Total Pageviews

Friday 7 April 2006

'Y Castell Coll' a 'Digon o'r Sioe'

Y CYMRO - 7/4/06

Byd y ddrama gerdd sy’n mynd â hi'r wythnos hon a dwy sioe gan ddau sefydliad sy’n meithrin doniau newydd yn y maes. Cwmnïau SBARC a Cofis Bach yng Nghaernarfon, ac Ysgol Glanaethwy. Sefydlwyd SBARC a Cofis Bach yn sgil agor y ganolfan gelf newydd Galeri - un yn meithrin doniau cerddorol a’r llall yn canolbwyntio mwy ar ddrama dan arweiniad yr actores Rhian Cadwaladr. Comisiynwyd Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan i gyfansoddi’r sioe ‘Y Castell Coll’ ar eu cyfer, a chafwyd hanes beth ddigwyddodd pan ddiflannodd y castell o’r maes yng Nghaernarfon. Cafwyd cyflwyniad bywiog a lliwgar gan y cast i gyd, ac roedd eu brwdfrydedd yn chwa o awyr iach. Er gwaetha’r problemau technegol, fe ddaliodd pawb ati’n ddygn, ac roedd eu gwylio’n mwynhau’r profiad yn ychwanegu at lwyddiant y noson. Un sylw at dro nesa, bechod na chawsom weld y band - criw SBARC, oedd yn cyfeilio i’r cast. Roedd eu cyfraniad hwythau'r un mor werthfawr â’r gweddill.

Ysgol Glanaethwy wedyn yn ail-fyw rhai o sioeau cerdd y gorffennol drwy gyflwyno ‘Digon o’r Sioe’ yn Theatr Gwynedd. Roedd hon yn sioe werth bob ceiniog o bris y tocyn!. I gyfeiliant hudolus Huw Geraint Griffiths ar y piano, cafwyd gwledd o gân gan griw o 60 disgybl. Cawsom flas hefyd ar rai o’r darnau bydd yr ysgol yn ei ganu mewn gŵyl yn yr Eidal y penwythnos yma, a phob lwc iddynt! Clod yn wir i Gefin a Rhian am yr hyfforddi, ac am lunio sioe fydd yn aros yn y co’ unwaith eto. Uchafbwynt y noson i mi oedd clywed Emyr Gibson yn ail-berfformio’r gân ‘Hon yw y foment’ a enillodd iddo’r Wobr Gyntaf yn y Steddfod y llynedd. Does ryfedd felly bod cymaint o ddiddordeb yng nghystadlaethau’r ‘unawd allan o sioe gerdd’ yn ein heisteddfodau, a hir y pery hynny!

Gyda rhai o’n sioeau cerdd fwyaf llwyddiannus bellach yn gadael y West End ac yn teithio’r wlad, mae yna lawer iawn mwy o gyfle i’w gweld. Gwledd liwgar arall oedd ‘Beauty and the Beast’ a fu yn Llandudno a Rhyl yn ddiweddar, a ‘Miss Saigon’ a fu’n Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Cofiwch hefyd bod ‘Cats’ yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno ar hyn o bryd tan Ebrill 15fed. Ac i edrych ymlaen at weddill y flwyddyn, wel bydd dwy ddrama gerdd newydd yn teithio’n fuan - a’r ddwy yn seiliedig ar gyfresi teledu o’r 80au. ‘Rentaghost’ yn ymweld â Llandudno ar Fehefin 3ydd a newyddion da i ffans Victoria Wood, mae ‘Acorn Antiques’ yn cael ei ail-lwyfannu ddiwedd y flwyddyn. Tydi’r cast ar gyfer y daith heb ei gadarnhau eto, ond bues i’n ddigon ffodus i weld y fersiwn wreiddiol y llynedd gyda Julie Walters, Celia Imrie, Neil Morrissey a’r Cymro Gareth Bryn o Ddyffryn Clwyd. Sôn am chwerthin! I’r rhai sydd methu disgwyl tan hynny, ac yn dymuno cael dos go hegar o hiwmor, maen nhw newydd ryddhau DVD o’r sioe, ac mae honno bellach ar gael yn eich siopau lleol.

Cofiwch fod Llwyfan Gogledd Cymru yn eich gwahodd i’r ‘Theatr Freuddwydion’ yr wythnos hon yng Nghaernarfon, Caerdydd a’r Wyddgrug; ond mynd i brofi’r ‘Camp a Rhemp’ gan Theatr Bara Caws fydda i, sy’n gwersylla yn Amlwch, Dinbych, Llansannan a Bangor.

No comments: