Y Cymro 14/08/15
Tra bod pawb arall yn
heidio tua mwynder Maldwyn, llusgo’n hun i’r Savoy wnes i (dan frathiad go
hegar o enau’r ‘ci du’) er mwyn ymuno yn y llu sydd eisoes wedi canmol portread
‘perffaith’ Imelda Staunton o ‘Rose’ yn y ddrama gerdd ‘Gypsy’.
Wythnos briodol iawn i
weld y sioe wefreiddiol hon am fam ‘eisteddfodol’ sy’n mynnu gwthio ei
‘phlant’, ac yn arbennig felly ei merch ei hun – y ‘Jane’ benfelen berffaith yn
gyntaf, ac wedyn yr enwog ‘Gypsy Rose
Lee’ i lygaid y llwyfan. Er gwaetha pawb
a phopeth, a’r ffaith hynod o greulon nad oes gronyn o dalent yn perthyn i’w
ddwy, mae’r ‘Rose’ gegog a llawn hyder yn ddall o realiti’r sefyllfa. Y
gwirionedd creulon sy’n codi dagrau diffuant iawn erbyn y diwedd yw mai
methiant gyrfa’r fam sy’n gyfrifol am wthio a bwlio’r ‘plant’ o flaen
cynulleidfaoedd Vaudeville'r cyfnod.
Er imi brynu tocyn dros
flwyddyn yn ôl i weld y sioe yn ei chartref chwarelyddol creadigol yng Ngŵyl Chichester, methais â chyrraedd y fan honno, a bûm yn cicio’n hun am flwyddyn
gyfa am fethu’r wledd. Erbyn hyn, mae’r
tocynnau fatha aur, a’r prif reswm heb os nag oni bai ydi portread gwefreiddiol
Imelda Staunton sy’n hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd dduwch y diwedd. Un o’r portreadau hynny sy’n gyrru iâs oer i
lawr y cefn, ac yn naddu’i le haeddiannol yn y cof. Erbyn diwedd yr Act Gyntaf, a’i ‘phlant’ wedi
ffoi, a’r dyfodol yn edrych yn unig ac
oer, mae ei datganiad di-fai o’r gân glasurol ‘Everything’s Coming Up Roses’ yn
ein paratoi’n berffaith ar gyfer corwynt yr ail act.
Ar gwrs ffilm
ryngwladol sawl blwyddyn yn ôl, mi ddysgais am bwysigrwydd taith y prif
gymeriad, ddylai fod yn ddigon cryf i gynnal diddordeb y gynulleidfa. Cyfrinach y daith (a llwyddiant y stori) yw
lle i gychwyn y daith, er mwyn caniatáu digon o filltiroedd emosiynol i’w
godro. Byddai rhai yn dadlau bod ‘Rose’ druan wedi cyrraedd diwedd ei thaith ar
gychwyn y sioe. Ond cryfder cywaith Jule Styne, Stephen Sondheim ac Arthur
Laurents yw gwthio’r cymeriad i’w eithaf, a gogoniant Imelda Staunton yw
cyfiawnhau pob eiliad o’r daith ddramatig honno.
Mae’r sioe hefyd yn
llawn o ganeuon adnabyddus sy’n fêl i’r glust fel ‘Some People’, ‘Together,
Wherever we go’, ‘Small World’ a’r anfarwol ‘Everything’s Coming up
Roses’. Llifai môr o atgofion yn ôl am
Iola Gregory yn y ffilm wych ‘Rhosyn a Rhith’ wrth geisio achub ei sinema leol;
y diweddar Cilla Black, Lilly Savage (Paul O’Grady) a Barbara Windsor yn
ail-fyw’r gân adnabyddus arall ‘You Gotta Get a Gimmick’ ar lwyfan y Royal Vareity; a mam yn fy ngorfodi fel plentyn 8 oed i wisgo fel ‘Gypsy Rose Lee’ a
minna fawr callach mai seren striptease oedd prif enwogrwydd honno!!
Yn seiliedig ar
atgofion ‘Gypsy Rose Lee’ am ei mam o 1957, mae’r ddrama gerdd yn cael ei
harddel fel un o’r goreuon, a hynny gan amla’ yng nghyswllt portreadau anfarwol
y goreuon o’r ‘fwystfil o fam’ neu’r ‘fam llwyfan eithafol’ sy’n cynnwys Ethel Merman, Angela Landsbury, Patti LuPone,
Bette Midler a bellach Imelda Staunton.
Mae yna ambell docyn ar
gael, gyda’r rhataf (yng nghefn y stalls) am gyn lleied â £24. Ond mae’n rhaid i’r llen terfynol ddisgyn ar
y 28ain o Dachwedd eleni, cyn i Imelda Druan ddisgyn yn un swp, wedi’r daith
emosiynol, angerddol a chwbl drydanol.