Total Pageviews

Friday 26 October 2007

'All About My Mother'




Y Cymro - 26/10/07

Parhau â’r thema o addasu ffilmiau ar gyfer y llwyfan wnâi'r wythnos hon, a hynny drwy ymweld â’r Old Vic er mwyn gweld cynhyrchiad hynod o sensitif o’r ddrama ‘All About My Mother’ sef addasiad o ffilm enwog Pedro Almodóvar.

Cafodd Almodóvar ei eni yn Sbaen ym 1949, a daeth i amlygrwydd byd-enwog yn sgil ei waith fel cyfarwyddwr ffilmiau, awdur a chynhyrchydd. Mae ei waith yn nodedig am eu straeon cymhleth, ei hiwmor amharchus, y lliwiau llachar a’i wedd chwaethus, gan ddelio’n gyson efo’r un themâu sef serch, teulu a hunaniaeth. Mae’r cyfan uchod i’w weld yn amlwg yn y ffilm ‘All About My Mother’ (Todo Sobre mi Madre) sy’n adrodd hanes mam ifanc sy’n galaru o golli ei mab, ac o ganlyniad i ddarllen ei gofnod olaf yn ei ddyddiadur, yn mynd i chwilio am ei dad yn Barcelona. Yn ystod ei thaith, fe ddaw hi wyneb yn wyneb â sawl cymeriad diddorol fel y trawswisgiwr o butain, lleian feichiog ac actores lesbiaidd - cymeriadau sydd i gyd yn ei chynorthwyo mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Enillodd y ffilm fwy o Wobrau ac Anrhydedd nag unrhyw ffilm Sbaenaidd arall, gwobrau sy’n cynnwys Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor, Golden Globe yn yr un categori, y cyfarwyddwr gorau yn Cannes a sawl gwobr nodedig arall.

A minnau heb weld y ffilm, ‘roedd yn bwysig imi weld os oedd addasiad Samuel Adamson yn llwyddo fel drama lwyfan. Sut oedd mynd ati i gwmpasu’r fath gawdel o gymeriadau, emosiwn a delweddau ar lwyfan yr Old Vic?

Ar gychwyn y ddrama, fe’n cyflwynir i’r llanc ifanc ‘Esteban’ (Colin Morgan) sy’n darllen o’i ddyddiadur a’i fam ‘Manuela‘ (Lesley Manville) - nyrs, sy’n cymryd rhan mewn gweithdy meddygol yn Madrid ynglŷn â sut i geisio caniatâd y rhieni i gael trawsblannu organau o gorff eu plentyn, er mwyn achub eraill. Yr hyn sy’n amlwg o’r olygfa agoriadol, ydi gallu cymeriad y fam i actio, ac mae’r meddygon eraill yn rhyfeddu ati. Mae’r ‘Esteban’ hefyd yn rhannu diddordeb ei fam yn y theatr, ac fel anrheg i ddathlu ei ben-blwydd, mae ‘Manuela’ wedi prynu tocynnau i fynd i weld cynhyrchiad o ddrama Tennessee Williams, ‘A Streetcar Named Desire’ gyda’i hoff actores ‘Huma Rojo’ (Diana Rigg) yn y brif ran. Wedi gweld ‘Huma’ yn gadael y theatr yn y glaw ar ddiwedd y ddrama, fe ruthra ‘Esteban’ ar draws y lôn i’w chyfarfod, ond caiff ei daro gan gar, a’i ladd. Nôl â ni yn syth i’r ysbyty, ble mae ‘Manuela’ yn gorfod ail-wynebu’r olygfa agoriadol unwaith eto, ond y tro yma, corff ei mab sydd dan sylw, a’r emosiwn bellach yn llawer mwy real.

Er bod y cychwyn braidd yn araf, buan iawn mae’r stori’n dechrau symud, a pherfformiad campus Lesley Manville fel y fam yn ddirdynnol o emosiynol a chofiadwy.

Wedi’r angladd, ac yn unol â dymuniad olaf ei mab i gwrdd â’i dad, fe ddychwel ‘Manuela’ i Barcelona, gyda’r gobaith o ail-gyfarfod â’r trawswisgiwr o ddrygiwr - ‘Lola’. Mae’n cychwyn chwilio yng nghartref ei chyfaill ‘Agrado’ (Mark Gatiss) - trawswisgiwr o butain, sydd ag acen Gymraeg hynod o gredadwy!. Heb os, ‘Agrado’ ydi’r cymeriad sy’n gyfrifol am gyflwyno’r hiwmor yn y cynhyrchiad, ac mae perfformiad Mark Gatiss i’w ganmol yn fawr.

Er mwyn canfod gwaith i’r fam, mae’r ddau yn mynd i loches ar gyfer puteiniaid sy’n cael ei reoli gan y lleian ifanc ‘Rosa Sanz’ (Joanne Froggatt). Er nad oes gwaith ar gael yno, fe ddatblygir cyfeillgarwch rhwng y fam a’r lleian ifanc, ac o ganfod fod ‘Rosa’ yn feichiog, (a hynny o ganlyniad i gysgu efo ‘Lola’ sef tad Esteban) sydd hefyd wedi’i heintio hi â’r clefyd AIDS, mae’r fam yn cymryd y ferch ifanc o dan ei hadain, ac yn gofalu amdani. Mae ‘Manuela’ hefyd yn canfod bod y cynhyrchiad o ddrama Tennesse Williams bellach wedi cyrraedd Barcelona, ac wedi mynychu perfformiad arall ohoni, mae’n mentro tu ôl i’r llwyfan i geisio gair â’r brif actores ‘Huma’. Daw’r ddwy yn ffrindiau, ac wedi gorfod cyfaddef y gwir reswm dros ddychwelyd i chwlio amdani, a’r ffaith bod ei mab wedi marw drwy geisio cael ei llofnod, fe ddyfnha’r berthynas rhwng y ddwy.

Daw’r cyfan i ben gyda genedigaeth mab ‘Rosa’, a elwir yn ‘Esteban’, ond yn drasig, mae ‘Rosa’n’ marw yn fuan wedi’r enedigaeth. ‘Manuela’ sy’n ymgymryd â’r dasg o fagu’r bychan, a hynny drwy gymorth ‘Mrs Sanz’ (Eleanor Bron) sef mam Rosa, sydd wastad wedi methu cyd-fyw â’i merch. Daw ‘Lola’ (Michael Shaeffer) tad y bychan yn ôl i weld ei fab, a chaiff yntau wybod am y tro cyntaf, mai ef hefyd oedd tad mab ‘Manuela’.

Ydi, mae’r cyfan yn gymhleth, a sawl haen a chymeriad arall yn ychwanegu at y cyfan. Ond mae’r cyfan yn hawdd iawn ei wylio, ac yn llifo’n rhwydd o un olygfa i’r llall. Heb os nag oni bai, mae’r addasiad yma yn llwyddo, a hynny oherwydd perfformiadau hynod o gofiadwy gan Lesley Manville, Mark Gatiss, Diana Rigg ac Eleanor Bron, ond hefyd drwy gyfarwyddo medrus Tom Cairns a set chwaethus Hildergard Bechtler. Set sy’n cyflwyno ni i fyd retro’r nawdegau, gan blethu byd dychmygol Tennessee Williams drwy’r cyfan. Braf oedd gweld yr actor o Bontypridd Bradley Freegard, (a fu’n rhan o gynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ‘The Grapes of Wrath’ yn gynharach eleni) yn rhan o’r cast cry’ o dair-ar-ddeg sy’n llwyddo’n rhyfeddol i sicrhau bod y ffilm lwyddiannus hon yn dod yn fyw ar lwyfan, a hynny mor gofiadwy a chredadwy â’r gwreiddiol.

Mae ‘All About My Mother’ i’w weld yn yr Old Vic tan Tachwedd 24ain. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.oldvictheatre.com

No comments: