Total Pageviews

Friday 19 October 2007

'Shadowlands'

Y Cymro : 19/10/07

Gyda dros 80% o theatrau’r West End yn cynhyrchu dramâu cerdd ar hyn o bryd, caiff unrhyw gynhyrchiad o ddrama ‘draddodiadol’ ei groesawu’n fawr. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r rhan fwyaf o’r dramâu yn addasiadau o ffilmiau llwyddiannus; dyna chi ffilm enwog Pedro Almodóvar ‘All About My Mother’ sy’n yr Old Vic ar hyn o bryd neu ‘Swimming with Sharks’ efo Christian Slater sy’n Theatr y Vaudeville, a’r diweddara i agor yn Theatr Wyndham’s, ‘Shadowlands’.

Hanes carwriaeth yr awdur toreithiog ‘C.S.Lewis’ (a greodd y nofelau enwog am Narnia) gydag un o’i ffans mwya o’r Unol Daleithiau, sef y fam ifanc ‘Joy Gresham’, yw canolbwynt ‘Shadowlands’. Wrth ddarlithio i’r gynulleidfa am gymhlethdodau Cristnogaeth ar gychwyn y ddrama, mae’n amlwg o’r cychwyn fod gan ‘C.S.Lewis’ (Charles Dance) broblem fawr efo’i gred. ‘Os oes yna Dduw, pam fod o’n caniatáu i bobol ddioddef cymaint?’ - dyna brif fyrdwn ei neges, a buan iawn y daw hi’n amlwg yn ei stori o ble daw'r fath angst.

Wedi cyfnod o lythyru, daw ‘Joy Gresham’ (Jannie Dee) ynghyd â’i mab ifanc ‘Douglas’ (Christian Lees) i ymweld â ‘Lewis’ yn Rhydychen, a thry’r cyfeillgarwch yn rhywbeth llawer dyfnach. Ond tydi pawb ddim mor groesawgar o’r wraig gegog a hyderus hon, gan gynnwys brawd ‘Lewis’ sy’n cyd-letya ag o ‘Major W.H.Lewis’ (Richard Durden) ac un o gyd-weithwyr ‘Lewis’ yn y coleg ‘Yr Athro Christopher Riley’ (John Standing). Ar ddiwedd yr Act gynta, wedi i ‘Gresham’ ysgaru oddi wrth ei gŵr a symud i Loegr i fyw, mae’n darganfod ei bod hi’n dioddef o ganser. Dyma pryd y try’r cyfeillgarwch a’r eilun addoliad yn garwriaeth danbaid, ac sy’n peri’r fath newid yng ngeiriau ‘Lewis’ yn ei ddarlith ar ddiwedd y ddrama.

Fel drama deledu y daeth ‘Shadowlands’ i fod, a hynny ym 1985 gan yr awdur William Nicholson, gyda Joss Ackland a Claire Bloom yn portreadu’r ddau brif gymeriad. Cafodd ei addasu wedi hynny yn ddrama lwyfan gan agor yn Theatr y Queen’s ym 1989 gyda Nigel Hawthorne a Jane Lapotaire. Ond fel ffilm y daeth y stori fwya enwog, a hynny drwy bortread Anthony Hopkins a Debra Winger o’r ddau gariad yn y ffilm a gyfarwyddwyd gan Richard Attenborough ym 1993.

Dyma ail-lwyfaniad sy’n cwbl deilwng o lwyddiant y gwreiddiol. Mewn portread sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘perfformiad gorau o’i yrfa’ mae Charles Dance yn llwyr argyhoeddi’r gynulleidfa o’i ymddangosiad cyntaf, hyd at ei eiriau olaf. Ymysg rhinweddau bywyd hen lanc, mae yma hefyd sensitifrwydd hyfryd yn ei agwedd hamddenol ac eto’n gariadus tuag at y fam ifanc ddaw i drawsnewid ei fywyd am byth. Felly hefyd ym mherfformiad Jannie Dee, a’i hacen Americanaidd gredadwy, a’i gallu i doddi blynyddoedd o unigrwydd creadigol yr awdur ddarlithydd yma. Pan ddaw’r ddau at ei gilydd, yn enwedig yn sgil y salwch, mae’r canlyniad yn wyrthiol a hynod o emosiynol, yn enwedig o wybod fod y fam ifanc yn colli’r frwydr, ac yn marw’n fuan wedi hynny.

Clod mawr eto i gyfarwyddo syml ond hynod o effeithiol Michael Barker-Caven sy’n creu darluniau hyfryd a thrawiadol drwy ddefnyddio set greadigol Matthew Wright . Set sydd wedi’i greu yn gyfan gwbl trwy ddefnyddio silffoedd o lyfrau sy’n esgyn o bryd i’w gilydd i ddadlennu ffenestri neu olygfeydd sy’n gosod naws i’r olygfa sy’n digwydd ar y llwyfan. Roedd y cyd-weithio yma ar ei orau yn yr olygfa ble roedd ‘Douglas’ - mab ifanc ‘Gresham’ yn cael ei wahodd i mewn i’r cwpwrdd dillad hudolus, fel y plant yn nofelau enwog C.S.Lewis - ‘The Chronicles of Narnia’. Felly hefyd yn ystod yr olygfa drasig yn angladd y fam. Golygfeydd mor syml sy’n mynnu aros yn y cof, fel sy’n wir hefyd o’r gerddoriaeth sy’n cael ei ddefnyddio i liwio’r stori.

Mae ‘Shadowlands’ i’w weld yn Theatr Wyndham’s tan Ragfyr 15fed. Am fwy o fanylion, ymwelwch â www.shadowlandstheplay.com

No comments: