Total Pageviews

Friday 16 March 2007

'Mae gynnon ni hawl ar y ser'


Y Cymro - 16/3/07

Mae’n rhaid imi ganmol Llwyfan Gogledd Cymru. Maen nhw’n gwybod yn union sut i godi ffrae! Flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio deud y drefn mod i wedi cael fy nghamarwain pan es i draw i’r Galeri i weld y ‘ddrama gerdd’ di-gerddoriaeth ‘Theatr Freuddwydion’. Wythnos yma, es i draw i Neuadd Dwyfor i weld eu cynhyrchiad diweddara sef drama Iwan Llwyd - ‘Mae gynnon ni hawl ar y sêr’. Roedd y deunydd marchnata wedi codi diddordeb mawr ynof - ‘Petai Hedd Wyn wedi goroesi a dychwelyd i Gymru a fyddai wedi bod cyn bwysiced i ni fel cenedl ag ydyw heddiw?’ Tipyn o ddatganiad, ac awydd sicr i wybod mwy. ‘Yn wir, cred rhai, gan gynnwys y dramodydd, pe na bai wedi marw, na fuasai wedi ennill y gadair - mai cynllwyn gwleidyddol a'i gwobrwyodd!’ meddai ‘Llefarydd ar ran Llwyfan Gogledd Cymru’. Wedi’r fath ragflas, roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw wrth ‘yrru draw am Neuadd Dwyfor er mwyn dysgu mwy…

Dwi fawr callach wedi bod. Doedd a wnelo’r hyn a welais ar y llwyfan ym Mhwllheli ddim oll ag unrhyw ‘gynllwyn gwleidyddol’. A bod yn onest, yn fy marn i, doedd a wnelo’r ddrama fawr mwy am Hedd Wyn!

Mae’r stori wedi’i osod mewn caffi yng ngwlad Belg ym mis Gorffennaf 1917. Rhaid canmol gwaith y cynllunydd Rhys Jarman am greu un o’r setiau mwya trawiadol welis i ar lwyfan yng Nghymru ers tro. Yn gweini yn y caffi mae merch ifanc leol (Rhian Blythe) sy’n dallt bob gair o Gymraeg gyda llaw! Yn anffodus i Rhian, ac er mawr gywilydd i’r cwmni, roedd ei gwisg yn gwbl anghywir i’r cyfnod. Go brin y byddai’r sgert mor gwta, a’r esgidiau sawdl uchel coch - oedd yn cael cyn gymaint o sylw, ddim hyd yn oed o’r cyfnod cywir! Yn dod i gadw cwmni iddi yn y caffi mae milwr o Rwsia (Huw Garmon) sydd wedi’i wisgo’n chwaethus a chywir a’i gleddyf ynghlwm wrth ei ochor. Mae’r ddau’n trin a thrafod y rhyfel (eto mewn Cymraeg graenus) a’r milwr yn rhoi ei safbwynt o - a Rwsia ar bethau. I mewn i’r olygfa yma daw Hedd Wyn (Huw Llyr) sydd eto wedi’i wisgo’n gywir mewn lifrai o’r cyfnod. Wrth iddo fochel rhag y glaw tu allan, mae’n archebu cwrw a chawl, ac yna mae’r sgwrsio a’r dadlau yn cychwyn rhwng y tri. Yn anffodus, mae cynnwys eu sgwrs yn syrffedus o sych, a’r unig beth a’m cadwodd rhag syrthio i drwmgwsg oedd cyfarwyddo celfydd Ian Rowlands a dyfyniadau difyr o ddyddiadur a llythyrau Hedd Wyn oedd yn cael eu taflu yma ac acw i roi blas i’r cyfan.

Braf oedd gweld Huw Garmon yn ôl ar lwyfan, ac roedd ei bortread o’r milwr yn gryf a chadarn ac yn bwrw’i gysgod dros bawb, gan gynnwys Hedd Wyn. Er cystal ymdrech Rhian Blythe a Huw Llyr, allwn i’m teimlo bod y ddau wedi mynd dan groen eu cymeriadau a rhaid i’r sgript gymryd rhyw gymaint o’r bai am hyn.

Prif wendid y cynhyrchiad i mi’n bersonol oedd fy anallu i gredu yn y sefyllfa oedd ar y llwyfan. Mae’n hen ddadl bod gormod o Saesneg i’w weld ar lwyfannau Cymru, a phetai’r tri chymeriad yn y ddrama wedi bod yn ddi-Gymraeg, yna allwn i dderbyn y ffaith bod pawb yn siarad Cymraeg. Ond gan fod Hedd Wyn yn Gymro, ac yn cynrychioli Cymru yng ngwlad Belg, roedd clywed y tri yn siarad Cymraeg graenus yn fy nhaflu’n llwyr. Mae’r ferch ifanc yn gofyn i Hedd Wyn adrodd ychydig o’i gerddi, mae yntau’n gwneud, a hithau’n ymateb bod y gwaith yn hyfryd. Yna, ychydig yn hwyrach, mae’r bardd o Gymro yn sôn am yr Eisteddfod, a hithau wedyn yn holi ‘beth ydi Eisteddfod?’. Wel, os ydi hi ddigon call i ddeall ei farddoniaeth yn y Gymraeg, pam aflwydd bod hi’m yn gwybod be di steddfod?! Roeddwn i wedi drysu’n lân! Ddigwyddodd yr un fath efo milwr o Rwsia wrth geisio egluro arwyddocâd seremoni’r cadeirio. Oni fyddai’n well petai dau filwr o Gymru wedi bod yn brif gymeriadau’r ddrama er mwyn trosglwyddo’r stori, ac yna cadw’r milwr o Rwsia a’r ferch fel is-gymeriadau a chael y ddau Gymro i drafod eu safbwynt?

Set drawiadol Rhys Jarman a goleuo gofalus Duncan Thompson, ynghyd â dawn Ian Rowlands fel cyfarwyddwr sy’n achub y cynhyrchiad yma rhag mwy o ddeud drefn. Ond wrth ‘yrru adref am Ddyffryn Ogwen, allwn i’m peidio teimlo mod i wedi cael fy nghamarwain ETO…

No comments: