Total Pageviews

Friday 28 April 2006

'Esther'


Y Cymro - 28/4/06

Mae Gŵyl y Purim yn ddiwrnod pwysig i’r Iddewon. Dyma’r dydd maen nhw’n diolch am ddewrder y Frenhines Esther am achub eu hil. Mi fydda innau’n fythol ddiolchgar am yr unfed-ar-hugain o Ebrill 2006, oherwydd dyma pryd y bu i Daniel Evans adfer fy ffydd innau yn y Ddrama Gymraeg!

Clwyd Theatr Cymru oedd y lleoliad, ac ail-noson taith ddiweddara ein Theatr Genedlaethol efo drama Saunders Lewis ‘Esther’. Dwi’n ymfalchïo hefyd yn y ffaith bod ein Theatr Genedlaethol o’r diwedd wedi cychwyn ar ‘dymor y clasuron’ fydd yn ein cyflwyno ni i gynyrchiadau o ‘Diweddgan’ gan Beckett ac addasiad llwyfan o nofel Islwyn Ffowc Elis - ‘Cysgod y Cryman’, dros y misoedd nesaf.

Ond yn ôl i’r Wyddgrug, ac at gampwaith theatrig Daniel Evans. Wrth wylio’r cynhyrchiad, mae’n anodd credu mai dyma ‘r ail-gynhyrchiad iddo gyfarwyddo. Heb egwyl rhwng bob Act, fe blethwyd y cyfan yn fedrus a theatrig a hynny gyda graen brofiadol.

Drwy gyfuno set o’r cyfnod Beiblaidd a gwisgoedd o’r 1930au, fe’n cyflwynwyd i stori o ddewrder y frenhines Esther (Nia Roberts) yn mentro’i bywyd gerbron y brenin Ahasferus (Julian Lewis Jones) i ddileu’r proclamasiwn sy’n dedfrydu pob Iddew yn y deyrnas i farwolaeth. Er gwaetha ymdrechion Haman (Rhys Parry Jones) a Harbona (Carwyn Jones) i weithredu’r proclamasiwn, yr Iddewon sy’n ennill y dydd drwy ymdrechion y frenhines a’i chefnder Mordecai (Rhys Richards).

Seren y ddrama heb os, yw Rhys Parry Jones sy’n hoelio ein sylw o’r cychwyn cyntaf fel y prif weinidog. Dyma berfformiad fydd yn aros yn y co yn hir iawn - ei gynildeb, a’i ddawn i greu a chynnal cymeriad sy’n ysu am ddial.

Cafwyd perfformiadau cryf hefyd gan Julian Lewis Jones fel y brenin - ac roedd ei ymateb i Esther a’r cyfyng cyngor erbyn diwedd y ddrama, yn profi maint ei gariad tuag ati.

Cymeriad anodd arall yw Mordecai - yr Iddew sy’n cael ei ddedfrydu i farwolaeth ar gychwyn y ddrama, ond sydd yn y pendraw yn cael ei ddyrchafu’n brif weinidog. Yn bersonol, hoffwn i fod wedi gweld actor hŷn yn y rhan yma - er cystal perfformiad Rhys Richards, roedd y dyfnder ‘tadol’ ar goll yn y cymeriad.

Braf gweld y cwmni hefyd yn rhoi’r cyfle i actorion ifanc i dorri eu cwys, ac fe gafwyd perfformiad digon derbyniol gan Carwyn Jones fel swyddog yn y palas. Yn fyfyriwr o Goleg y Guildhall, Llundain ac yn gyn-enillydd Gwobr Goffa Richard Burton, roedd yna dueddiad weithia i fod yn adrodd-llyd - yn enwedig wrth gyhoeddi’r Proclamasiwn ar gychwyn y ddrama. Gyda phofiad a hyder, dwi’n sicr bod posib goresgyn hyn ac ystwytho’r mynegiant. A dyma ddod at y prif gymeriad - y frenhines Esther.

Roedd presenoldeb ac edrychiad Nia Roberts yn apelio’n fawr, a’i henw yn siŵr o ddenu cynulleidfa. Gyda phrofiad helaeth ar deledu, ffilm ac yn Saesneg ar y llwyfan, doeddwn i’m cweit yn gyfforddus gyda'i mynegiant o farddoniaeth Saunders. Roedd yma dueddiad weithiau i dorri brawddegau oedd yn peri imi ddyheu am y llyfnder a naturioldeb y ddialog.

Mae cyfraniad y gantores Karen Evans a’r dawnswyr hefyd i’w ganmol, gan osod naws hyfryd iawn ar gychwyn yr Act olaf. Wrth i fiwsig Dyfan Jones ‘aros o’n cwmpas ni fel pêr aroglau’, aros hefyd fydd safon a hyder y cynhyrchiad hwn. Diolch Daniel.

Mae’r cwmni yn ymweld ag Aberystwyth ar Fai 3ydd a 4ydd cyn mynd am Gaerdydd, Aberteifi, Abertawe a Bangor.

No comments: