyddwraig newid ei chyfrwng. Yn sicr mae ganddi’r llygad i greu’r llun, y glust i glywed y gair, ond bosib bod hualau’r llwyfan bellach yn faen tramgwydd iddi!

Mae’r cynhyrchiad ar daith ar hyn o bryd gan ymweld â Leeds, Salford, Caerfaddon, Dulyn, Luxemburg ac Efrog Newydd. Mwy o fanylion am www.nationaltheatre.org.uk

No comments: