Total Pageviews

Friday 2 March 2007

'Of Mice and Men' a 'Arcadia'

Cymro - 2/3/07

Gan fod cyn gymaint o ddramâu ar daith ar hyn o bryd, mae’n dipyn o her i geisio canfod y cyfle i weld bob dim. I ffwrdd â mi am Theatr Clwyd ddydd Sadwrn diwethaf i weld dwy sioe sy’n cael ei lwyfannu yno ar hyn o bryd.

Addasiad Tim Baker o nofel John Steinbeck ‘Of Mice And Men’ oedd y cynhyrchiad cyntaf imi weld. Fel ei addasiad diweddar o nofel arall gan Steinbeck ‘The Grapes of Wrath’ , dyma stori bwerus am ddau gyfaill - ‘George’ (Gwyn Vaughan Jones) sy’n gall a synhwyrol, a’r labwst plentynnaidd ‘Lennie’ (Dyfrig Morris) sy’n ffoi o fferm i fferm i chwilio am waith yn ystod Y Dirwasgiad Mawr yn America’r 1930au. Mae’r ddau yn cyrraedd fferm fawr ger Soledad yn Nyffryn Salinas, ac yno mae’r stori wedi’i leoli wrth i’r ddau ddod wyneb yn wyneb efo’r bwli o fos ‘Curley’ (Alex Parry) a’i fflyrt o wraig (Catrin Aaron) a’r gweithwyr eraill ar y fferm : ‘Slim’ (Simon Armstrong), ‘Candy’ (John Cording) a’r gweithiwr croenddu ‘Crooks’ (Reginald Tsiboe). Er cyn lleied y cast, llwyddodd y cynhyrchiad yma i gyflwyno’r stori yn ei chyfanrwydd, a hynny yn syml a hynod o effeithiol.

Dyma brawf pellach o allu Tim Baker oedd hefyd yn cyfarwyddo’r fersiwn syml ond hyfryd hwn am anhegwch y gweithwyr yn erbyn eu meistri. Cafwyd goleuo gofalus a phwrpasol gan Nick Beadle, ac effeithiau sain drawiadol gan Kevin Heyes oedd yn ychwanegu at gynllun set moel ac anial Mark Bailey.

Roedd yma eiliadau o theatr pur yn enwedig wrth aros am sŵn y fwled oedd yn dynodi diwedd yr hen gi, a’r un modd wedyn ar ddiwedd y ddrama. Cafwyd cyd-actio penigamp gan y cast i gyd, ond roedd Gwyn Vaughan Jones a Dyfrig Morris yn serennu fel y ddau brif gymeriad. Cafwyd portread sensitif iawn gan Dyfrig o’r ‘Lennie’ annwyl a llwyddodd i ennyn cydymdeimlad pob aelod o’r gynulleidfa. Gobeithio yn wir y cawn ni weld llawer mwy gan Dyfrig ar lwyfannau Cymru, a hynny yn y Gymraeg.

Does ryfedd bod tocynnau i weld y cynhyrchiad yma fel aur; mae’n werth ei weld, petai ond i brofi nad oes angen setiau mawr a chast mwy i ddweud stori mewn ffordd hynod o drawiadol a chofiadwy…

‘Arcadia’ gan Tom Stoppard oedd yr ail-ddrama imi’i weld, a hynny o dan gyfarwyddyd y meistr ei hun, Terry Hands. Dyma ddrama anodd ei deall, ac o’r herwydd, nes i ddim ei mwynhau hi gystal. Wedi dweud hynny, roedd hi’n bleser pur i wylio’r cynhyrchiad, gan ryfeddu at allu Terry i greu darluniau hyfryd ar y llwyfan.

Mae’r ddrama wedi gosod mewn dau gyfnod - 1809 a 1989 ac mae’r stori wedi’i leoli mewn plasty gwledig o’r enw Sidley Park. Ar ddechrau’r ddrama, cawn ein cyflwyno i ferch y teulu ‘Thomasina’ (Caryl Morgan) sy’n derbyn gwersi Mathemateg gan ei hathro ‘Septimus Hodge’ (Lee Haven-Jones). Cawn hefyd ein cyflwyno i ‘Lady Croom’ (Carol Royle) sy’n trafod addasiadau i’r ardd efo’i garddwr ‘Mr Noakes’ (Robert J Page) yn ogystal â’r bardd ‘Ezra Charter’ (Wayne Cater) sy’n dod i gyhuddo’r athro Mathemateg o fod wedi cael perthynas efo’i wraig! Fel ro’n i’n dechrau dod i wneud synnwyr o’r stori, cawn ein cyflwyno i gymeriadau’r ‘presennol’ sef ‘Hannah’ (Vivien Parry) a ‘Bernard’ (Steven Elliott) sy’n ddau academydd sy’n ceisio gwneud synnwyr o ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae’r dirgelwch yn codi o ymweliad y bardd a’r Arglwydd Byron nôl ym 1809 sy’n esgor ar lu o straeon ei fod o wedi saethu aelod o’r teulu yn farw yn yr ardd. Rhaid cyfaddef, erbyn hyn, roedd fy mhen i wedi drysu yn lân rhwng y doethinebu tragwyddol am wyddoniaeth a beth sy’n creu athrylith a’r jôcs oedd yn saethu fry uwchben bachgen ag addysg Ysgol Dyffryn Conwy!

Yma eto, cafwyd perfformiadau cry a chofiadwy gan Lee Haven-Jones fel yr athro oedd yn cynnal y comedi ar adegau; mae’r un peth yn wir am Vivien Parry, Steven Elliott ac Oliver Ryan sy’n achub y cynhyrchiad o’i dyfnderoedd dryslyd.

Bydd ‘Of Mice And Men’ ac ‘Arcadia’ i’w gweld yn yr Wyddgrug tan Fawrth 3ydd. Bydd ‘Arcadia’ yn teithio i’r Theatr Newydd yng Nghaerdydd rhwng y 6ed a’r 10fed o Fawrth.

No comments: