Y Cymro - 20/4/07
Cyfle i edrych mlaen yr wythnos hon am rai o’r cynhyrchiadau fydd i’w gweld dros y misoedd nesaf gan gychwyn efo Eisteddfod yr Urdd sy’n cael ei chynnal eleni, yn Sir Gâr. Ar Nos Sadwrn, 26ain o Fai yn y Pafiliwn gwelir hanes ‘Y Llyfr Du’ sef sioe wedi ei hysgrifennu gan Mererid Hopwood a Tudur Dylan, a’r gerddoriaeth gan Dyfan Jones, a'i chyfarwyddo gan Cefin Roberts. Hon yw sioe agoriadol yr Eisteddfod ac yn mynd â ni i ddirgelion 'straeon a cherddi un o drysorau mwyaf ein Llên, sef Llyfr Du Caerfyrddin’.
‘Dagrau’r Coed’ yw enw’r sioe ieuenctid, a bydd hon i’w gweld yn Theatr y Lyric ar Nos Sul a Nos Lun, 27ain a’r 28ain o Fai. ‘Mae’r sioe gerdd hon am griw o bobl ifanc yn wynebu penderfyniadau; penderfyniadau pwysicaf eu bywydau. Mae'n sioe am gyfeillgarwch a chasineb, am ddisgwyliadau rhieni i'w plant ac am gariad a thrais… Drama gerdd Gymreig sy'n ffres, yn ddeinamig ac yn real’.
Ac yn ôl i’r Pafiliwn ar Nos Fawrth a Nos Fercher, 29ain a’r 30ain o Fai ar gyfer pasiant y plant sef ‘O Bren Braf! ‘Alegori wedi ei lleoli o gwmpas coeden lle mae criw o blant yn chwarae sydd yma, plant sydd yn gweld y goeden yn bwysig am wahanol resymau. Mae’r bechgyn yn gweld y goeden fel arwydd o’r gorffennol, lle cânt gwrdd ag arwyr megis Twm Sion Cati ac Owain Glyndŵr. Ond mae gwrthdaro rhwng y bechgyn a’r merched. Mae’r merched yn ystyried y goeden fel arwydd o’r dyfodol. Maen nhw’n sylweddoli fod gan y goeden bwerau hudol sy’n caniatau iddyn nhw weld i’r dyfodol.’ Mynnwch eich tocynnau yn fuan ddweda i!
‘Cariad Mr Bustl’ sef cyfieithiad Gareth Miles o’r ddrama ‘Le Misanthrope’ gan Molière fydd yn dod â ‘Thymor y Clasuron’ ein Theatr Genedlaethol i ben dros yr wythnosau nesaf. ‘Comedi soffistigedig am frwydr un dyn i fod yn onest a diffuant mewn byd rhagrithiol’ yw cefndir y ddrama. ‘Mae Selina yn wraig weddw ifanc, brydferth a chanddi gyfrif banc helaeth. Mae pob dyn yn heidio ar ei hôl hi, a Mr Bustl yn eu plith . . . er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n euog o bob ‘trosedd’!.’ Mae’r cast yn cynnwys Ffion Wyn Bowen, Huw Garmon, Mirain Haf, Clare Hingott, Glyn Morgan, Rhian Morgan, Dyfrig Morris, Jonathan Nefydd, Seiriol Tomos a Llion Williams gyda Judith Roberts yn cyfarwyddo. Tryweryn fydd thema cynhyrchiad nesa’r cwmni ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint eleni. Manon Eames sydd yng ngofal y sgript a Tim Baker yn cyfarwyddo, gan fod y cynhyrchiad ar y cyd â chwmni Clwyd Theatr Cymru. Cynhelir y perfformiadau ym mhrif awditoriwm Theatr Clwyd - 4 perfformiad rhwng nos Fawrth 7fed a nos Wener 10fed o Awst, gyda matinee arbennig ar bnawn Sadwrn 8fed o Awst. ‘Bydd yn gynhyrchiad ar raddfa fawr a bydd cyfle i'w weld wedi'r Eisteddfod gyda thaith i’r prif theatrau rhwng yr 11eg o Fedi a’r 13eg o Hydref.
Sioe arall fydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yn ystod yr Eisteddfod fydd Caffi Basra’ sef sioe glybiau newydd Theatr Bara Caws, gan Eilir Jones. Yn y cast hefyd mae rhai o selogion mwya' poblogaidd y sioeau clybiau, Maldwyn John, Gwenno Hodgkins, a Lisa Jen. Bydd y cwmni hefyd yn teithio wedi’r Ŵyl.
Ac o sôn am Clwyd Theatr Cymru, os yda chi’n digwydd bod yn Efrog Newydd ym mis Mai, cofiwch fod y cwmni yn perfformio ‘Memory’ gan Jonathan Lichtenstein fel rhan o’r ŵyl ‘Brits on Broadway’ rhwng y 5ed a’r 27ain o Fai.
Mae Llwyfan Gogledd Cymru ar fin cychwyn eu hail-daith efo’r ddrama ‘Branwen’. Bydd y daith yn cychwyn ar y 3ydd o Fai ac yn ymweld ag Aberystwyth, Felinfach, Ystradgynlais, Bae Colwyn, Caerdydd, Caernarfon, Yr Wyddgrug a Chlwb Cymru Llundain. Bydd y cwmni hefyd yn ymweld ag Iwerddon ar gyfer tri pherfformiad yn Waterford, Letterkenny a Kilkenny.
‘Rhieni Hanner Call a Gwyrdd’ fydd cynhyrchiad nesaf Theatr Arad Goch sef addasiad Sera Moore Williams o lyfr Brian Patten. Mae’r cynhyrchiad yn addas i blant 7-11 oed a bydd y cwmni yn teithio ym mis Mehefin a Gorffennaf.
Digon i’w weld felly dros fisoedd yr Haf.
No comments:
Post a Comment