Total Pageviews

Friday 14 December 2007

'The Life and Adventures of Nicholas Nickleby'


Y Cymro – 14/12/07

Mae’r ‘dolig wedi cyrraedd unwaith eto, a phawb fel ffyliaid yn anfon cardiau a chwilota am anrhegion i osod o dan y goeden. Fel y gallwch fentro, mae’r theatrau hefyd yn chwilota am sioeau fydd yn gwerthu’n dda dros gyfnod yr Ŵyl. O’r pantomeimiau traddodiadol i’r addasiadau mwy arbrofol o’r chwedlau adnabyddus. Dros yr wythnosau nesaf, mi fyddai’n bwrw golwg ar rai o’r sioeau fydd yn ceisio denu cynulleidfa; rhai ohonynt fel panto Stephen Fry yn yr Old Vic ac addasiad Anthony Nielson o un o straeon Dickens, ‘God in Ruins’ yn Theatr y Soho, wedi’i hanelu at y gynulleidfa hŷn. Ond mae’r cynhyrchiad fues i’n ei weld yr wythnos hon wedi’i anelu at y teulu cyfan; eto o waith Charles Dickens, ac yn chwe awr a hanner o hyd!

Sôn ydw’i am y ddwy ran o gynhyrchiad Gŵyl Theatr Chichester o addasiad David Edgar o nofel Dickens, ‘The Life and Adventures of Nicholas Nickleby’ yn Theatr Gielgud ar Shaftesbury Avenue. Pan lwyfannwyd yr addasiad yma’n wreiddiol dan gyfarwyddyd Trevor Nunn a chwmni’r Royal Shakespeare nôl ar ddechrau’r wythdegau, roedd y sioe yn para dros ddeg awr gyda sawl egwyl a thoriad am fwyd! Bryd hynny, y Cymro o Aberystwyth Roger Rees oedd yn portreadu’r prif gymeriad, ac fe enillodd wobr Olivier a ‘Tony’ am ei waith. Seren y gyfres deledu ‘Shameless’ - David Threlfall oedd y llanc ifanc ‘Smike’. Derbyniodd yr addasiad groeso mawr ar Broadway cyn recordio’r cynhyrchiad ar gyfer y ‘Channel 4’ newydd-annedig - y ddrama gyntaf i’w dangos arni.

Dyma drydedd nofel Charles Dickens a gyhoeddwyd yn fisol rhwng 1838 a 1839. Mae’r nofel swmpus hon yn adrodd hanes ‘Nicholas Nickleby’ (Daniel Weyman), gŵr ifanc sy’n gorfod gofalu am ei fam (Abigail McKern) a’i chwaer ‘Kate’ (Hannah Yelland) wedi marwolaeth y tad. Ond fel mewn pob stori dda, mae’n rhaid cael y cymeriad drwg ac yn yr achos yma, yr ‘Ewyrth Ralph’ (David Yelland) yw’r gwrthwynebydd sy’n credu na ddaw dim llwyddiant o gwbl o ‘yrfa Nicholas. Wedi treulio cyfnod yn gweithio yn ysgol erchyll a chreulon ‘Mr Wackford Squeers’ (Pip Donaghy) yn swydd Efrog, daw Nicholas wyneb yn wyneb â’r cymeriad annwyl ond truenus ‘Smike’ (David Dawson). Mae cyfeillgarwch yn datblygu rhwng y ddau, yn enwedig felly wedi iddynt ffoi yn ôl i Lundain ac ymuno â chwmni drama teithiol ‘Mr Lenville’ (Peter Moreton) a’i wraig (Roses Urquhart). Oherwydd sefyllfa druenus y teulu, mae’r ewythr cas yn canfod gwaith i ‘Kate’ yn siop ddillad ‘Madame Mantalini’ (Jane Bertish) ond, buan iawn y mae bywyd y ddinas yn effeithio ar ‘Kate’, ac mae hi’n dyheu am ei brawd a’i theulu. Wnai ddim sôn rhagor am y stori, rhag sbwylio’r hud a’r ysfa i ganfod beth yw tranc y teulu weddill y sioe, ond mae’r tro yn y gynffon tua’r diwedd yn atgoffa rhywun o nofel ‘Enoc Huws’ gan Daniel Owen, a Chapten Trefor o gymeriad yr Ewythr yn derbyn ei haeddiant.

Yng ngwir deimlad y Nadolig, dyma gynhyrchiad lliwgar, blasus a chyfoethog sy’n peri i’r oriau wibio heibio, gan wahodd y gynulleidfa i fod eisiau canfod y diwedd. O set gelfydd Simon Higlett i gyfarwyddo Jonathan Church a Philip Franks, mae’r cyfan mor flasus â’r pwdin neu’r peis blynyddol, a gwaith Dickens yn rhoi iâs y dolig inni, a gwers fawr am ddaioni ac i beidio anghofio ein gwerthoedd.

Rhaid imi ganmol y cast i gyd am eu gwaith caled yn y ddwy ran, a braf oedd gweld y Cymro Wayne Cater (Ronnie Steadman yn ‘Pobol y Cwm’) yn portreadu sawl cymeriad gwahanol, ynghyd â’r gweddill o’r cast o 27 sy’n portreadu dros 100 o gymeriadau. Seren y sioe i mi oedd yr actor ifanc David Dawson a’i bortread hynod a sensitif a bythgofiadwy o’r cymeriad eiddil ‘Spike’ – cymeriad sy’n ennyn eich cydymdeimlad o’r cychwyn ac un o’r perfformiadau mwyaf effeithiol imi’i weld gan actor mor ifanc ar lwyfan ers tro. Gwych iawn yn wir.

Os am wledd theatrig i gyd fynd â’r twrci, neu’r trip siopa blynyddol i Harrods, mynnwch eich tocynnau nawr. Mae manylion am berfformiadau’r ddwy ran ar y wefan www.gielgud-theatre.com neu drwy ffonio 0870 950 0915. Mae’r cynhyrchiad i’w weld tan y 27ain o Ionawr.

No comments: