Total Pageviews

Friday 23 March 2007

'Gwaun Cwm Garw'


Y Cymro -23/3/07

Eleni, mae Theatr Bara Caws yn dathlu’i phen-blwydd yn ddeg ar hugain. Dwy oedd yn ymwneud â chynhyrchiad cynta’r cwmni sef ‘Croeso i’r Roial’ ym 1977 oedd Sharon Morgan a Catrin Edwards. Y dyddiau hynny, roedd Theatr Bara Caws yn creu sioeau ar y cyd i brocio cydwybod gymdeithasol a gwleidyddol cymunedau Cymru - ‘i greu trafodaeth, taflu goleuni a lleisio gofidiau’ yn ôl Sharon Morgan, yn rhaglen cynhyrchiad diweddara’r cwmni - ‘Gwaun Cwm Garw’, ac mae’r ddrama hon ‘…yn torri’r un gŵys’.

Ar y seithfed o Hydref 1998, daethpwyd o hyd i fachgen ifanc hoyw wedi’i glymu i ffens, yn y bryniau tu allan i dref Laramie yn nhalaith Wyoming yn yr Unol Dalieithau. Roedd Matthew Shepard wedi’i glymu a’i guro’n ddidrugaredd, ac wedi’i adael yno i farw mewn gweithred o drais a ddychrynodd cenedl gyfan. Cafodd y digwyddiad effaith mawr ar y dramodydd a’r cyfarwyddwr Moises Kaufman a’i gyd aelodau o Brosicet Theatr Tectonic. Bu’r cwmni yn ymweld â Laramie chwe gwaith dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn dilyn y llofruddiaeth gan gynnal dros 200 o gyfweliadau gyda thrigolion y dref. Trwy ddefnyddio’r cyfweliadau yma ynghyd ag ymateb personol a gonest aelodau’r cwmni, aethpwyd ati i lunio’r ddrama ‘The Laramie Project’ sy’n adrodd hanes y dref a’i thrigolion, flwyddyn wedi’r llofruddiaeth. Trwy ddefnyddio wyth actor i bortreadu dros chwedeg o leisiau, mae’r canlyniad yn agoriad llygad trawiadol a dramatig ynglŷn ag ymateb cymuned gyfan tuag at lofruddiaeth gŵr ifanc hoyw.

Fe gefais i wefr o ddarllen y ddrama wreiddiol a mwy o wefr o wylio’r fersiwn ffilm a wnaethpwyd gan Kaufman yn 2002. Allwn i wir ddim meddwl sut oedd Sharon Morgan yn mynd i addasu’r ddrama hon ar gyfer Theatr Bara Caws, a’i thrawsblannu i Dde Cymru o dan y teitl ‘Gwaun Cwm Garw’. Roeddwn i’n hynod o bryderus, yn fwy felly o ddallt mai dim ond chwe actor oedd gan y cwmni, o dan gyfarwyddyd Catrin Edwards. Sut oedd posib trosglwyddo talp o hanes emosiynnol Wyoming i Walia?

Ar eu noson gynta yn yr Wyddgrug, wnaethon nhw lwyddo?. Mae’r ateb yn syml. Do - ar y cyfan. Yn rhyfeddol, mae’r addasiad YN gweithio o’i chanoli mewn tre golegol sy’n atgoffa rhywun o Gaerfyrddin - er nad oes enw yn cael ei grybwyll. Mae’r Waun sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama ar gyrion y dref, a’i thrigolion yn gymysgfa o ffermwyr, academyddion, darlithwyr, myfyrwyr a sawl sect grefyddol. Yn ystod y ddrama, cawn ein cyflwyno i’r heddlu lleol, i gyfeillion a chydnabod Matthew Shepard (do, fe gadwyd at yr enw gwreiddiol), i’r ddau lofrydd Andy King a Wayne Hughes, i’r meddygon, newyddiadurwyr, cyfreithwyr a llu o drigolion eraill. Rhaid canmol y chwe actor am fedru llithro o un cymeriad i’r llall mor rhwydd a diffwdan, ac am berfformiadau cofiadwy iawn.

Ifan Huw Dafydd ar ei orau fel yr heddwas lleol a’r gweinidog oedd yn gwrthwynebu hoywon; Jonathan Nefydd yn gadarn fel y llefarydd ar ran yr ysbyty a’r gweinidog ar ran y Bedyddwyr; Geraint Pickard wedyn yn gynnil a sensitif fel y myfyriwr Jonathan Spencer a’r bachgen ifanc sy’n canfod y corff; Maria Pride yn angerddol fel cyfaill Matt a’r blismones Ruby Williams sy’n pryderu ei bod hi’n HIV+; a Delyth Wyn yn gryf fel y ddarlith wraig yn y coleg a mam y blismones bryderus. Er cystal perfformiadau’r pump arall, roedd Rhodri Evan yn serennu wrth bortreadu POB UN o’i gymeriadau yntau; o Sarjant Harris i Micky Rowlands oedd yn gweithio yn y bar ble ymwelodd Matthew cyn cael ei lofruddio, a ble y cwrddodd â’i ddau lofrudd. Roedd ei bortread o un o’r llofruddwyr Andy King yn brawf pendant o’i euogrwydd, ac yn dangos pam y cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.

Wrth ganmol yr actorion, mae’n rhaid rhoi clod hefyd i Catrin Edwards am wneud gwyrthiau drwy gadw’r holl stori i lifo’n rhwydd o un cymeriad a lleoliad i’r llall, a hynny drwy gyfuniad o oleuo effeithiol gan Iestyn Griffiths, gwisgoedd amrywiol Jilly Thornley, trac sain drawiadol Berwyn Morris-Jones a set gynnil Emyr Morris-Jones. Cyfuniad llwyddiannus iawn oedd yn ychwanegu at lwyddiant y sioe.

Er bod y neges y ddrama yn gweithio yn Y Gymraeg, ac yn berthnasol i Gymru fel pob gwlad arall, chefais i ddim yr un wefr o’r hyn a welais ar lwyfan fel y cefais o’r darlleniad neu’r dangosiad o’r ffilm. Cryfder y ddrama i mi yw’r ffaith bod hyn WEDI digwydd yn Laramie, ac mai geiriau a chydwybod ac euogrwydd y dref honno yw’r tystiolaethau yma. Yn yr un modd, fyddai creu drama am hanes Aberfan a’i thrawsblannu i wlad arall yn colli’i chryfder sef y realiti amrwd hwnnw sy’n perthyn i’r enw hyd yn oed.

Ar gefn rhaglen y cynhyrchiad presennol, mae rhagflas o gynhyrchiad nesa’r cwmni sef sioe glybiau o’r enw ‘Caffi Basra’ am ‘gyn-filwr fu’n wynebu’r gelyn peryglus yn Irac, yn agor caffi nôl yng Nghymru’. A ninnau ynghanol y Rhyfel gwaedlyd yn Irac, yda ni’n barod i chwerthin am hyn? Cynhyrchiad arall fydd yn sicr o brocio cydwybod gymdeithasol a gwleidyddol cymunedau Cymru…

No comments: