Total Pageviews

Friday 7 December 2007

'Dirty Dancing'


Y Cymro – 07/12/07

Roeddwn i wedi clywed llawer o sôn am y sioe ‘Dirty Dancing’ ers tro, ac wedi dyheu am ei gweld. Mae’r deunydd marchnata yn cyhoeddi’n dalog bod tocynnau i weld y sioe yn brin - ‘the hottest ticket in town’. Ar ben hynny, dwi’n cofio clywed dwy ffrind yn trafod y sioe mewn caffi yng Nghaernarfon - un wedi cynilo’i phres gydol y flwyddyn er mwyn camu ar fws ‘Seren Arian’ a gwibio tua Llundain. Roedd hi wedi gwirioni, ac eisoes yn cynilo ar gyfer ‘mynd eto flwyddyn nesa’’. Beth felly oedd mor ‘wyndyrffwl’ a ‘grêt’ am y sioe?

Does na’m dwywaith mai llwyddiant y ffilm o 1987 sydd bennaf gyfrifol am fodolaeth y ‘ddrama gerdd’ hon, gyda Patrick Swayze yn gwireddu breuddwyd pob merch am flynyddoedd lawer! Fe gofiwch yr hanes dwi’n siŵr. Yn Haf y flwyddyn 1963, mae’r ferch ddwy-ar-bymtheg ‘Frances ‘Baby’ Houseman’ yn mynd i wersyll gwyliau dychmygol ‘Kellerman’ tu allan i Efrog Newydd, efo’i chwaer a’i rhieni. Yno, mae’n cwrdd â’r hyfforddwr dawns ‘Johnny Castle’ sy’n trawsnewid ei byd ac yn cipio’i chalon. Mae’r ffilm yn olrhain y foment mae’r ferch yn ei harddegau yn croesi’r ffin o fod yn blentyn i fod yn ddynes - yn gorfforol ac yn emosiynol.

Tipyn o ddisgwyliadau felly wrth gamu mewn i Theatr Aldwych ar un o’r nosweithiau gwlypa’ ers imi fod yn Llundain! Fe sylwch hefyd fy mod i’n defnyddio dyfynodau wrth alw’r sioe yn ‘ddrama gerdd’; dyna roeddwn i’n ei ddisgwyl. Ond y fath siom. Nid ‘drama gerdd’ sydd ‘ma mewn gwirionedd, ond drama gyda cherddoriaeth. Er bod y rhaglen chwaethus yn enwi 51 o ganeuon, mae bron y cyfan ohonynt yn recordiau o’r cyfnod, gydag eithriadau prin yn cael eu canu’n fyw tua diwedd y sioe. I fod yn hollol blwmp ac yn blaen, dathliad o’r ffilm ydi’r sioe. Hyd y gwela’ i, y cwbl sydd yma ydi trawsgrifiad o’r ffilm; geiriau a golygfeydd dethol o stori enwog Elenanor Bergstein wedi’i glynu at ei gilydd efo caneuon o’r cyfnod, y dillad a’r setiau wedi’u copïo o’r ffilm, a lot fawr o ddawnsio. Tydi safon yr actio ddim digon da i fod yn ddrama, bron ddim canu’n fyw i fod yn ‘fiwsical’ a gormod o eiriau i fod yn fallet neu ddawns!

Rhaid canmol gallu (ac edrychiad) y dawnsiwr ballet o Awstralia Josef Brown sy’n portreadu’r hyfforddwr dawns ‘Johnny Clark’, ac fe gafodd dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa - yn fwyafrif o ferched. Felly hefyd gyda phortread Sarah Manton fel y ferch ifanc ‘Baby’ sy’n anghredadwy o debyg i Jennifer Grey yn y ffilm wreiddiol. Roedd hi’n braf iawn hefyd gweld y Gymraes Rebecca Trehearn o’r Rhyl yn rhan o’r ‘ensemble’ a hi, ynghyd â Chris Holland gafodd y fraint o ganu’r ddeuawd enwog ‘I’ve had the time of my life’ ar ddiwedd y sioe - un o’r ychydig uchafbwyntiau yn y sioe i mi. Wedi dweud hynny, dyma’r unig gân o’r cwbl lot dylai fod ar dâp, gan mai cefndir i’r ddawns enwog sy’n gorffen y sioe ydi hi, ac nid cân sy’n mynegi teimladau! Os ddylai unrhyw un ei chanu hi, y ddau brif gymeriad ddylai hynny fod.

Dwi’n siŵr y bydd ffans y ffilm yn anghydweld â mi; does na’m dwywaith fod y sioe - sy’n dathlu ei phen-blwydd cyntaf eleni, ugain mlynedd ers agor y ffilm wreiddiol, yn llwyddiant, gyda bwsiau o ferched canol oed yn heidio i’r Strand o bob rhan o’r wlad. Rhaid croesawu hynny mae’n debyg, fel sioeau clybiau Theatr Bara Caws. Mae’n sicr yn rhoi blas o hud y theatr, ac yn siŵr o fod yn gofiadwy am byth i’r rhan helaeth ohonynt. Ond, mi fasa’r profiad wedi medru bod llawer mwy cofiadwy gyda ychydig mwy o ddychymyg ac amser; o fod wedi cyfansoddi caneuon gwreiddiol i gyd fynd efo’r emosiwn a’r neges yn y golygfeydd, o fod wedi caniatáu i’r actorion ganu - yn enwedig y ddau gariad, byddai’r ‘ddrama gerdd’ hon wedi medru cael ei chodi mor uchel â ‘Baby’ ar ddiwedd y sioe!

Mae ‘Dirty Dancing’ i’w weld yn Theatr Aldwych, Llundain. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.dirtydancingonstage.com

No comments: