Total Pageviews

Friday 21 April 2006

'Theatr Freuddwydion'



Y Cymro - 21/4/06

Cefais fy nghynghori rhywdro i beidio byth â mynd i weld drama ar y noson gyntaf! Twt lol, meddwn i. Os ydi’r cwmni yn disgwyl imi dalu £9.00 am docyn i’w gweld hi noson gynta’ (neu unrhyw noson arall), yna fe ddylai’r cynnyrch fod ‘run fath - os nad yn fwy ffres! Mentro felly i noson gyntaf cynhyrchiad diweddara’ Llwyfan Gogledd Cymru ‘Theatr Freuddwydion’ yn y Galeri yng Nghaernarfon.

‘Drama gerdd am griw o gefnogwyr Manchester United o Gaernarfon wrth iddynt ddilyn eu tîm ym 1999’ oedd ar hysbyseb y ddrama. Fel un heb iot o ddiddordeb mewn pêl-droed, roedd y ‘ddrama gerdd’ yn apelio. Yr actor Dewi Rhys sy’n gyfrifol am y geiriau a Dyfrig Evans am y gerddoriaeth - dau sy’n frwd eu cefnogaeth dros ‘Man U’ yn amlwg, ond dau sy’m cweit yn cytuno â mi ynglŷn ag ystyr ‘drama gerdd’! Tydi drama gydag un gân fer (wirion) dibwrpas ar y dechrau ac un ‘ddawns’ ar y diwedd ddim yn cyfiawnhau’r arddull!

Mae’r ddrama wedi’i lleoli yn Stadiwm y Nou Camp yn Barcelona ym 1999 - y flwyddyn y bu i Fanceinion Unedig guro Bayern Munich a gwireddu breuddwyd pob cefnogwr - cefnogwyr sy’n byw a bod i’w tîm fel Gareth - cymeriad Dyfrig Evans yn y ddrama. Dyma gymeriad dyrys a difyr, a fo heb os ydi cryfder y ddrama. Mae yma gyfoeth o ddeunydd yn y cymeriad - yr obsesiwn sydd ganddo dros ei dîm - obsesiwn sy’n rhoi’r gêm uwchlaw unrhyw beth arall yn ei fywyd. Bechod mai crafu’r wyneb yn unig a gawsom. Byddai tyrchu’n ddyfnach i’r cymeriad yma wedi bod yn llawer mwy diddorol na’r teipiau o gymeriadau eraill y cawsom ein cyflwyno yn y ddrama : y wraig yn y tŷ (Catrin Roberts), y bwli (Iwan ‘Iwcs’ Roberts), y barmêd (Lleuwen Steffan) a’r llipryn sy’n cefnogi Lerpwl (Llŷr Ifans). Collwyd y cyfle i roi Gareth dan fwy o bwysau a’i orfodi i ddewis rhwng ei egwyddorion a’i obsesiwn. Mae’n cellwair gyda’i wraig mewn un ‘olygfa ynglŷn â gorfod dewis rhwng mynd i angladd ei fam ta i gêm ‘Man U’. Un peth ydi cellwair, ond byddai gosod y cymeriad mewn sefyllfa o’r math yna ai ‘orfodi i ddewis o ddifri wedi bod yn llawer mwy dramatig.

Dwi’n ffan fawr o gynyrchiadau Ian Rowlands - dyma ŵr sy’n gwybod be’ di ystyr termau fel ‘theatrig’ a ‘dramatig’; mae’r hyn a welais i yng nghynyrchiadau blaenorol y cwmni fel ‘Ta Ra Teresa’, ‘Frongoch’ a ‘Deinameit’ yn brawf teilwng o hynny. Ro’n i’n disgwyl mwy yn y ‘Theatr Freuddwydion’; mae’r diwedd yn profi bod y potensial yna, ond byddwn i wedi croesawu ei weld llawer cynt. Mae dirfawr angen rhywbeth i gynorthwyo’r ddrama mewn mannau gan ei bod hi mor bytiog, ac i ddigolledu’r elfen gerddorol! Yn anffodus, roedd yna sawl gwendid o ran y sain a’r goleuo hefyd, ond gymerai mai gwendidau’r ‘noson gynta’ oedd y rhain - wedi’r cwbl, mi ges i’n rhybuddio yndo!

Os ydi’r gynulleidfa yn Y Galeri yn deilwng o weddill taith y cwmni, yna heb os, bydd y ddrama’n denu cynulleidfa newydd i’r theatr. Bechod eich bod wedi methu’r cyfle i’w syfrdanu drwy ddangos cryfder theatrig a dramatig y cyfrwng.

Bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar y 24ain o Ebrill, yna i Aberystwyth, Pwllheli a Bangor tan Mai 6ed.

No comments: